Angen newid eich tocyn? Angen gwybod sut mae cael y tocynnau rhataf? Dyma bopeth rydych chi angen ei wybod am docynnau
Ydw i’n gallu prynu tocynnau gan TrC, ar gyfer gwasanaethau gweithredwyr eraill?
Tocynnau gan Trafnidiaeth Cymru sydd ar gyfer gwasanaethau gweithredwyr eraill
Ydych, mae modd i chi brynu tocynnau trên ar gyfer unrhyw daith reilffordd yn y DU drwyddon ni a fyddwch chi ddim yn talu ffi archebu na ffi cerdyn.
Boed hynny ar-lein, ar ein ap, yn un o’n Peiriannau Gwerthu Tocynnau neu yn bersonol mewn swyddfa docynnau.
A oes modd cael gostyngiad os oes grŵp yn teithio gyda’i gilydd?
Os oes rhwng tri a naw ohonoch yn teithio gyda’ch gilydd, gallwch arbed arian drwy brynu tocyn ‘Diwrnod Grŵp Bach’, sy’n rhoi gostyngiad o 20% i bob un ohonoch oddi ar bris llawn y tocyn
Byddwch i gyd yn cael tocyn - dim ond fod angen i chi deithio gyda’ch gilydd wrth fynd ac wrth ddod yn ôl.
Os oes deg neu fwy o bobl yn teithio gyda’i gilydd, mae angen i chi gysylltu’n uniongyrchol â ni. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n tudalen Teithio Mewn Grŵp.
Oes gennych chi docynnau Dosbarth Cyntaf?
Mae gennym wasanaeth Dosbarth Cyntaf rhwng gorsafoedd Abertawe a Manceinion, a gorsafoedd Caerdydd a Chaergybi.
Dyma’r gwasanaethau sydd ar gael yn ystod yr wythnos:
- 6 gwasanaeth dwyffordd rhwng Caerdydd a Manceinion
- 2 wasanaeth rhwng Caerdydd a iChaergybi
- 1 gwasanaeth rhwng Caergybi a Chaerdydd
Dyma’r gwasanaethau sydd ar gael ar y penwythnos:
- 6 gwasanaeth dwyffordd rhwng Caerdydd a Manceinion
- 1 gwasanaeth rhwng Abertawe a Manceinion ar ddydd Sadwrn
- 2 wasanaeth pob ffordd rhwng Abertawe a Manceinion ar ddydd Sul
O ddefnyddio’n cynlluniwr teithiau, gallwch ddarganfod pa wasanaethau sy’n cynnig gwasanaeth Dosbarth Cyntaf a dod o hyd i’r trenau sydd â thocynnau Dosbarth Cyntaf. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.
Sut alla’ i ddod o hyd i docynnau trên rhad?
Os ydych chi’n bwriadu gwneud taith hir (dros 2 awr), fe allech ganfod mai’r gwerth gorau yw prynu dau docyn sengl Advance.
Yn gyffredinol, mae tocynnau Advance ar gael i’w harchebu 8 wythnos cyn dyddiad y daith.
Edrychwch ar ein tudalen ‘ffyrdd o arbed arian’ i ganfod yr holl ffyrdd y gallwch arbed arian ar eich teithiau.
Sut alla’ i gael gafael ar eich amserlenni a’ch taflenni?
Mae fersiynau print o amserlenni a thaflenni fel arfer ar gael o orsafoedd wedi’u staffio ar rwydwaith Trafnidiaeth Cymru.
Gallwch lawrlwytho ein hamserlenni ar yma.
Gellir dod o hyd i'r amserlenni mwyaf diweddar trwy ddefnyddio ein cynlluniwr taith ar-lein.
Gallwch hefyd gofrestru i gael negeseuon e-bost yn rhad ac am ddim er mwyn cael gwybod pryd bynnag byddwn yn gwneud newidiadau mawr i’n hamserlenni yma.
Sut mae prynu fy nhocynnau trên ar-lein?
Gallwch brynu tocynnau trên ar gyfer unrhyw daith trên yn y DU oddi ar wefan Trafnidiaeth Cymru.
Prynwch ar-lein gyda Trafnidiaeth Cymru, does dim ffioedd archebu, dim ffioedd cardiau credyd neu ddebyd a dim ffioedd danfon (ac eithrio am ddanfon y diwrnod canlynol). Pan fyddwch chi’n prynu gyda ni, yr unig beth yr ydych yn ei dalu yw pris y tocyn.
Sut ydw i’n talu am fy nhocynnau trên wrth ddefnyddio peiriant gwerthu tocynnau?
Mae pob peiriant gwerthu tocynnau ar rwydwaith Trafnidiaeth Cymru yn derbyn cardiau credyd a chardiau debyd. Gall rhai peiriannau dderbyn darnau arian ac arian papur.
Gallwch ddod o hyd i leoliadau ein peiriannau gwerthu tocynnau drwy fynd i wefan National Rail.
Sut alla i newid fy nhaith?
Os hoffech chi newid eich tocyn neu gael ad-daliad, mae’r broses y bydd angen i chi ei dilyn yn dibynnu ar y math o docyn sydd gennych.
Mae’r manylion llawn ar gael yma.
Pam nad yw trenau wedi cael eu hamserlennu i gysylltu â gwasanaethau eraill bob tro?
