Teithio i Gastell Biwmares ar y trên
Yr orsaf agosaf: Bangor
2 munud o cerdded > 28 munud ar fws o’r orsaf > 1 munud o cerdded - gweld y map
Mae Biwmares ar Ynys Môn yn enwog am ei gastell mawreddog na chafodd ei gwblhau.
Hwn oedd y cadarnle brenhinol olaf i gael ei adeiladu gan Edward I yng Nghymru a’r bwriad oedd mai hwn fyddai’r “castell i ragori ar bob castell arall”.
Mae’r castell ychydig yn bellach i ffwrdd o’r orsaf drenau na rhai o’r atyniadau eraill rydyn ni wedi’u rhestru, ond os ewch chi ar daith fer ar y bws o orsaf Bangor, fe gewch chi gyfle i weld y campwaith â’ch llygaid eich hun.
Gallwch chi gael rhagor o wybodaeth am Gastell Biwmares a’i hanes drwy fynd i wefan Cadw.
Rydyn ni’n gweithio gyda Cadw i gynnig mynediad i 2 am bris 1 i’w safleoedd hanesyddol.
Gyda thocyn trên dilys, fe gewch chi ac un person arall 2 docyn mynediad am bris 1 ar yr un diwrnod â’ch taith*, felly beth am gynllunio taith i Gastell Biwmares a dal y trên i Fangor er mwyn mynd yno? Cewch fwynhau’r golygfeydd o’r trên a chael 2 docyn am bris 1 ar ben hynny.
*Telerau ac Amodau perthnasol.
- Gweler y Telerau ac Amodau:
-
Bydd angen i chi ddangos eich tocyn trên Trafnidiaeth Cymru, sy’n ddilys ar gyfer taith sydd ar yr un diwrnod ag y byddwch yn ymweld ag atyniad Cadw. Mae’r cynnig 2-am-1 ar gael yn safleoedd Cadw lle rydych yn talu am fynediad, a bydd angen i chi ei adbrynu ar yr un diwrnod ag y byddwch yn prynu’ch tocyn mynediad. Mae’n rhaid i’ch tocyn TrC fod yn ddilys ar gyfer yr orsaf drên agosaf i’r atyniad a ddewiswch.
-
Mae'r cynnig hwn yn ddilys tan 31 Rhagfyr 2024.
-
Mae rhagor o wybodaeth am y telerau ac amodau ar wefan Cadw.
-
-
Cas-gwent Dewch i ddarganfod Visiting Chepstow
-
Caergybi Dewch i ddarganfod Visiting Holyhead
-
Ymweld â Chaerfyrddin Dewch i ddarganfod Visit Carmarthen
-