Teithio i Gastell Caernarfon ar y trên

Station Icon
Yr orsaf agosaf: Bangor

Location Icon
1 munud o cerdded  > 27 munud ar fws o’r orsaf > 4 munud o cerdded  - gweld y map

 

Mae Castell Caernarfon yn cael ei gydnabod ledled y byd fel un o adeiladau gorau'r Oesoedd Canol. 

Mae’r gaer fawreddog hon ar lannau afon Seiont yn un o’r cestyll enwocaf yng Nghymru ac fe dynnwyd sylw ato yn ‘The Crown’ ar Netflix yn ddiweddar. Mae’r castell o fewn waliau tref gaerog Caernarfon ac fe gymerodd 47 mlynedd i’w adeiladu. Credir ei fod wedi ysbrydoli nifer o setiau ffilm a theledu – felly mae hwn yn gastell i haneswyr a gwylwyr teledu brwd fel ei gilydd.

Mae’r castell ychydig yn bellach i ffwrdd o’r orsaf drenau na rhai o’r atyniadau eraill rydyn ni wedi’u rhestru, ond os ewch chi ar daith fer ar y bws o orsaf Bangor, fe gewch chi gyfle i weld y campwaith hwn â’ch llygaid eich hun. 

Gallwch chi gael rhagor o wybodaeth am Gastell Caernarfon a’i hanes drwy fynd i wefan Cadw

 

Rydyn ni’n gweithio gyda Cadw i gynnig mynediad i 2 am bris 1 i’w safleoedd hanesyddol. 

Gyda thocyn trên dilys, fe gewch chi ac un person arall 2 docyn mynediad am bris 1 ar yr un diwrnod â’ch taith*, sy’n golygu y gallwch chi ymweld â Chastell Caernarfon am hanner y pris y byddech chi wedi'i dalu petaech chi wedi mynd yno yn y car.  

*Telerau ac Amodau perthnasol.

  • Gweler y Telerau ac Amodau:
    • Bydd angen i chi ddangos eich tocyn trên Trafnidiaeth Cymru, sy’n ddilys ar gyfer taith sydd ar yr un diwrnod ag y byddwch yn ymweld ag atyniad Cadw.  Mae’r cynnig 2-am-1 ar gael yn safleoedd Cadw lle rydych yn talu am fynediad, a bydd angen i chi ei adbrynu ar yr un diwrnod ag y byddwch yn prynu’ch tocyn mynediad. Mae’n rhaid i’ch tocyn TrC fod yn ddilys ar gyfer yr orsaf drên agosaf i’r atyniad a ddewiswch.

    • Mae'r cynnig hwn yn ddilys tan 31 Rhagfyr 2024.

    • Mae rhagor o wybodaeth am y telerau ac amodau ar wefan Cadw.