Tocynnau Teithio Rhatach
Tocynnau teithio rhatach i gwsmeriaid dall neu sydd â nam ar y golwg nad oes ganddyn nhw Gerdyn Rheilffyrdd Person Anabl ac sy’n teithio gyda chydymaith yng Nghymru a Lloegr (mae tocynnau teithio rhatach ar gael yn yr Alban):
Os ydych chi wedi’ch cofrestru yn ddall neu gyda nam ar y golwg ac yn teithio gyda pherson arall, mae’r tocynnau teithio rhatach a ddangosir isod yn gymwys i chi a’ch cydymaith. Allwch chi ddim cael y gostyngiad os ydych chi’n teithio ar eich pen eich hun. Mae’r gostyngiad yn gymwys i brisiau teithio oedolion yn unig.
I dderbyn y gostyngiad, cyflwynwch dystiolaeth o’ch nam ar eich golwg, megis dogfen o sefydliad cydnabyddedig fel y Gwasanaethau Cymdeithasol, eich Awdurdod Lleol, Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Deillion (yr hen RNIB) neu Blind Veterans UK wrth brynu eich tocyn a gwneud eich taith. Gallwch brynu tocynnau o swyddfeydd tocynnau gorsafoedd National Rail sy’n cael eu staffio ac ar y trên.
Mae gostyngiadau tocynnau teithio rhatach fel a ganlyn:
- 34% oddi ar docynnau sengl neu ddwy ffordd Safonol neu Ddosbarth Cyntaf unrhyw bryd
- 34% oddi ar docynnau sengl dydd Safonol neu Ddosbarth Cyntaf unrhyw bryd
- 50% oddi ar docynnau dwy ffordd dydd Safonol neu Ddosbarth Cyntaf unrhyw bryd
Cerdyn Rheilffordd Person Anabl
- 1/3 i chi a chydymaith oddi ar docynnau trên ledled y DU.
- Mae’r cerdyn yn costio £20 y flwyddyn neu £54 am 3 blynedd
- Gellir gwneud cais am y Cerdyn Rheilffordd drwy’r post neu ar-lein. Mae’r manylion llawn, gan gynnwys yr amodau defnydd ar gael yma.
Tocynnau Tymor
Gall cwsmeriaid sy’n ddall neu sydd â nam ar y golwg hefyd brynu un tocyn Tymor i oedolyn, sy’n galluogi cydymaith i deithio gyda nhw ar wasanaethau National Rail yn unig am ddim cost ychwanegol. Does dim rhaid i’r un person deithio gyda nhw bob tro.
Dylai cwsmeriaid fynd â thystiolaeth o’u nam ar y golwg, fel dogfen gan sefydliad cydnabyddedig fel y Gwasanaethau Cymdeithasol, eich Awdurdod Lleol, Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Deillion (RNIB) neu St Dunstans wrth brynu eu tocyn a mynd ar eu taith. Gellir prynu’r tocynnau hyn o swyddfeydd tocynnau mewn gorsafoedd National Rail sy’n cael eu staffio.
Deiliaid Tocynnau Bws Rhatach Llywodraeth Cymru
Gall cwsmeriaid gyda thocyn bws rhatach a roddir gan awdurdodau lleol yng Nghymru deithio am ddim ar y trên neu ar y llwybrau canlynol:
- Wrecsam i Bont Penarlâg – gydol y flwyddyn
- Machynlleth i Bwllheli rhwng 1 Hydref a 31 Mawrth (ni ellir defnyddio’r tocynnau ar y 06.10 Pwllheli - Machynlleth rhwng Abermaw a Thywyn, y 07.34 Pwllheli - Machynlleth rhwng Penrhyndeudraeth a Harlech, y 12.56 Machynlleth - Pwllheli rhwng Pwllheli a Harlech a Phenrhyndeudraeth a’r 14:56 Machynlleth - Pwllheli rhwng Tywyn ac Abermaw.
- Llandudno i Flaenau Ffestiniog – gydol y flwyddyn
- Amwythig i Abertawe drwy Lanymddyfri - rhwng 1 Hydref a 31 Mawrth (ddim yn ddilys ar gyfer teithiau rhwng Amwythig a Bucknell a Llanelli ac Abertawe)
Mae’r manylion llawn ar gael yma.