Ynglŷn â Chynllun Rhwydwaith Bysiau Cymru
Mae Llywodraeth Cymru, Trafnidiaeth Cymru ac awdurdodau lleol yng Nghymru yn gweithio gyda'i gilydd i ddiwygio bysiau. Ym mis Chwefror, derbyniodd Deddf Gwasanaethau Bysiau (Cymru) 2026 Gydsyniad Brenhinol. Fel rhan o ddarpariaethau'r ddeddfwriaeth newydd hon, am y tro cyntaf mae Trafnidiaeth Cymru yn cyhoeddi Cynllun Rhwydwaith Bysiau Cymru ar ran Gweinidogion Cymru.
Y bwriad yw, bod Cynllun Rhwydwaith Bysiau Cymru (y Cynllun) yn ddogfen dechnegol strategol a fydd yn cynnwys manylion y rhwydwaith bysiau lleol yng Nghymru. Mae'r Cynllun yn seiliedig ar giplun o'r rhwydwaith na fydd yn derbyn diweddariadau ‘byw’.
Ni ddylid ei ddefnyddio i gynllunio teithiau, gan na fydd y Cynllun yn cynnwys manylion gwasanaeth. Gall cwsmeriaid ddod o hyd i wybodaeth am eu gwasanaethau bws lleol a'u hamserlenni yma: Traveline.Cymru.
Dyma gyhoeddiad cyntaf y Cynllun. Ymgynghorwyd drafft o'r Cynllun yn Haf 2025. Yn dilyn yr ymgynghoriad hwn, diweddarwyd y Cynllun yn seiliedig ar y rhwydwaith bysiau lleol a oedd yn weithredol ar 1 Ebrill 2026, yn ogystal â chynigion gwasanaeth ar gyfer de-orllewin Cymru. Mae'n nodi llwybrau ac arosfannau allweddol y gwasanaethau bysiau lleol. Yn achos gwasanaethau bysiau lleol hyblyg, mae'r Cynllun yn nodi'r ardal ddaearyddol ac unrhyw adrannau sefydlog y mae'n ofynnol i'r gwasanaethau eu gweithredu.
Cynllun Rhwydwaith Bysiau Cymru (tabl / taenlen i lawrlwytho)
Adroddiad Statudol Ymgynghoriad Cynllun Rhwydwaith Bysiau Cymru
Rhwydwaith Canolfannau De-orllewin Cymru
Bwriadwn ddechrau cyflwyno diwygiad o wasanaethau bysiau yn ne-orllewin Cymru. Mae Trafnidiaeth Cymru ac awdurdodau lleol yn y rhanbarth wedi datblygu cynnig ar y cyd ar gyfer y rhwydwaith bysiau, o'r enw ‘Rhwydwaith Sylfaen’. Ymgysylltwyd â'r cyhoedd a rhanddeiliaid rhanbarthol i ofyn am adborth parthed ein Rhwydwaith Sylfaen yn ystod Haf 2025. Mae'r llwybrau a'r prif safleoedd bysiau o fewn Rhwydwaith Canolfannau De-orllewin Cymru wedi'u hamlinellu yn y Cynllun.
Mae'r Cynllun wedi'i ddatblygu yn unol â gofynion Deddf 2026 ac mae'n nodi'r gwasanaethau sydd ar gael at ddibenion sicrhau trafnidiaeth ddiogel, integredig, cynaliadwy, effeithlon a diwastraff yng Nghymru. Rydym wedi defnyddio'r rhwydwaith presennol yn ne-orllewin Cymru fel man cychwyn i ddatblygu'r Rhwydwaith Sylfaen, sydd wedi'i gynllunio i fod yn gyflawnadwy gyda’r cyllid presennol. Yn seiliedig ar ein hegwyddorion cynllunio rhwydwaith, rydym wedi datblygu rhwydwaith symlach, cydlynu gwasanaethau a chael gwared ar ddyblygu lle bo hynny’n bosibl. Lle mae gennym fynediad at ddata am y galw am deithio, dibynadwyedd gwasanaethau bysiau ac amodau gweithredu, rydym wedi defnyddio hynny i gefnogi cynllunio'r rhwydwaith.
Mae’r newidiadau yn ne-orllewin Cymru yn seiliedig ar:
- ...ddarparu rhwydwaith symlach, sy'n hawdd ei esbonio, ei gofio a'i lywio.
- ...lwybrau craidd amledd uchel a all ddenu'r nifer fwyaf o gwsmeriaid.
- ...gyfnewidiadau rhwng gwasanaethau bws er mwyn galluogi teithiau cyflymach i fwy o gyrchfannau.
- ...lai o wyro ac felly gwasanaethau sydd tipyn mwy unionsyth.
Camau nesaf
Bydd y Cynllun hwn yn cael ei osod gerbron y Senedd ym mis Gorffennaf ac yna’n flynyddol er mwyn cynnwys diwygiadau parhaus.
Mae TrC wedi ymrwymo i adolygu a diweddaru'r Cynllun yn barhaus drwy gydol y daith fasnachfreinio bysiau. Bydd hyn yn cael ei wneud mewn ymgynghoriad â diwydiant, y sector cyhoeddus (gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i Awdurdodau Lleol ac Awdurdodau Parciau Cenedlaethol) a chynrychiolwyr teithwyr i sicrhau bod y gwasanaethau yn ateb gofynion ein cymunedau.
I gael rhagor o wybodaeth am yr ystyriaethau cynllunio rhwydwaith ehangach a'n hymrwymiad i ymgysylltu â chymunedau wrth i ni baratoi cynigion rhwydwaith ar gyfer masnachfreinio bysiau, gweler:
Ein map ffordd i ddiwygio’r bysiau