Beth yw safle ar gais?

Mae ein safleoedd ar gais yn orsafoedd rheilffordd lle bydd trenau’n stopio dim ond os bydd cwsmer eisiau mynd ar drên neu oddi arno. Mae hyn yn ein galluogi i leihau amseroedd eich teithiau drwy beidio â stopio’n ddiangen mewn gorsafoedd sydd fel arfer â llai o deithwyr.

Y ffordd hawsaf o gael gwybod a yw eich gorsaf yn safle ar gais yw i weld eich taith ar ap TrC. Byddwch yn gweld ‘stopio ar gais’ o dan safleoedd ar gais. Byddwch hefyd yn clywed cyhoeddiad yn rhai o’n gorsafoedd trenau os bydd trên sy’n gadael yn galw wrth unrhyw safleoedd ar gais. 

 

Mae angen i mi fynd oddi ar y trên mewn safle ar gais

Rhowch wybod i’r goruchwyliwr mewn da bryd pan fyddwch chi wedi mynd ar y trên. Os yw’r trên yn brysur iawn, gallwch chi wneud hyn ar y platfform cyn i chi fynd ar y trên. Bydd y goruchwyliwr yn trefnu bod y trên yn stopio yn eich gorsaf gyda’r gyrrwr.

 

Mae angen i mi fynd ar y trên mewn safle ar gais

Wrth i’r trên nesáu at yr orsaf, bydd angen i chi ddangos i’r gyrrwr eich bod am i’r trên stopio drwy godi eich llaw. Peidiwch â phoeni, bydd y trên yn dod at safleoedd ar gais yn araf, er mwyn rhoi digon o amser i’r gyrrwr eich gweld a dod â’r trên i stop yn ddiogel.

 

A fydd y trên bob amser yn stopio os gofynnir amdano?

Ar rai adegau, efallai na fydd trên wedi’i amserlennu i stopio mewn gorsaf, neu ond yn stopio er mwyn i deithwyr allu mynd oddi ar y trên. Tarwch olwg ar eich taith ar ap TrC i weld a oes trên wedi’i amserlennu i stopio yn eich gorsaf.

 

Does gen i ddim yr ap a hoffwn gael rhagor o wybodaeth

Mae rhestr o safleoedd ar gais ar gael ar ein Porth Wi-Fi ar y trên. Os nad oes gennych chi ddyfais sydd â Wi-Fi wedi’i alluogi, siaradwch â’ch goruchwyliwr ar y trên neu cysylltwch â ni drwy ddilyn y ddolen isod. Byddwn yn fwy na pharod i helpu.