Cwestiynau Cyffredin ynghylch Ymgysylltu yn Ne-orllewin Cymru
Pam ydych chi'n ymgysylltu â rhanbarth De-orllewin Cymru?
Mae Trafnidiaeth Cymru ac awdurdodau lleol yn Ne-orllewin Cymru yn cydweithio i baratoi ar gyfer Diwygio Bysiau. Hwn fydd y rhanbarth cyntaf yng Nghymru lle bydd Diwygio Bysiau yn cael ei roi ar waith yn 2027.
Y cam cyntaf o ran diwygio bysiau ar gyfer y rhanbarth yw bod Trafnidiaeth Cymru ac awdurdodau lleol yn datblygu cynnig ar y cyd ar gyfer y rhwydwaith bysiau yn Ne-orllewin Cymru. Ei enw yw Rhwydwaith Sylfaen Arfaethedig - y llwybrau ac amlder y gwasanaethau y gallai bysiau eu darparu yn y rhanbarth. Ar y cynnig hwn yr hoffem gael eich adborth, ynghyd ag ar rai themâu allweddol eraill.
O gasglu mewnbwn gan y cyhoedd nawr, bydd yn ein helpu i sicrhau y bydd gennym wasanaeth cadarn ar waith yn Ne-orllewin Cymru yn 2027.
Pam dechrau yn rhanbarth De-orllewin Cymru?
Hwn fydd y rhanbarth cyntaf yng Nghymru lle bydd Diwygio Bysiau yn cael ei gyflwyno yn 2027.
Mae'r Bil Diwygio Bysiau yn mynd drwy'r Senedd ac rydym yn anelu at gyflwyno masnachfreinio o Haf 2027. O ystyried graddfa'r newid, rydym yn bwriadu trosglwyddo i fasnachfreinio dros sawl blwyddyn rhanbarth wrth ranbarth. Dyma'r dyddiadau a'r rhanbarthau allweddol (ar hyn o bryd):
- De-orllewin Cymru - 2027
- Gogledd Cymru - 2028
- De-ddwyrain Cymru - 2029
- Canolbarth Cymru - 2030
Yn ôl y Rhwydwaith Sylfaen Arfaethedig, ni fydd fy nhaith bws reolaidd yn newid - pam hynny?
Gallwch nodi newidiadau gan y byddant ar ffurf system rifo alffaniwmerig. Er enghraifft, bydd y gwasanaeth 82 yn cael ei alw'n wasanaeth u82 yn ein Rhwydwaith Sylfaen Arfaethedig. Os na fydd y llwybr yn newid, bydd rhif y gwasanaeth yn parhau i fod yr un peth ag y mae heddiw.
Y Rhwydwaith Sylfaen Arfaethedig yw'r rhwydwaith y credwn y gallwn ei ddarparu o fewn terfynau ein hadnoddau presennol. Mae'n seiliedig ar y rhwydwaith presennol, er ei fod yn cynnwys rhai gwelliannau gan gynnwys:
- Rhwydwaith symlach, sy'n hawdd ei esbonio, ei gofio a'i ddefnyddio.
- Gwasanaethau aml ar lwybrau craidd fydd yn denu'r nifer uchaf o ddefnyddwyr.
- Cyfnewid rhwng gwasanaethau bysiau i alluogi teithiau cyflymach i fwy o gyrchfannau.
- Mwy o wasanaethau uniongyrchol.
Fodd bynnag, rhaid i ni fod yn onest - rydym yn gweithio o fewn terfynau ein hadnoddau (er enghraifft, argaeledd cyllid, bysiau a gyrwyr). Oherwydd hyn, fyddwn ni ddim yn gallu gwneud popeth y bydd pobl ei eisiau yn y cam cyntaf. Mae angen i ni wneud dewisiadau ynghylch sut rydym yn defnyddio'r adnoddau sydd gennym i ddarparu'r gwasanaethau gorau y gallwn o fewn ein cyfyngiadau.
Pam mae rhif fy mws yn edrych yn wahanol?
Rydym wedi awgrymu rhai rhifau bysiau newydd i'w gwneud hi'n hawdd adnabod newid. Dim ond i'ch helpu chi yn ystod yr ymgysylltiad cyhoeddus y mae hyn. Nid ydym yn bwriadu newid rhifau'r bysiau yn eich ardal ar hyn o bryd.
Pam ddylwn i gymryd rhan a dweud fy nweud?
