
De-orllewin Cymru
Rydym ni wedi ymrwymo i gynnwys cymunedau mewn cynlluniau yn y dyfodol ar gyfer gwasanaethau bws yng Nghymru. Mae’r ddogfen hon yn amlinellu dechrau’r broses honno - ac yn rhoi gwybod am y digwyddiadau cyntaf i ymgysylltu â’r cyhoedd y byddwn yn ei gynnal yn Ne-orllewin Cymru, gan ddechrau yn ystod haf 2025.
Mae’r ymrwymiad hwn yn rhoi manylion am y canlynol:
- Ar ba bynciau rydym yn gofyn am farn, safbwyntiau ac adborth
- Pam mae’n bwysig i ni gael adborth ar y materion hyn
- Pryd fyddwn ni’n ymgysylltu â phobl a chymunedau
- Sut byddwn yn ymgysylltu â chymunedau lleol
- Sut mae cymryd rhan.
Rydym ni eisiau clywed gan y rhanbarth er mwyn helpu i fireinio ein rhwydwaith bysiau lleol arfaethedig drafft i fod yn rhwydwaith y mae pobl leol yn falch ohono.