Cwestiynau cyffredin ar gyfer rhanddeiliaid
Sut bydd masnachfreinio bysiau yn cael ei ariannu a sut bydd arian yn cael ei ddyrannu?
Rydym yn adeiladu model ariannol cynhwysfawr sy'n cyfrif am refeniw tocynnau bysiau a'r costau sy'n gysylltiedig â rhedeg gwasanaethau. Bydd hyn yn llywio ein dull o ariannu masnachfreinio bysiau.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid gwerth miliynau o bunnoedd i ddiogelu gwasanaethau bws drwy'r Cynllun Brys ar gyfer y Sector Bysiau, Y Gronfa Bontio ar gyfer Bysiau a'r Cynllun Rhwydwaith Bysiau. Mae cyllid sylweddol arall yn cynnwys Y Grant Cynnal Gwasanaethau Bysiau, cymhorthdal awdurdodau lleol ac ad-dalu tocynnau gostyngol.
Dyma'r dyraniadau cyllid presennol ar gyfer bysiau, y cytunwyd arnynt gan awdurdodau lleol drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Nid oes unrhyw gynlluniau i'r rhain newid.
De-orllewin | £23,258,413.88 | 21% |
De-ddwyrain | £64,170,239.74 | 57% |
Powys | £2,655,301.26 | 2% |
Ceredigion | £1,649,293.22 | 1% |
Gogledd Cymru | £21,049,663.05 | 19% |
£112,782,911.15 |
Gellir buddsoddi'r arian hwn yn well mewn system fasnachfraint. Gellir ei dargedu i ddarparu rhwydwaith wedi'i gynllunio ar sail anghenion teithwyr a chreu system fwy syml i weithredwyr trwy gydgrynhoi gwahanol ffynonellau cyllido mewn taliadau contractiol.
Rydym yn cynnig defnyddio model cost gros sy'n seiliedig ar gymhelliant lle byddwn yn talu swm sefydlog i weithredwyr er mwyn rhedeg gwasanaeth. Trwy gymhellion ariannol, byddai gweithredwyr yn cael eu gwobrwyo am ddarparu gwasanaethau bws o ansawdd uchel, sy'n cyd-fynd ag amcanion polisi cenedlaethol a rhanbarthol. Byddem yn rheoli refeniw prisiau teithwyr, y gellir ei ailfuddsoddi i gadw'r rhwydwaith i redeg ac i wella gwasanaethau bws.
A fydd gwasanaethau sy’n gwneud colledion, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, yn cael eu diogelu?
Mae masnachfreinio yn debygol o leihau'r posibilrwydd y bydd gwasanaethau bws yn methu yn y tymor hir. Mae hyn oherwydd y gallwn gyflwyno mesurau i ddiogelu gwasanaethau os bydd gweithredwr yn mynd i drafferthion.
Yn amodol ar reolau caffael a chystadleuaeth, gallwn weithio gyda gweithredwyr wedi’u masnachfreinio eraill i gymryd gwasanaethau sydd wedi methu, darparu gwasanaeth interim neu wasanaeth newydd yn lle’r gwasanaeth gwreiddiol i weithredwr arall neu hyd yn oed darparu gwasanaeth newydd yn uniongyrchol i gymryd lle gwasanaeth dan gontract sydd wedi methu.
Rydym am ddarparu mynediad tecach i drafnidiaeth gyhoeddus ledled Cymru a mynd i'r afael â'r rhwystrau y mae llawer o gymunedau gwledig yn eu hwynebu.
Bydd ein Llwybr Gwledig yn helpu pobl yn y cymunedau mwyaf anghysbell i gael mynediad gwell i'w pentref neu dref leol. O'r fan honno, bydd ganddynt amrywiaeth ehangach o opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus, cerdded neu feicio i deithio'n lleol neu wneud teithiau pellter hirach.
Beth am wasanaethau bws fflecsi?
Bydd ein gwasanaethau fflecsi ar-alw yn parhau i fod yn rhan allweddol o rwydwaith bysiau Cymru, yn enwedig ar gyfer cymunedau gwledig. Yn y dyfodol, bydd y gwasanaethau hyn hefyd yn cael eu masnachfreinio.
Rydym yn edrych ar sut y gellir ehangu fflecsi i ddarparu gwell mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus i bobl mewn ardaloedd nad ydynt wedi'u gwasanaethu gan fysiau wedi'u trefnu, neu mewn ardaloedd sydd â gwasanaethau cyfyngedig. Gellid ymestyn oriau gweithredu gwasanaethau fflecsi hefyd.
