Data monitro cyflymder cerbydau: Gorffennaf 2023 i Medi 2024

Submitted by Content Publisher on

Crynodeb

Data monitro cyflymder cerbydau Medi 24

Mae’r ystadegau hyn yn rhoi cipolwg ar gyflymder cerbydau a gafodd eu cofnodi mewn safleoedd monitro ar y prif ffyrdd trwodd ledled Cymru. Mae’r gwaith monitro wedi cael ei gynnal lle mae cyfyngiad cyflymder o 20mya nawr yn berthnasol. Mae’r data’n crynhoi cyflymder cerbydau yn erbyn y tri Dangosydd Perfformiad Allweddol (DPA) a amlinellir yn y fframwaith monitro 20mya cenedlaethol. Casglwyd y data o 43 safle monitro ar brif ffyrdd ar draws 10 ardal. Ni ddylid ystyried bod y data’n cynrychioli cyflymderau cyfartalog ar bob ffordd sydd â chyfyngiad cyflymder o 20mya.

Tabl 1: Asesiad DPA

DPA

Dangosyddion Perfformiad Allweddol Haf 2023 Gaeaf 2023/24 Haf 2024

1.1

Canran sy’n teithio ar neu o dan 24mya¹ 20.8% 58.7% 52.7%

1.2

Cyflymder yr 85ed ganradd wedi’i bwysoli (mya) 32.9 29.1 29.8

1.3

Cyflymder cymedrig wedi’i bwysoli (mya) 28.7 24.4 25.1

Yn haf 2024, roedd 52.7% o gerbydau a gafodd eu cofnodi yn teithio ar neu o dan 24mya. Mae hyn yn ostyngiad o’r 58.7% o gerbydau a gafodd eu cofnodi yn ystod gaeaf 2023/4. Cyn newid y terfyn cyflymder, roedd 20.8% o gerbydau’n teithio ar neu o dan 24mya.

Cyflymder yr 85ed ganradd, wedi’i bwysoli yn ôl cyfanswm y cerbydau, oedd 29.8mya yn haf 2024. Mae hyn 0.7mya yn uwch na’r cyflymder 85ed ganradd a gafodd ei gofnodi yn ystod gaeaf 2023/24 (29.1mya). Cyflymder yr 85ed ganradd oedd 32.9mya cyn newid y terfyn cyflymder i 20mya.

Y cyflymder cyfartalog wedi’i bwysoli a gafodd ei gofnodi yn ystod haf 2024 oedd 25.1mya, sy’n 0.7mya yn gyflymach na’r cymedr wedi’i bwysoli o 24.4mya a gafodd ei gofnodi yn ystod gaeaf 2023/24. Cyn cyflwyno’r terfyn cyflymder newydd, y cyflymder cyfartalog wedi’i bwysoli ar draws yr holl safleoedd monitro oedd 28.7mya.

Mae data haf 2024 (gweler Tabl 2) yn dangos bod cyflymderau, fel y’u diffinnir gan ddefnyddio’r tri mesur DPA, wedi cynyddu rywfaint o’i gymharu â chyfnod gaeaf 2023/24. Fodd bynnag, maent yn dal yn is o lawer na’r cyflymderau a gafodd eu cofnodi cyn i’r terfyn cyflymder newid.

Tabl 2: Asesiad Dangosyddion Perfformiad Allweddol ar gyfer Haf 2024

DPA

Dangosyddion Perfformiad Allweddol Haf 2024 o’i gymharu â haf 2023 Haf 2024 o’i gymharu â gaeaf 2023/24

1.1

Canran sy’n teithio ar neu o dan 24mya +31.9 pwynt canran -6.0 pwynt canran

1.2

Cyflymder yr 85ed ganradd wedi’i bwysoli (mya) -3.1 +0.7

1.3

Cyflymder cymedrig wedi’i bwysoli (mya) -3.6 +0.7

¹ Mae cerbydau sy’n teithio ar neu o dan 24mya yn cael ei ystyried fel eu bod yn cydymffurfio â’r terfyn cyflymder o 20mya

Mae’r dosraniadau cyflymder cerbydau (gweler Ffigur 1) yn dangos y cynnydd mewn cyflymderau cerbydau a welwyd yn ystod haf 2024 o’i gymharu â gaeaf 2023/24. Ar gyfer haf 2024, o’r 52.7% o gerbydau sy’n cydymffurfio â’r terfyn cyflymder 20mya, roedd 14.9% o gerbydau’n teithio ar neu o dan 19mya. Mae hyn wedi gostwng o 19.2% yn ystod gaeaf 2023/24.

Roedd cynnydd yng nghyfran y cerbydau sy’n teithio’n gyflymach na’r terfyn cyflymder o 10mya neu fwy. Yn ystod haf 2024, roedd 16.0% o’r cerbydau a gafodd eu monitro yn teithio ar neu dros 30mya, cynnydd o 14.0% o gerbydau a gafodd eu cofnodi yn ystod gaeaf 2023/24. Fodd bynnag, cyn cyflwyno’r newid i’r terfyn cyflymder, roedd 37.0% o gerbydau’n teithio ar neu dros 30mya. Yn gyffredinol, mae’r cyflymderau a gafodd eu cofnodi yn ystod haf 2024 yn arafach na’r cyflymderau a gafodd eu cofnodi yn ystod haf 2023.

Ffigur 1: Dosraniadau cyflymder cerbydau yn ôl cyfnod monitro

Ffigur 1: Dosraniadau cyflymder cerbydau yn ôl cyfnod monitro

 

Gwybodaeth gefndir

Mae’r datganiad hwn yn crynhoi data cyflymder cerbydau o safleoedd monitro penodol ar hyd a lled Cymru. Roedd gan bob ffordd a gafodd ei monitro derfyn cyflymder o 30mya cyn 17 Medi 2023 a therfyn cyflymder o 20mya o 17 Medi 2023 ymlaen. Adeg y monitro, roedd pob ffordd yn rhydd i raddau helaeth o rwystrau neu gyfyngiadau ffisegol neu rwystrau sy’n lleihau cyflymder traffig.

Mae’r dadansoddiad yn seiliedig ar gyfanswm o ddeuddeg wythnos o fonitro cyflymder yn:

  • Haf 2023 - pedair wythnos o ddata cyn cyflwyno’r terfyn cyflymder, sy’n cwmpasu pythefnos ym mis Gorffennaf a phythefnos ym mis Medi.
  • Gaeaf 2023/4 - pedair wythnos o ddata ar ôl cyflwyno’r terfyn cyflymder, sy’n cwmpasu pythefnos ym mis Tachwedd a phythefnos ym mis Ionawr.
  • Haf 2024 - pedair wythnos o ddata ar ôl cyflwyno’r terfyn cyflymder, sy’n cwmpasu pythefnos ym mis Gorffennaf a phythefnos ym mis Medi.

Mae data haf 2023 a haf 2024 yn cymharu cyfnodau tebyg am debyg cyn ac ar ôl cyflwyno’r terfyn cyflymder 20mya diofyn ar bolisi ffyrdd cyfyngedig.

 

Lleoliadau ar gyfer monitro cyflymder