Ry'n ni am greu rhwydwaith trafnidiaeth y mae pobl am ei ddefnyddio, yn gallu ei ddefnyddio ac sydd yn ei ddefnyddio - helpu i'w gwneud yn haws i bobl wneud dewisiadau trafnidiaeth mwy cynaliadwy nawr ac yn y dyfodol. Mae eich adborth yn bwysig er mwyn gallu gwireddu hyn.
Rydym wedi cynllunio Rhwydwaith Sylfaen Arfaethedig yn seiliedig ar y rhwydwaith presennol ynghyd â rhai Gwelliannau, ond rydym am gael eich adborth chi er mwyn gallu eu mireinio. Rydym wedi defnyddio'r wybodaeth sydd gennym am y galw sydd am deithio, dibynadwyedd gwasanaethau bysiau ac amodau gweithredu i gefnogi'r datblygiad hwn ond mae adborth y cyhoedd hefyd yn hanfodol, ac rydym bellach wrthi yn ei gasglu.
Os oes gennych farn ar lwybrau bysiau ac amlder neu farn am yr hyn y dylem ei flaenoriaethu o ran dylunio'r rhwydwaith bysiau yn eich ardal - dyma'r amser i ddweud eich dweud.
Rydym am greu mwy o gyfleoedd i bobl ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, fel ei fod yn fwy defnyddiol i fwy o bobl mewn mwy o sefyllfaoedd. Dyna pam ei bod yn bwysig ein bod yn cael adborth defnyddwyr a phobl nad ydynt yn ddefnyddwyr fel ei gilydd i helpu i fireinio ein cynigion. Fel hyn, gallwn sicrhau ein bod yn dylunio gwasanaethau bysiau sy'n hygyrch i gynifer o bobl â phosibl.
Ydych chi'n gofyn i lawer o bobl am adborth gan gynnwys y rhai sydd â nodweddion gwarchodedig fel pobl ifanc, pobl hŷn a phobl anabl?
Mae gwasanaethau bysiau ar gyfer pawb, nid dim ond y bobl sy'n eu defnyddio nawr. Rydym yn awyddus i gynnwys pawb sydd â diddordeb yn nyfodol gwasanaethau bysiau ar gyfer y rhanbarth. Rydym am glywed amrywiaeth o safbwyntiau – gan y rhai sy'n dibynnu'n helaeth ar wasanaethau bysiau ar hyn o bryd yn ogystal â'r rhai sy'n eu defnyddio o bryd i'w gilydd neu byth.
Felly, rydym yn annog pawb i gymryd rhan yn yr ymgysylltiad hwn. Rydym wedi sicrhau bod ein platfform ymgysylltu 'dweud eich dweud' mor hawdd â phosibl i'w ddefnyddio. Rydym hefyd yn cynnal digwyddiadau wyneb yn wyneb lle gallwn gasglu adborth yn fyw yn ogystal â helpu pobl i lenwi'r arolwg dros y ffôn os oes angen.
Rydym yn hyrwyddo'r platfform ymgysylltu ar draws y rhanbarth, trwy'r cyfryngau ac ar y cyfryngau cymdeithasol, mewn hysbysebion lleol yng nghanol trefi a siopau a thrwy sefydliadau partner fel cyfryngau cymdeithasol awdurdodau lleol. Mae hyn er mwyn hyrwyddo’r cyfle i gymryd rhan ymhell ac agos.
Rydym hefyd yn hyrwyddo'r cyfle trwy rwydweithiau sy'n cynrychioli nodweddion gwarchodedig i sicrhau ein bod yn clywed gan amrywiaeth eang o leisiau, gan gynnwys rhwydweithiau myfyrwyr, pobl hŷn a grwpiau anodd eu cyrraedd a phanel mynediad a chynhwysiant TrC.
Sut fyddwch chi'n defnyddio fy adborth?
Bydd eich adborth yn ein helpu i fireinio ein cynigion a bydd casglu barn y cyhoedd nawr yn helpu i sicrhau bod gennym wasanaeth cadarn ar waith yn Ne-orllewin Cymru yn 2027.
Byddwn yn ystyried yr adborth wrth i ni weithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol yn Ne-orllewin Cymru i ddiweddaru'r Rhwydwaith Sylfaen Arfaethedig yn hydref 2025.
Byddwn yn sicrhau y bydd y Rhwydwaith Sylfaen Ddiweddaraf ar gael yn gyhoeddus erbyn diwedd 2025.
Rwy'n cael anhawster i lenwi'r arolwg. Oes ffordd arall y galla i rannu fy adborth?
Rydym yn eich annog i geisio cwblhau'r arolwg ar-lein yn y lle cyntaf, gan fod hwn yn cynnwys yr wybodaeth a'r mapiau manwl i helpu i roi'r adborth penodol sydd ei angen arnom fel y gallwn fireinio'r rhwydwaith sylfaen arfaethedig.
