Dros y misoedd diwethaf, cynhaliwyd ein tri Fforwm Rhanbarthol cyntaf ynghyd â'n Panel Cynghori, a chynhaliwyd pob un ohonynt yn electronig dros Microsoft Teams.
Arweiniwyd y fforymau gan ein Rheolwyr Rhanddeiliaid ar gyfer pob ardal - Lowri Joyce ar gyfer Gogledd Cymru, Nichole Sarra dros y Gororau a Katie Powis ar gyfer Canolbarth a Gorllewin Cymru. Trefnwyd y Panel Cynghori gan Gethin Jones, y Rheolwr Cymorth Busnes yn TrC.
Mae'r fforymau yn rhan o'n Pensaernïaeth Gynghori ac fe'u sefydlwyd i'n helpu i gasglu gwybodaeth a mewnbwn gan fusnesau, sefydliadau, grwpiau defnyddwyr ac unigolion ar sut mae eu rhanbarthau yn ymgysylltu â'r rhwydwaith reilffyrdd. Maen nhw'n llwyfan gwych i ni drafod cyfleoedd datblygu economaidd a marchnata posib yn eu rhanbarthau, ynghyd â chynlluniau i drawsnewid gwasanaethau.
Dywedodd ein Rheolwr Cymorth Busnes, Gethin Jones, “Derbyniodd y tri fforwm adborth gwych yn y modd y cawsant eu chynnal a’u cadeirio, ac roedd cynnwys y drafodaeth yn gyfoethog ac yn amrywiol. Mae'r fforymau wedi helpu i roi gwell dealltwriaeth inni o'r hyn sydd ei angen ar gymunedau ar draws ein rhwydwaith, ac rydym yn edrych ymlaen at fforymau yn y dyfodol i helpu i adeiladu ar hyn. "
O ran y Panel Cynghori, dywedodd, “Mae'r ffordd roeddem yn gallu ymateb yn gyflym a hwyluso'r Fforymau a'r Panel dros y wê yn enghraifft wych o ba mor gyflym y gallwn ymateb fel sefydliad i anghenion busnes digynsail. Mae'n wych bod y fforymau wedi helpu i fagu hyder yn ein rhanddeiliaid, waeth pa heriau sy'n cyflwyno'u hunain, mae eu mewnbwn a'u barn yn rhan bwysig o'n rhaglen waith.”