I'r de o Gaerdydd, ar lan Môr Hafren, mae tref glan môr y Barri, sy'n cynnwys Ynys y Barri. Gyda gwasanaeth trên rheolaidd, mae ymwelwyr yn cael eu denu i’r rhan hyfryd hon o Gymru ar gyfer ei thraethau a’i hadloniant glan môr – a gwnaeth y ddau ohonynt ymddangosiad yn y sioe deledu hynod boblogaidd Gavin and Stacey. Mae’r Barri yn gyrchfan perffaith ar gyfer gwyliau teuluol diolch i’w atyniadau niferus, ei olygfeydd hardd a phobl leol gyfeillgar a chroesawgar.

Gan ei fod yn agos i Gaerdydd, mae’r Barri’n ganolfan wych, gan osgoi’r prysurdeb, i archwilio’r brifddinas.

Barry Island

 

1. Darganfyddwch Barc Pleser Ynys y Barri

Gan ddenu pobl o bob rhan o’r byd, mae Parc Pleser Ynys y Barri yn rhywle y mae’n rhaid i unrhyw un, boed blant neu oedolion, ymweld ag ef.

Mae gan y parc 17 o reidiau, yn amrywio o reidiau ysgafn sy’n addas i blant i rai llawn adrenalin i frawychu’r dewraf. Mae hefyd arcedau a stondinau, a dewis eang o fwyd stryd a byrbrydau ffair traddodiadol, gan gynnwys candi-fflos ffres, hufen iâ blasus a physgod a sglodion wedi’u coginio’n ffres.

Mae Parc Pleser Ynys y Barri yn diddanu ymwelwyr ers 1897, ac yn cynnal ei boblogrwydd trwy addasu’n barhaus i chwaeth a thueddiadau newidiol y jyncis adrenalin, ac mae hynny’n debygol o barhau ymhell i’r dyfodol.

Barry Island Pleasure Park

 

2. Archwiliwch Hanes yn Amgueddfa Ryfel y Barri

Mae Amgueddfa Ryfel y Barri, sy’n eiddo i ac yn cael ei reoli gan y Barry at War Group, yn rhoi cyfle i ymwelwyr brofi hanes byw o’r iawn ryw. Gan ddefnyddio adroddiadau a straeon go iawn am drigolion y Barri, mae’r amgueddfa’n efelychu realiti brawychus milwyr yn ymladd ar Ffrynt y Gorllewin. Mae'r ffosydd sy'n cael eu harddangos yn dangos pa mor galed oedd eu bywyd, tra bod lloches cyrch awyr go iawn yn efelychu bywyd y rhai a adawyd i gadw'r tanau cartref yn llosgi yn y Barri yn y 1940au. Gan gynnwys offer coginio a brandiau y bydd llawer o ymwelwyr yn eu hadnabod, mae cegin go iawn sy'n dyddio o'r Ail Ryfel Byd yn dangos pa mor anodd oedd darparu ar gyfer teulu tra'n dogni eitemau bwyd. Roedd anghenraid yn gorfodi pobl i fod yn ddyfeisgar.

Gan alluogi ymwelwyr i ddeall a phrofi realiti bywyd yn ystod yr Ail Ryfel Byd, mae'r amgueddfa yn lle hynod ddiddorol a dylai fod ar restr pawb o bethau i'w gwneud.

 

3. Mwynhewch Ddiwrnod Allan ar Draeth Bae Whitmore

Gydag ehangder godidog o dywod euraidd ysgubol a phromenâd eang, Traeth Bae Whitmore yw'r traeth teuluol clasurol.

Yn cael ei adnabod gan bobl leol fel Barrybados, mae'r bae wedi'i leoli rhwng dau benrhyn calchfaen gwarchodol. Yn boblogaidd gyda syrffwyr, mae’r traeth wedi ennill Baner Las am lendid, ansawdd dŵr a diogelwch, ac mae ganddo wasanaeth achubwr bywyd, sy’n golygu y gallwch ymlacio tra bod eich plant yn mwynhau’r tonnau. Ar ôl treulio diwrnod yn crwydro’r pyllau glan môr ac adeiladu’r castell tywod mwyaf y gallwch chi, mae’r Parc Pleser gerllaw, neu mae waliau dringo, cyrsiau golff gwyllt ac arcedau difyrion os yw’n hynny’n fwy at eich dant.

Mae’r cytiau traeth llachar ar gael i’w llogi, ac mae nifer o ddigwyddiadau a pherfformiadau i’w mwynhau drwy gydol y flwyddyn. Mae pawb wrth eu bodd yn treulio diwrnod yn ymlacio ar y traeth, ond mae Bae Whitmore yn cynnig rhywbeth arbennig iawn i’w ymwelwyr.

 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 

A post shared by Julia (@julia.lane.90)

 

4. Parc Gwledig Porthceri

Mae 220 erw o goetir ym Mharc Gwledig Porthceri gyda llwybrau natur, safleoedd picnic, caffi ac ardal chwarae. Mae'r parc yn hafan i fywyd gwyllt gyda dolydd yn arwain at draeth cerrig mân. Mae hefyd yn adnabyddus am ei thraphont fawreddog sydd wedi cadw golwg ar y parc ers y 1890au.