Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwybodaeth gywir a chyson er mwyn i deithwyr anabl a hŷn fel y gallan nhw deithio’n hyderus.
Mae gwefan National Rail Enquiries (nationalrail.co.uk) a’r canllawiau cynllun gorsafoedd (‘Stations Made Easy’) yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol am hygyrchedd cyfleusterau a gwasanaethau mewn gorsafoedd ac ar drenau. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf am yr adnoddau hyn ac ar ein gwefan ein hunain.Os oes newidiadau i unrhyw wybodaeth, bydd ein Pennaeth Manwerthu yn diweddaru gwefan National Rail Enquiries o fewn 24 awr.
Mae hyn yn cynnwys pan fydd:
- gan orsafoedd nodwedd ffisegol a allai atal rhai pobl anabl rhag eu defnyddio;
- gwaith dros dro pwysig yn effeithio ar hygyrchedd;
- newidiadau i orsafoedd yn eu gwneud yn anhygyrch dros dro (er enghraifft, os yw lifftiau neu doiledau gorsaf wedi torri); neu
- newidiadau’n cael eu gwneud i hygyrchedd ein trenau.
Rhowch wybod am unrhyw namau sy’n effeithio ar hygyrchedd i staff yr orsaf neu ein tîm Cysylltiadau Cwsmeriaid.
- Ffôn: 03333 211 202
- Gwasanaeth Testun Cenhedlaeth Nesaf: 18001 03333 211 202
- E-bost: customer.relations@tfwrail.wales
- Oriau agor: 24/7 bob dydd (ac eithrio Dydd Nadolig a Gŵyl San Steffan)
Gall staff gorsaf gael y wybodaeth ddiweddaraf drwy gronfa ddata genedlaethol a darparu’r wybodaeth hon i deithwyr mewn swyddfeydd tocynnau neu Bwyntiau Gwybodaeth.
Am wybodaeth fanwl am nodweddion hygyrchedd ein gorsafoedd, darllenwch ‘Making rail accessible: Helping older and disabled passengers’ sydd ar gael ym mhob gorsaf, drwy gysylltu â’n tîm cysylltiadau cwsmeriaid neu’r tîm Teithio gyda Chymorth ar y rhifau uchod neu drwy Hygyrchedd Gorsafoedd. Byddwn yn argraffu copïau wedi’u diweddaru o’r daflen hon o leiaf unwaith y flwyddyn.
Alla i gael llyfrynnau gwybodaeth mewn gwahanol fformatau?
Gallwch. Os ydych chi am gael copi o unrhyw daflenni mewn print bras, Braille neu fel fersiwn sain, cysylltwch â Cysylltiadau Cwsmeriaid.
- Ffôn: 03333 211 202
- Gwasanaeth Testun Cenhedlaeth Nesaf: 18001 03333 211 202
- E-bost: customer.relations@tfwrail.wales
- Oriau agor: 24/7 bob dydd (ac eithrio Dydd Nadolig a Gŵyl San Steffan)
Gall y tîm anfon copi atoch o’r ddogfen hon neu o’n dogfen bolisi mewn fformat safonol neu amgen (er enghraifft print bras) am ddim. Ein Pennaeth Profiad Cwsmeriaid sydd â chyfrifoldeb dydd i ddydd am ein Polisi Diogelu Pobl Anabl. Gallwch gysylltu â nhw drwy ein tîm Cysylltiadau Cwsmeriaid.