Rydyn ni’n llunio ein hamserlenni gyda gofal ac arbenigedd mawr ac rydyn ni’n ceisio gwneud cynifer o gysylltiadau ag sy’n bosibl.
Mae nifer anferth o gysylltiadau posibl ar ein llwybrau. Lle na allwn drefnu pob un, rydyn ni’n eu blaenoriaethu yn ôl y galw mwyaf, y galw mwyaf posibl a chysylltiadau eraill.
Rydyn ni hefyd yn ceisio sicrhau y gellir eu cyflawni a’u bod yn ddibynadwy, felly wnawn ni ddim amserlennu cysylltiadau tynn iawn ar wasanaethau pell mewn rhai amgylchiadau. Rydyn ni’n siarad â’r holl weithredwyr trenau eraill, ac rydyn ni i gyd yn gwneud newidiadau’n rheolaidd er mwyn cyflawni cysylltiadau. Rydyn ni bob amser yn cadw ein teithwyr lleol rheolaidd mewn golwg.
Byddwn yn pwyso a mesur pob achos yn unigol: yn aml mae’n amhosibl plesio pawb, felly rydyn ni’n ceisio plesio’r nifer fwyaf o deithwyr.
Ble alla i brynu tocyn tymor?
Os ydych chi’n prynu tocyn tymor am y tro cyntaf, mae angen i chi ymweld â’ch gorsaf leol sydd â staff lle bydd staff ein swyddfa docynnau yn gallu trefnu eich tocyn tymor a’ch cerdyn llun.
Pan fyddwch wedi cael eich cerdyn llun, gallwch brynu tocyn tymor saith diwrnod o beiriant gwerthu tocynnau, swyddfa docynnau neu ar y trên.
Hefyd, gallwch brynu tocynnau tymor eraill o unrhyw hyd, rhwng mis a blwyddyn, ar-lein neu o’r swyddfa docynnau unwaith y byddwch wedi cael eich cerdyn llun.
Mae’n bosibl y gallwch chi brynu eich tocyn tymor cyn y diwrnod y mae i fod i gychwyn. I gael rhagor o wybodaeth am brynu tocynnau tymor, ewch yma.
Pam fod prisiau tocynnau trên yn cynyddu bob blwyddyn?
Prisiau tocynnau trên
Mae’r cynnydd cymharol isel mewn tocynnau trên wedi bod yn ffactor yn y twf aruthrol mewn teithio ar y trên a welwyd dros y 10 mlynedd diwethaf, gyda 45% yn fwy o deithwyr yn defnyddio’r rhwydwaith rheilffyrdd ym mhob rhan o’r DU. Mae’r cynnydd hwn mewn defnydd gan deithwyr yn 60% yng Nghymru ers 2003. Mae niferoedd teithwyr ar draws y DU nawr yn uwch nag ar unrhyw adeg ers 1946.
Caiff tocynnau trên eu trefnu mewn dwy ‘fasged’ brisio - ‘wedi’u rheoleiddio’ a ‘heb eu rheoleiddio’. Caiff prisiau tocynnau wedi’u rheoleiddio eu gwarchod rhag cynnydd mwy, uwchlaw chwyddiant ee y rhan fwyaf o docynnau tymor, a rhai tocynnau Cyfnodau Tawelach a thocynnau Diwrnod Unrhyw Bryd. Mae tocynnau heb eu rheoleiddo yn cynnwys tocynnau Diwrnod Cyfnodau Tawelach, a thocynnau Advance ac Unrhyw Bryd pellter mwy.
Beth yw uchafswm nifer y bobl mewn grŵp?
Uchafswm maint y grŵp
Yr uchafswm nifer ar gyfer unrhyw grŵp yw 30 ac eithrio rheilffordd Calon Cymru, lle mae’n 15 yn ystod yr wythnos a 25 ar benwythnosau.
Beth yw e-Docynnau ac m-Docynnau?
Mae m-Docyn yn docyn sydd mewn ap ffôn symudol sy’n cael ei ddangos fel cod bar.
Rhaid ei lawrlwytho a’i actifadu cyn ei ddefnyddio ac mae ar gael i’w brynu ar gyfer y rhan fwyaf o deithiau trwy wefan ac ap TrC.
Mae e-Docyn yn docyn electronig sy’n cynnwys cod bar a anfonir fel PDF mewn neges e-bost
Gellir cadw’r e-Docyn ar ffôn symudol neu ei argraffu ond nid yw’n ddilys ond i'w ddefnyddio unwaith a ddim ond ar gael ar rai tocynnau Advance Trafnidiaeth Cymru.
Beth yw Cerdyn Clyfar?
Teithiwch yn ddigyswllt mor aml ag y dymunwch ac arbed arian gyda thocynnau Tymor wythnosol, misol a blynyddol.
Mae’r manylion llawn ar gael yma.
Faint ymlaen llaw alla’ i brynu tocynnau trên?
Efallai y bydd rhai tocynnau Advance ar gael ar eich diwrnod teithio, ond rydym yn argymell eich bod yn prynu eich un chi hyd at 12 wythnos ymlaen llaw, gan mai nifer cyfyngedig o docynnau Advance sydd ar gael ar gyfer pob taith.
Mae’r manylion llawn ar gael yma.