Mae Aberystwyth, neu ‘Aber’ i’r trigolion lleol, yn gyrchfan wyliau boblogaidd ar arfordir gorllewinol Cymru. Mae Bae Ceredigion yn cynnig cysgod rhag Môr Iwerddon ac mae Afon Rheidol yn llifo drwy’r dref. Ceir awyrgylch gosmopolitan, amrywiol yn Aberystwyth diolch i'r Brifysgol sydd wedi bod yn denu myfyrwyr o bedwar ban byd ers iddi agor ym 1872. Mae cysylltiadau rheilffyrdd da yn gwasanaethu’r dref. P’un a ydych chi’n chwilio am wyliau teuluol neu wyliau penwythnos, mae digon yn digwydd yn Aberystwyth a’r ardal gyfagos i gadw pawb yn hapus.

 

1. Rheilffordd y Graig Aberystwyth

Mae Rheilffordd y Graig, Aberystwyth yn lle gwych i ddechrau archwilio’r dref hyfryd hon. Mae’n cludo teithwyr i fyny Craig Glais ar ben draw’r promenâd ers 1896, a dyma’r rheilffordd halio drydan hiraf ym Mhrydain. O’r copa, ceir golygfa banoramig syfrdanol o’r bae a thu hwnt. Drwy’r camera obscura mwyaf yn y byd, mae’r olygfa hyd yn oed yn fwy trawiadol - yn ymestyn dros 1,000 o filltiroedd sgwâr ac yn cynnwys mwy na 26 o gopaon mynyddoedd. Ceir caffi, man chwarae i blant, siop anrhegion a sawl arddangosfa hanesyddol ar y copa hefyd, sy’n golygu bod hon yn ffordd hwyliog o dreulio diwrnod yn Aberystwyth.

 

2. Castell Aberystwyth

Adeiladwyd Castell Aberystwyth sy’n adeilad Rhestredig Gradd I yn y 13eg ganrif. Roedd wedi’i wneud o bren yn wreiddiol, gyda chaer gerrig yn cael ei hadeiladu’n gadarn wedyn. Cafwyd sawl gwarchae ac ymosodiad arfog yno ond erbyn dechrau’r 14eg ganrif roedd y rhanbarth yn ffynnu ac roedd anheddiad yn datblygu o amgylch y castell. Parhaodd hyn tan 1637 pan ddatganodd Brenin Charles I fod y castell yn Fathdy Brenhinol er mwyn creu darnau arian.

Heddiw, mae’r castell yn adfail, ac mae modd i'r cyhoedd weld y muriau, y pyrth a’r tyrau sy’n weddill, a chrwydro o’u hamgylch. Gyda’r môr yn gefndir a thonnau’n sblasio dros y muriau, mae’n hawdd dychmygu’r olygfa hon yn ôl yn nyddiau llym yr oesoedd canol.

  • Lleoliad: Llai na 10 munud ar droed o orsaf Aberystwyth
  • Mynediad am ddim
  • Cerdded o amgylch adfeilion y castell

Aberystwyth Castle

 

3. Rheilffordd Cwm Rheidol

Mae Rheilffordd Cwm Rheidol yn rheilffordd gul 1 droedfedd 11+3/4 modfedd, sy’n rhedeg rhwng Aberystwyth a Phontarfynach, pentref bach ger Afon Mynach 11 milltir (18 km) i ffwrdd. Agorwyd y rheilffordd yn 1902 ac mae trenau wedi rhedeg arni byth ers hynny, gan ddal i gludo teithwyr a phobl sy’n mwynhau trenau mewn 16 o gerbydau hardd. Dyma un o’r rheilffyrdd cyntaf i gael ei phreifateiddio.

Mae’r llwybr yn mynd drwy rai o dirweddau mwyaf trawiadol Cymru. Cadwch lygad am y bwncathod a’r barcutiaid coch sy’n cylchdroi uwchben y cwm. Gyda digwyddiadau rheolaidd, siop anrhegion, ystafell de a digon o wirfoddolwyr cyfeillgar i ateb eich cwestiynau, dyma ddiwrnod allan gwych. 

 

4. Traeth Aberystwyth

Unwaith y byddwch chi wedi bod ar wyliau ar y traeth yn Aberystwyth, byddwch chi’n siŵr o ddod yn ôl eto.

Mae Traeth y Gogledd gyda’i dywod euraid hardd, yn agos at y dref ac wrth ymyl y promenâd ysgubol. Mae’n boblogaidd gyda phobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd a gellir mwynhau atyniadau traddodiadol yma, gan gynnwys reidio mulod, cerddoriaeth fyw a chastell bownsio. Gellir mynd ar y pier Fictoraidd o’r promenâd. Er ei fod yn dal yn 90 metr o hyd (bron 300 troedfedd), arferai ymestyn am fwy na 240m (787 troedfedd). Dyma bier pleser go iawn, gyda phobl yn dweud ffortiwn, arcedau a gemau lliwgar, caffis a stondinau yn gwerthu toesenni poeth a chandi fflos. 

  • Lleoliad: Dim ond 3 munud ar droed o orsaf Aberystwyth
  • Hwyl i’r teulu cyfan
  • Ymweld â’r pier Fictoraidd

Aberystwyth Beach

 

5. Amgueddfa Ceredigion

Mae Amgueddfa Ceredigion yn adeilad yr hen theatr, sef y Coliseum, ac mae’n gartref i amrywiaeth o gasgliadau trawiadol o dreftadaeth gyfoethog Cymru. Mae’r rhain yn cynnwys trysorau archeolegol, dodrefn, gwisgoedd Cymreig traddodiadol a llawer o arddangosfeydd o orffennol amaethyddol llwyddiannus. Disgrifir gwrthdaro milwrol Cymru yno hefyd gyda sawl casgliad sy’n ymwneud â brwydrau Cymru. Mae gwaith artistiaid a chrefftau lleol yn cael eu harddangos ochr yn ochr ag arteffactau o hanes Aberystwyth. Mae yna ddewis da o anrhegion yn y siop a digon o ddanteithion blasus yn y caffi hefyd. Mae'n werth ymweld ag Amgueddfa Ceredigion. 

 

6. Bwyd a diod yn Aberystwyth

Mae gan Aberystwyth amrywiaeth o fwytai, tafarndai a chaffis lle gallwch eistedd yn ôl a mwynhau eich cinio. Mae golygfeydd o’r promenâd a’r arfordir hardd i’w cael o rai ohonynt. Mae busnesau annibynnol yn cynnig bwydydd o bedwar ban byd yn y gornel fach hon o Gymru.

 

7. Siopa yn Aberystwyth

Fel prif ganolfan siopa’r Canolbarth a’r Gorllewin, mae dewis o siopau adnabyddus a siopau annibynnol lleol yn Aberystwyth. Mae marchnad ffermwyr yng nghanol y dref hefyd, lle gallwch fwynhau popeth sydd gan gynhyrchwyr lleol i’w cynnig.

 

P’un a ydych chi’n mwynhau gwyliau cerdded, penwythnos llawn diwylliant neu’n chwilio am rywle i ymlacio, Aberystwyth yw’r lle i fynd.