Diweddariad ar allyriadau carbon 2020/21

Submitted by Content Publisher on

Allyriadau carbon 2020/21

Diweddariad Mai 2022

 

Amcangyfrifodd asesiad cychwynnol o'n hallyriadau carbon ar gyfer 2020/21 gyfanswm ôl-troed carbon o 603,070 tCO2e. Yn ystod dadansoddiad o'r data a gasglwyd ar gyfer adroddiad 2021/22, canfuwyd anghysondebau o fewn ein hallyriadau cadwyn gyflenwi. Canfu dadansoddiad pellach fod cyfrif dwbl o fewn y data gwariant sylfaenol. Mae’r gwallau hyn bellach wedi’u cywiro ac mae adroddiad diwygiedig ar gyfer ein hallyriadau ar gyfer 2020/21 ar gael.

Mae'r adroddiad diwygiedig yn amcangyfrif mai cyfanswm ein hôl troed ar gyfer 2020/21 yw 242,756 tCO2e. Daeth y newid mwyaf yn ein hadroddiad o'n hallyriadau cadwyn gyflenwi, a gyfrifwyd yn wreiddiol ar 521,164 tCO2e. Rydym wedi dileu unrhyw ddata gwariant sylfaenol a ddyblygwyd, gan arwain at igwr newydd o 160,850 tCO2e.

Mae’r adroddiad diweddar hwn wedi’i gynhyrchu i roi cyfrif am ddata cywir y gadwyn gyflenwi a chyfanswm allyriadau wedi’u haddasu ar gyfer 2020/21.

 

Ein hôl troed carbon 2020/21

Cwmpas 1

Allyriadau uniongyrchol o ganlyniad i weithrediadau a gweithgareddau y mae Trafnidiaeth Cymru yn berchen arnynt neu’n eu rheoli.

Cwmpas 2

Allyriadau anuniongyrchol o ynni a gyflenwir gan y grid ynni.

Cwmpas 3

Allyriadau anuniongyrchol o ganlyniad i weithgareddau’n ymwneud â gweithrediadau Trafnidiaeth Cymru, ond nad ydynt o fewn ein rheolaeth uniongyrchol.

 

Cwmpas 1 - 27%

Cwmpas 2 - 1%

Cwmpas 3 - 72%

 

 

Sut rydym yn lleihau ein hallyriadau

Rydym wedi ymrwymo i leihau allyriadau o'n cadwyn gyflenwi lle bo modd.

Byddwn yn cynnal dadansoddiad parhaus o allyriadau ein cadwyn gyflenwi i sefydlu cynrychiolaeth gywir o'r ôl troed carbon o’r nwyddau a’r gwasanaethau a brynwn, gan nodi cyfleoedd ar gyfer lleihau allyriadau i gefnogi targedau datgarboneiddio 2030.

 

Y gweithgaredd sydd a'r lefelau uchaf o allyriadau

Cadwyn Gyflenwi 160,850 tCO2e

Mae hyn oherwydd ein rhaglen drawsnewid helaeth.

 

Mae ein cadwyn gyflenwi yn hanfodol i'n helpu i wneud y canlynol:

  • Adeiladu depos ac adeiladau gorsafoedd newydd
  • Uwchraddio seilwaith
  • Gwneud gwaith cynnal a chadw
  • Trawsnewid y Metro
  • Creu cerbydau trên newydd

 

Gweithgaredd allyrru tCO2e
Cwmpas 1 (allyriadau uniongyrchol)
Nwy 607
Tanwydd 63,890
Milltiroedd cerbyd 7
Cynhyrchu ynni adnewyddadwy 0
Cwmpas 2 (allyriadau anuniongyrchol o ynni a gyflenwir gan y grid)
Trydan 2,647
Cwmpas 3 (allyriadau anuniongyrchol eraill)
Colledion yn y sector nwy 87
Colledion yn y sector tanwydd 14,655
Gwastra ac ailgylchu 13
Cyenwad dŵr 21
Trin dŵr 42
Cadwyn gyenwi  160,850
Colledion yn y sector trydan 624
Colledion yn y sector milltiredd cerbyd 2
Allyriadau o ddefnyddio tir
Allyriadau defnydd net o asedau tir Trafnidiaeth Cymru -689
Cyfanswm allyriadau 2020/21 242,756