Fodd bynnag, os nad yw hyn yn bosibl gallwch naill ai ddod i un o'n digwyddiadau galw heibio cyhoeddus neu gysylltu â ni. Gallwn eich helpu i lenwi'r arolwg yn y digwyddiadau hyn neu dros y ffôn.
Mae gen i gwestiynau, sut alla i gael ateb iddynt?
Edrychwch ar ein tudalennau cwestiynau cyffredin. Mae'n ddigon posibl y bydd yr ateb sydd ei angen arnoch ar gael yno.
Rydym hefyd yn eich annog i fynychu un o'n digwyddiadau galw heibio cyhoeddus. Bydd aelodau o dimau TrC ac Awdurdodau Lleol wrth law i sgwrsio â chi am y Rhwydwaith Sylfaen Arfaethedig ac i ateb unrhyw gwestiynau. Ry'n ni'n gobeithio y gallant eich helpu i gymryd rhan yn yr arolwg ar-lein, naill ai yn y digwyddiad, neu yn eich amser eich hun.
Os na allwch ddod o hyd i'r ateb yn ein tudalennau cwestiynau cyffredin neu os nad ydych yn bwriadu dod i ddigwyddiad cyhoeddus, gallwch anfon e-bost aton ni: trc.cymru/cysylltu-a-ni
Yr unig ffordd y gellir cofnodi ymatebion yn ffurfiol yw os cânt eu derbyn ar ffurf yr arolwg. Ni allwn dderbyn neges e-bost fel ymateb i'r arolwg, ond gallwn eich helpu i lenwi'r arolwg os oes angen.
Noder, ni allwn ateb cwestiynau am eich gwasanaeth bws presennol. Cysylltwch â'ch gweithredwr bysiau lleol os oes gennych gwestiynau.
Rwyf am roi adborth am TrC yn fwy cyffredinol. Sut alla i wneud hynny?
Gallwch ddod o hyd i ffyrdd o gysylltu â ni yma.
Pam nad ydych chi'n cynnal digwyddiad galw heibio yn fy ardal i?
Rydym wedi trefnu cyfres o ddigwyddiadau galw heibio ar draws rhanbarth De-orllewin Cymru, mewn trefi ar draws y pedwar awdurdod lleol. Mae gennym dîm bach a phrysur felly er y byddem, mewn byd delfrydol, yn hoffi cynnal llawer mwy o sesiynau galw heibio, mae angen i ni sicrhau ein bod yn cydbwyso ein hadnoddau'n rhesymol.
Rydym wedi ystyried hygyrchedd lleoliadau, poblogaeth a pha mor agos ydynt at gysylltiadau trafnidiaeth lleol wrth wneud y trefniadau. Rydym yn deall y bydd rhai pobl am gwrdd â ni ond yn cael anhawster i ddod i un o'n digwyddiadau. Ry'n ni'n ymddiheuro os digwydd hyn er ein bod wedi sicrhau bod y wybodaeth ar-lein yn ddigonol a bod yr arolwg yn hawdd ei gwblhau.
Byddwn yn hyrwyddo'r ymgysylltiad trwy lawer o ddulliau eraill gan gynnwys trwy sianeli partner, dosbarthu cardiau busnes gyda chysylltiadau uniongyrchol i’r arolwg, posteri ar fysiau, ymysg grwpiau ffocws a chynllun hysbysebu ar-lein ac y tu allan i'r cartref. Ry'n ni'n awyddus i ledaenu'r neges mor bell ac agos â phosibl. Gallwch hefyd gysylltu â ni yn trc.cymru/cysylltu-a-ni os oes angen cymorth arnoch i lenwi'r arolwg.
Beth yw dyddiad cau'r ymgynghoriad?
Mae gennych tan 23 Medi i gwblhau'r arolwg.
Beth fydd yn digwydd ar ôl i'r ymgynghoriad gau?
Caiff y data a gesglir o'r ymgysylltiad hwn ei ddadansoddi, ei werthuso, ei grynhoi a'i gyhoeddi ar ffurf adroddiad.
Byddwn yn gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol yn Ne-orllewin Cymru i ddiweddaru'r Rhwydwaith Sylfaen Arfaethedig yn hydref 2025.
Byddwn yn sicrhau bod y Rhwydwaith Sylfaen Ddiweddaraf ar gael i'r cyhoedd erbyn diwedd 2025. Yna, y gobaith yw ei roi ar waith ar ffurf masnachfreinio yn 2027.