Cwestiynau cyffredin
Beth yw masnachfreinio bysiau?
Mae'n golygu y byddai penderfyniadau am wasanaethau bws yng Nghymru, gan gynnwys llwybrau, amserlenni, prisiau, oriau gweithredu a safonau ansawdd y gwasanaeth yn cael eu gwneud gan Lywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru. Byddwn yn gwneud y penderfyniadau hyn ar y cyd ag awdurdodau lleol. Byddai gweithredwyr bysiau preifat wedyn yn cynnig am gontractau i redeg gwasanaethau yn ôl ein manyleb ni.
Pam rydyn ni'n masnachfreinio?
Nid yw rhwydwaith bysiau Cymru yn gweithio fel y dylai. Mae nifer y teithwyr wedi bod yn gostwng ers blynyddoedd lawer er gwaethaf cyllid cyhoeddus sylweddol.
Mae llawer o bobl yn wynebu gormod o rwystrau rhag teithio ar fysiau, gan gynnwys dibynadwyedd gwael, tocynnau yn cael eu derbyn gan rai gweithredwyr ac nid gan eraill, gwybodaeth anghywir a gwasanaethau bws nad ydynt yn cysylltu â'i gilydd - neu fathau eraill o drafnidiaeth fel trenau.
Mae angen newid i greu rhwydwaith bysiau y gallwch fod yn hyderus i'w ddefnyddio ar gyfer gwaith, addysg neu at ddibenion hamdden, ble bynnag rydych chi'n byw yng Nghymru.
Beth yw manteision masnachfreinio bysiau?
Byddai un tocyn, a fydd yn eich galluogi i deithio'n ddi-dor ar wahanol lwybrau bysiau, neu ar fws a thrên.
Byddai un amserlen, gan ei gwneud hi'n gyflymach ac yn haws i chi gynllunio'ch taith.
Byddai bysiau yn cael eu hamseru i gysylltu â'i gilydd a gyda threnau, felly byddech chi'n treulio llai o amser yn aros am gysylltiadau.
Ni fyddai gwasanaethau lluosog yn dilyn yr un llwybr (yn aml yn cyrraedd safleoedd bws ar yr un pryd), gan eu gwneud yn fwy effeithlon ac yn haws i chi eu llywio.
Byddai bysiau yn gadael yn gyson ar yr un pryd wedi’r awr bob awr, felly byddech chi'n dod yn gyfarwydd â nhw ac ni fyddai angen i chi gyfeirio at yr amserlen bob amser.
Byddai gan wasanaethau oriau gweithredu cyson, gan roi mwy o sicrwydd os ydych chi'n dibynnu ar y bws i'ch cael chi adref.
Pryd fydd masnachfreinio bysiau'n dechrau?
Mae masnachfreinio bysiau yng Nghymru yn parhau i fod ar y trywydd iawn i gael ei weithredu'n llawn erbyn diwedd 2030, gan ddarparu rhwydwaith bysiau sy'n fwy integredig, dibynadwy ac sy'n canolbwyntio fwy ar y cwsmer, ledled y wlad.
Mae datblygiad yr is-ddeddfwriaeth a fydd yn sail i fasnachfreinio yn parhau i fynd rhagddo a bydd yn darparu'r sylfaen ar gyfer gweithredu masnachfreinio ledled Cymru. Er mwyn cefnogi cyfnod pontio llwyddiannus a chynaliadwy, mae’r drefn gyflwyno wedi'i mireinio.
Unwaith y bydd yr is-ddeddfwriaeth wedi'i chwblhau a'i chymeradwyo gan y Senedd, cyflwynir masnachfreinio yn ne-orllewin Cymru yn 2028, ac yna gogledd Cymru yn 2029, a de-ddwyrain a chanolbarth Cymru yn 2030.
Bydd y dull cyflwyno fesul cam hwn yn galluogi gwersi a ddysgwyd o bob cam i lywio cyflwyniadau dilynol, gan helpu i wneud y mwyaf o'r manteision i deithwyr, gweithredwyr a chymunedau wrth gynnal ein hymrwymiad i’w weithredu'n llawn erbyn diwedd 2030.
Lle gallaf ddod o hyd i ragor o wybodaeth am fasnachfreinio bysiau?
Gellir dod o hyd i gynnig llawn Llywodraeth Cymru ar gyfer masnachfreinio bysiau yma:
Sut alla i ddweud fy nweud ar fasnachfreinio bysiau?
Gallwch rannu eich barn a helpu i lunio ein cynigion ar gyfer masnachfreinio bysiau yng Nghymru drwy fynd i TrC dweud eich dweud.
Sut byddaf yn gwybod a yw llwybr fy mws yn newid?
Gallwch nodi newidiadau gan y byddant ar ffurf system rifo alffaniwmerig. Er enghraifft, mae’r 82 yn newid i fod y u82. Os na fydd y llwybr yn newid, bydd rhif y gwasanaeth yn parhau i fod yr un peth ag y mae heddiw.
Yn ôl y Rhwydwaith Sylfaen Arfaethedig, ni fydd fy nhaith bws reolaidd yn newid - pam hynny?
Y Rhwydwaith Sylfaen Arfaethedig yw'r rhwydwaith yr ydym yn credu y gallwn ei gyflawni o dan yr adnoddau presennol (e.e. y cyllid a'r bysiau a'r gyrwyr sydd ar gael). Ni fyddwn yn gallu gwella pob gwasanaeth bws ar unwaith. Ein nod yw darparu'r gwasanaethau gorau y gallwn o dan y cyfyngiadau presennol.
Rwy'n cael anhawster i lenwi'r arolwg. Oes ffordd arall y galla i rannu fy adborth?
Byddem yn eich annog i geisio cwblhau'r arolwg ar-lein gan fod ganddo wybodaeth fanwl a mapiau i'ch helpu i roi adborth gwybodus ar ein cynigion.
Os nad yw hyn yn bosibl, gallwch ymweld ag un o'n digwyddiadau galw heibio i'r cyhoedd neu gysylltu â ni yma trc.cymru/cysylltu-a-ni. Gallwn eich helpu i lenwi'r arolwg yn y sesiwn galw heibio neu dros y ffôn.
Yn anffodus, dim ond ymatebion a dderbynnir drwy'r arolwg y gallwn eu cofnodi'n ffurfiol.
Mae gen i gwestiwn nad yw wedi'i gynnwys yn y cwestiynau cyffredin hyn
Ewch i un o'n digwyddiadau galw heibio i’r cyhoedd lle gall ein cydweithwyr a chynrychiolwyr o'ch awdurdod lleol sgwrsio â chi am y Rhwydwaith Sylfaen Arfaethedig ac ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.
Os na allwch fynychu sesiwn galw heibio, cysylltwch â ni drwy trc.cymru/cysylltu-a-ni
Noder, ni allwn ateb cwestiynau am eich gwasanaeth bws presennol. Cysylltwch â'ch gweithredwr bysiau lleol os oes gennych gwestiynau.
Rwyf am roi adborth am TrC yn fwy cyffredinol. Sut alla i wneud hynny?
Gallwch ddod o hyd i ffyrdd o gysylltu â ni yma.