A fydd gwasanaethau trawsffiniol yn cael eu diogelu?
Mae gwasanaethau bws trawsffiniol yn bwysig i economi Cymru. Maent yn cysylltu cymunedau yng Nghymru a Lloegr â'i gilydd a chyda mannau gwaith, dysgu, iechyd a hamdden. Byddant yn cael eu cynnwys yn y rhwydwaith a bwriedir y bydd y rhan fwyaf yn cael eu masnachfreinio.
Ar gyfer gwasanaethau sy'n dod i mewn i Gymru o du hwnt i’r ffin, gall trwyddedau fod yn fwy priodol. Bydd y rhain yn caniatáu i wasanaethau bws o Loegr weithredu yng Nghymru tra'n ein galluogi i osod amodau er mwyn sicrhau y cynhelir y safonau a osodwyd gennym ar gyfer ein rhwydwaith bysiau wedi’i fasnachfreinio.
Mae gwasanaethau bws trawsffiniol yn bwysig i economi Cymru. Maent yn cysylltu cymunedau yng Nghymru a Lloegr â'i gilydd a chyda mannau gwaith, dysgu, iechyd a hamdden. Byddant yn cael eu cynnwys yn y rhwydwaith a bwriedir y bydd y rhan fwyaf yn cael eu m
Rydym yn deall pwysigrwydd trafnidiaeth gymunedol a'r budd cymdeithasol hanfodol y mae'n ei darparu trwy gynnig mynediad at addysg, gofal iechyd ar gyfer achosion nad ydynt yn rhai brys a gwasanaethau cymdeithasol.
Bydd awdurdodau lleol yn cadw eu dyletswydd statudol i ddarparu cludiant o'r cartref i'r ysgol. Ni fydd angen contract masnachfraint ar wasanaethau trafnidiaeth gymunedol ac ni fydd disgwyl iddynt fodloni amodau gwasanaethau bws sydd wedi’u masnachfreinio. Fodd bynnag, gall gweithredwyr trafnidiaeth gymunedol barhau i wneud cais am gontractau masnachfraint lle bo hynny'n briodol.
Byddwn yn helpu trafnidiaeth gymunedol i ffynnu trwy weithio gydag awdurdodau lleol i weld sut y gellir ei hintegreiddio'n well â gwasanaethau bws lleol, gan gynnwys gwasanaethau sy'n ymateb i'r galw fel fflecsi. Bydd hyn yn darparu gwasanaeth bws mwy cynhwysfawr i bobl leol, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.
Beth yw rôl gweithredwyr bysiau a sut y byddwch chi'n gweithio gyda nhw?
O dan fasnachfraint bysiau, gall gweithredwyr bysiau wneud cais am gontractau i redeg gwasanaethau yn ôl manylebau a bennir gan Trafnidiaeth Cymru, Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol Cymru. Byddai'r rhain yn berthnasol i lwybrau, amserlenni, prisiau, oriau gweithredu a safonau ansawdd gwasanaeth.
Rydym yn disgwyl y bydd cymysgedd o wasanaethau bws masnachfraint a gwasanaethau masnachol yn cydfodoli mewn rhannau o Gymru nes ein bod wedi cyflwyno’r system fasnachfraint yn llawn yn 2030.
Mewn ardaloedd lle nad yw masnachfreinio wedi'i gyflwyno eto, gall gweithredwyr barhau i redeg gwasanaethau fel y maent yn ei wneud nawr. Pan fydd gwasanaeth yn dechrau y tu allan i ardal dan fasnachfraint ond yn croesi drwy ardal fasnachfraint, bydd yn gallu parhau i redeg nes bydd yr ardal y tu allan yn cael ei masnachfreinio.
Byddwn yn gweithio gyda gweithredwyr i roi cymaint o sicrwydd â phosibl yn ystod y cyfnod pontio ac i ddarparu canllawiau ar gyfer gweithredu gwasanaethau masnachol yn ystod y cyfnod pontio.
Lle gallaf ddod o hyd i ragor o wybodaeth am fasnachfreinio bysiau?
Mae cynnig llawn Llywodraeth Cymru ar gyfer masnachfreinio bysiau i'w weld yma:
Ein map ffordd i ddiwygio’r bysiau: tuag at Un Rhwydwaith, Un Amserlen, Un Tocyn