Mae Penfro yn un o'r trefi mwyaf yn sir Benfro. Gyda hanes cyfoethog a diwylliant amrywiol, mae'n denu ymwelwyr o bob cwr o'r byd sy'n mwynhau ei draethau hardd a’i atyniadau niferus. Yn hawdd i'w gyrraedd ar y trên, mae Penfro yn fan cychwyn da i grwydro Sir Benfro hyfryd.
1. Archwiliwch Hanes Castell Penfro
Gellir dadlau mai Castell Penfro yw un o gestyll mwyaf trawiadol Cymru, ac mae wedi sefyll yn y fan hon wrth ymyl Afon Penfro ers 1098 pan ddechreuodd Arnulf de Montgomery ei adeiladu.
Yn y 1200au ychwanegwyd y waliau amddiffynnol mawreddog at gyfadeilad y castell, ac aeth Penfro rhagddo i chwarae rhan fawr yn Rhyfel Cartref Lloegr pan roddodd milwyr y Brenin y castell dan warchae. Fel rhan o'r ail ryfel cartref, ym 1648 concrodd Oliver Cromwell y castell a gorchymyn ei ddinistrio.
Ar ôl yr hanes cythryblus hwn, bu’n adfail am ganrifoedd nes, yn 1928, cychwynwyd rhaglen adfer helaeth, ac erbyn hyn mae’n atyniad poblogaidd i dwristiaid. Gydag amrywiaeth o arddangosfeydd, caffi ar y safle a llawer i’w weld a’i wneud, mae Castell Penfro yn rhywbeth y mae’n rhaid ei weld pan fyddwch yn ymweld â’r dref.
- Dysgwch am y castell hynod ddiddorol hwn - gan gynnwys Ceudwll y Wogan
- Mynediad o £6.00
- Gwefan Castell Penfro
2. Treuliwch Ddiwrnod ar Draeth Barafundle
Wedi’i bleidleisio fel un o draethau gorau Prydain ac yn aml yn cael ei gymharu â thraeth paradwysaidd yn y Caribî, mae Traeth Barafundle yn hynod boblogaidd. Mae dyfroedd crisial wedi’u cysgodi a thywod llydan, ysgubol yn gwneud hwn yn draeth teuluol perffaith ar gyfer cestyll tywod a nofio. Mae'r bae wedi'i gerfio allan o'r clogwyni calchfaen garw sy'n rhan o Benrhyn Castell Martin a thywodfaen coch Cei Ystagbwll i'r gogledd-ddwyrain.
Y tu ôl i’r ehangder o dywod, mae cymhlethfa o dwyni mawr a choedwigoedd pinwydd cysgodol yn gwneud y daith gerdded o’r maes parcio i’r traeth yn hamddenol ac yn hawdd, ac er nad oes cyfleusterau, mae Bae Barafundle wedi ennill nifer o wobrau. Mae’r rhain yn cynnwys ymddangos ar restr o’r 12 traeth gorau yn y byd, ennill lleoliad picnic gorau’r DU yng nghylchgrawn Country Life, a Gwobr Glan Môr ac Arfordir Glas Gwobrau Arfordir Cymru.
Safe for families, plenty of sand for digging, and great for getting away from it all - Barafundle Beach will keep you coming back for more.
- Mwynhewch y Caribî Cymreig
- Gwobr Arfordir Glas
- Gwefan Traeth Barafundle
3. Hwyl ac Addysgiadol - Amgueddfa Penfro
Mae neuadd y dref Gradd II Penfro yn gartref i Amgueddfa Penfro. Gan arddangos creiriau ac arteffactau yn ymwneud â gorffennol hanesyddol y dref, gallwch ddilyn stori’r bobl sydd wedi galw Penfro’n gartref. O Oes y Cerrig, trwy ganrifoedd o frwydrau a theulu brenhinol, gwleidyddiaeth a theuluoedd, hyd heddiw, mae’r arddangosion yn cynnwys teganau plant, gwisgoedd Cymreig traddodiadol, creiriau o hanes morwrol yr ardal, a hen luniau di-ri.
Wedi'u paentio gan yr artistiaid lleol, George a Jeanne Lewis, mae Murluniau Penfro yn denu llawer o ymwelwyr ac yn darlunio, mewn lliw godidog, stori Penfro a'i phobl. Am rywbeth ychydig yn wahanol ewch allan ar lwybr trysor o amgylch y dref. Gan adael i’r placiau efydd eich arwain, mae cymaint i’w ddysgu am Benfro ar hyd y canrifoedd – mae’n ffordd wych o brofi hanes.
- Perffaith ar gyfer pobl sy'n hoff o hanes
- Archwiliwch hanes Penfro
- Gwefan Amgueddfa Penfro
Mae gan Benfro gymaint i’w gynnig i’r llu o ymwelwyr sy’n cyrraedd bob blwyddyn, a chyda dewis eang o lety, dylai fod ar restr pawb o gyrchfannau gwyliau.
-
Oeddech chi’n gwybod?Teithiwch yn SaffachGallwch gynllunio ymlaen llaw a phenderfynu pryd i deithio gan ddefnyddio ein Gwiriwr Capasiti.Gwirio capasiti
-
Cas-gwent Dewch i ddarganfod Visiting Chepstow
-
Caergybi Dewch i ddarganfod Visiting Holyhead
-
Ymweld â Chaerfyrddin Dewch i ddarganfod Visit Carmarthen
-