Wedi’i leoli ar ymyl gorllewinol Bae Caerfyrddin, mae tref gaerog hardd Dinbych-y-pysgod yn hawdd i’w gyrraedd ar y trên, ac yn denu ymwelwyr o bedwar ban byd. Ymhlith ei bedwar traeth tywod godidog, dewisodd y Sunday Times Draeth y Castell fel y gorau yn y DU.
Mae’r castell a’r muriau Normanaidd o’r 13eg ganrif yn rhoi hynawsedd yr oes a fu i Ddinbych-y-pysgod, sy’n annog ymwelwyr i archwilio ei lonydd cul, troellog, ei dafarndai canoloesol a siopau bwtîc hynod sy’n arddangos crefftau lleol. Mae’n cael ei gydnabod yn eang fel ‘Yr Em yng nghoron Sir Benfro’’, a gyda’r harbwr godidog, a’r bythynnod lliw almon, hyd yn oed ar ddiwrnod glawog, mae Dinbych-y-pysgod yn fendigedig.
1. Ymwelwch ag Amgueddfa ac Oriel Gelf Dinbych-y-pysgod
Agorwyd amgueddfa annibynnol hynaf Cymru, Amgueddfa ac Oriel Gelf Dinbych-y-pysgod, ym 1878, ac mae bellach yn gartref i gasgliad helaeth o arteffactau biolegol, daearegol a morol. Mae’r casgliad hwn yn parhau i dyfu a datblygu, gan hyrwyddo hanes Dinbych-y-pysgod a’i thrigolion.
Mae’r ddwy oriel gelf, un yn cynnwys arddangosfa barhaol, yn arddangos gweithiau gan artistiaid sy’n cynnwys Meirion Jones, Gwen ac Augustus John, John Uzzell Edwards, ac ar gyfer selogion gweithiau cyfoes, Nicky Wire o’r band Cymreig, Manic Street Preachers.
Mae arteffactau a ddarganfuwyd yn cynnwys eitemau o’r cyfnod Cyn-Gambriaidd hyd at y cyfnod Rhufeinig, arddangosfa yn ymwneud â sinema Gymreig, ac un sy’n canolbwyntio ar orffennol Dinbych-y-pysgod yng nghyd-destun môr-ladron. Un o'r môr-ladron enwocaf oedd y gŵr lleol Bartholomew Roberts, a elwid yn ddiweddarach yn Barti Ddu. Hefyd yr un mor ysgeler â Jack Sparrow o Hollywood oedd y drwgenwog Henry Morgan - a roddodd ei enw i frand poblogaidd o rym.
Efallai mai rym oedd môr-ladron Dinbych-y-pysgod yn ei ffafrio, ond mae paned a thafell o gacen o'r caffi ar y safle yn taro deuddeg yn well ar ddiwrnod glawog.
- Atyniad arobryn
- Mynediad o £4.95
- Gwefan Amgueddfa ac Oriel Gelf Dinbych-y-pysgod
2. Profwch Hanes Byw yn Nhŷ’r Masnachwr Tuduraidd
Wedi’i adeiladu o garreg leol yn y 1500au, byddai Tŷ’r Masnachwr Tuduraidd wedi bod yn un o’r adeiladau gorau, drutaf yn Ninbych-y-pysgod, gyda’r perchennog yn masnachu mewn nwyddau a gludwyd i’r harbwr o bedwar ban byd.
Yn dri llawr, byddai’r llawr uchaf wedi bod yn gartref i’r ystafelloedd gwely, y canol yn ystafelloedd byw i’r masnachwr a’i deulu, tra bod y llawr isaf yn siop gyda ffrynt agored yn gwerthu gwlân a brethyn, finegr a sbeisys. Drwy fasnachu’r eitemau hyn drwy’r porthladd, gallai trigolion mwy cefnog Dinbych-y-pysgod fwynhau mynediad i gynnyrch o bob rhan o’r byd.
Mae’r adeilad rhestredig Gradd I bellach yn eiddo i ac yn cael ei reoli gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ac mae’n cynnig cipolwg hynod ddiddorol ar fywyd yn oes y Tuduriaid. Mae'r tu mewn wedi'i ddodrefnu ag atgynhyrchiadau o ddodrefn Tuduraidd, yr ardd wedi'i phlannu â pherlysiau traddodiadol i'w defnyddio yn y gegin, a'r siop yn cynnwys stoc o gynhyrchion o’r iawn ryw.
Gyda digwyddiadau niferus yn ystod y flwyddyn, a thywyswyr gwybodus yn darlunio bywyd yn y Dinbych-y-pysgod Tuduraidd, mae'r cam hwn yn ôl mewn amser yn ffordd wych o fwynhau dysgu.
- Profwch fywyd yn y 15fed ganrif
- Mynediad o £3.25
- Gwefan Tŷ’r Masnachwr Tuduraidd
3. Dysgwch Am Orsaf Bad Achub Dinbych-y-pysgod
Mae gorsaf bad achub wedi bod yn Ninbych-y-pysgod ers 1852, ac ar hyn o bryd, mae dau fad achub wedi'u lleoli yn harbwr y dref. Cwch o ddosbarth Tamar yw Hayden Miller, a enwyd ar ôl y ffermwr a adawodd arian i’r RNLI yn ei ewyllys - £3 miliwn i fod yn fanwl gywir. Mae'r bad achub arall, y Georgina Taylor, yn fad achub gyda’r glannau dosbarth D.
Wedi’i lleoli mewn gorsaf llithrfa uwch-dechnolegol, mae oriel wylio ar gyfer gwylio lansiad y bad achub, a chroesewir ymwelwyr gan staff yr orsaf sy’n hapus i egluro beth sy’n digwydd, a’r hyn sy’n hanfodol i fedru brwydro yn erbyn y tonnau ac achub bywydau. Gall ymwelwyr gael golwg dda ar y cychod, archwilio gorsaf y bad achub a mwynhau profiad ymwelwyr gorau’r RNLI.
- Perffaith ar gyfer teuluoedd
- Dysgwch am waith achub bywyd yr RNLI
- Gorsaf Bad Achub Dinbych-y-pysgod
-
Oeddech chi’n gwybod?Teithiwch yn SaffachGallwch gynllunio ymlaen llaw a phenderfynu pryd i deithio gan ddefnyddio ein Gwiriwr Capasiti.Gwirio capasiti
-
Pethau hwyliog i'w gwneud yng Nghasnewydd y penwythnos yma Dewch i ddarganfod Fun things to do in Newport this weekend
-
Pethau i'w gwneud yng Nghanol Dinas Caerdydd Dewch i ddarganfod Things to do in Cardiff City Centre
-
Y gwyliau dinesig gorau yn y DU i gyplau: teithiau cerdded rhamantus yn Ynysoedd Prydain Dewch i ddarganfod romantic getaways in the British Isles
-