Teithio i Gastell Harlech ar y trên

Station Icon
Yr orsaf agosaf: Harlech

Location Icon
11 munud o cerdded  - gweld y map

 

Er ei fod yn cystadlu a chestyll Conwy, Caernarfon a Biwmares, mae’n debyg mai lleoliad y castell hwn yw’r mwyaf trawiadol o blith holl gestyll Edward I yng Ngogledd Cymru. 

Gyda chopaon garw Eryri’n gefndir iddo a golygfeydd lu o'r môr, mae Castell Harlech yn sefyll ar ben clogwyn creigiog sy’n edrych dros y twyni tywod islaw. Hwn hefyd yw'r castell agosaf i unrhyw un o’n gorsafoedd trenau, sef gorsaf Harlech.  
 
Gallwch chi gael rhagor o wybodaeth am Gastell Harlech a’i hanes drwy fynd i wefan Cadw

 

Rydyn ni’n gweithio gyda Cadw i gynnig mynediad i 2 am bris 1 i’w safleoedd hanesyddol. 

Gyda thocyn trên dilys, fe gewch chi ac un person arall 2 docyn mynediad am bris 1 ar yr un diwrnod â’ch taith*, ac oherwydd mai dim ond grisiau sy’n gwahanu Castell Harlech a'r orsaf drenau, mae hwn yn gyfle gwych i fanteisio ar y cynnig 2 am bris 1 heb orfod teithio’n bell rhwng y ddau le. 

*Telerau ac Amodau perthnasol.

  • Gweler y Telerau ac Amodau:
    • Bydd angen i chi ddangos eich tocyn trên Trafnidiaeth Cymru, sy’n ddilys ar gyfer taith sydd ar yr un diwrnod ag y byddwch yn ymweld ag atyniad Cadw.  Mae’r cynnig 2-am-1 ar gael yn safleoedd Cadw lle rydych yn talu am fynediad, a bydd angen i chi ei adbrynu ar yr un diwrnod ag y byddwch yn prynu’ch tocyn mynediad. Mae’n rhaid i’ch tocyn TrC fod yn ddilys ar gyfer yr orsaf drên agosaf i’r atyniad a ddewiswch.
    •  
    • Mae'r cynnig hwn yn ddilys tan 31 Mai 2024.
    •  
    • Mae rhagor o wybodaeth am y telerau ac amodau ar wefan Cadw.