Masnachfreinio bysiau: rhoi pobl a chymunedau yn gyntaf
Rydyn ni'n newid rhwydwaith bysiau Cymru fel ei fod yn blaenoriaethu pobl a chymunedau. Un o'r prif ffyrdd y byddwn yn gwneud hyn yw trwy gyflwyno ffordd newydd o redeg gwasanaethau bws o'r enw masnachfreinio.
Bydd hyn yn darparu gwasanaethau bws mwy dibynadwy, prisiau bysiau tecach a thocynnau ac amserlenni symlach. Bydd hefyd yn ein galluogi i gysylltu gwasanaethau bws yn well gyda’i gilydd a gyda dulliau trafnidiaeth eraill, felly mae rhwydwaith trafnidiaeth Cymru yn gweithio fel un.