Radur a Morganstown
Mae’r compowndiau yn darparu digon o le ac yn golygu bod ein pobl yn gallu gweithio'n ddiogel wrth ymyl y rheilffordd, storio a chludo deunyddiau ar hyd y trac a darparu mynediad i wneud y gwaith adeiladu a pheirianneg gofynnol.
Maent yn safleoedd dros dro sydd eu hangen gydol gwaith trawsnewid rheilffordd y Metro.
Er bod y cynlluniau'n parhau i gael eu drafftio, mae angen i ni sefydlu safle ar gaeau Pentre-poeth ger y rheilffordd yn Fferm Gelynis. Bydd hyn yn cynnwys cabanau ar y safle, cyfleusterau lles ar gyfer staff a mannau storio deunyddiau ac offer, gyda llwybr i'r safle oddi ar y ffordd fynediad bresennol i'r rheilffordd wrth ymyl Pugh's Garden Village. Rydym wedi gwneud y safle mor fach o ran maint ag y gallwn a byddwn hefyd yn gosod rhwystrau acwstig i leihau llygredd sŵn.Mae nodi safleoedd addas yn dasg gymhleth sy'n cynnwys ystyried argaeledd, maint, agosrwydd at y rheilffordd, a lleoliad mewn perthynas â gwaith allweddol. Rydym yn sylweddoli y gallwch fod yn pryderu am fynediad HGV i'r safle ym Mhentre-poeth, ac rydym am eich sicrhau ein bod yn ystyried hyn yn wrth gynllunio a'n bod wedi edrych ar lwybrau amgen.
Byddai cerbydau yn cyrraedd y safle o gyfeiriad y Gogledd, gan osgoi'r rhan fwyaf o’r tai ac amwynderau cyfagos, gyda mynediad i gerbydau wedi'i gyfyngu i amseroedd addas mewn trafodaeth â'r gymuned leol ac y cytunwyd gan Gyngor Caerdydd.
Bydd y cynnydd mewn gwasanaethau a ddarperir gan y Metro yn y dyfodol yn arwain at reilffordd brysurach o lawer, gyda nifer y gwasanaethau yn dyblu. Felly, bydd croesfan Fferm Gelynis fel y mae'n gweithredu ar hyn o bryd yn anaddas ar gyfer cerbydau a cherddwyr yn y dyfodol.
Credwn mai'r ffordd fwyaf diogel a mwyaf effeithiol o leihau'r risg yw cau'r groesfan wrth Fferm Gelynis a rhoi croesfan newydd yn ei lle sy'n mynd dros y rheilffordd, ychydig i'r de o'r
Nid yw'r gwaith yn perthyn i'r cynlluniau cyfansawdd ac ni fydd yn cael effaith andwyol ar Fferm Gelynis oherwydd mae'n ofynnol i ni yn ôl y gyfraith ddarparu dull addas o fynediad i dirfeddianwyr. Rydym yn gweithio gyda thirfeddianwyr a rhanddeiliaid lleol i lunio ein cynlluniau ar gyfer y newid hwn, a byddwn yn rhoi gwybod i'r gymuned wrth i'r cynlluniau ddatblygu.
Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) wedi prynu Fferm Gelynis ac mae'n ceisio prydlesu tir cyfagos (caeau'r gogledd-orllewin a'r de-orllewin). Ar ôl cwblhau’r groesfan, bydd Fferm Gelynis a'i chwrtil yn cael eu hailwerthu i ddeiliaid newydd, a bydd tir ar les yn cael ei ddychwelyd i'r tirfeddiannwr. Nid yw TrC yn bwriadu cadw unrhyw dir, ac eithrio'r groesfan ei hun a mynediad addas ar gyfer gwaith cynnal a chadw.
Er bod y cynlluniau'n parhau i gael eu datblygu, rydym am sicrhau bod ein cymuned yn derbyn llawer o wybodaeth a'n bod yn deall pryderon lleol. Hoffem glywed gennych ac mae croeso i chi rannu’ch barn drwy gwblhau'r ffurflen adborth amgaeedig neu ar-lein a'i dychwelyd erbyn 04 Ionawr 2021.