Ein cylch gwaith ar gyfer teithio llesol
Diogelu ein hamgylchedd naturiol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol yw un o heriau mwyaf ein hoes.
Ar hyn o bryd mae trafnidiaeth yn cyfrif am 17% o allyriadau carbon Cymru. Bydd lleihau’r rhain yn hanfodol i Gymru gyrraedd ei nod o sero net erbyn 2050 a mynd i’r afael â’r bygythiad o newid yn yr hinsawdd, fel y nodir yn Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth Cymru.
Ein nod yw cynyddu nifer y teithiau ar drafnidiaeth gyhoeddus neu deithio llesol 40% erbyn 2040. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda’n partneriaid i fynd i’r afael â heriau o ran tagfeydd, llygredd aer, anweithgarwch corfforol ac anghydraddoldeb cymdeithasol, drwy ei gwneud yn haws i bobl feicio, cerdded ac olwynio.
Mae arnom eisiau i gerdded, olwynio a beicio ddod yn ddewis arferol ar gyfer siwrneiau byrrach, oherwydd mae teithio llesol yn well i’n hiechyd, ein hamgylchedd a’r economi. Mae hynny’n golygu y dylai pawb gael yr hawl i gerdded neu olwynio o amgylch ein cymdogaethau yn rhwydd, yn annibynnol ac yn hyderus.
Ein gwaith
Rydyn ni’n canolbwyntio ar newid dulliau teithio wrth i deithio llesol yn dod yn rhan allweddol o’r ffordd y mae Cymru’n teithio. Dyma’r dewis teithio sy’n cael ei ffafrio, fel yr amlinellir yn Llwybr Newydd: strategaeth drafnidiaeth Cymru 2021 gan ei fod yn rhoi’r cyfle gorau i Gymru gyrraedd targedau datgarboneiddio.
Rydyn ni’n gweithio gydag awdurdodau lleol a rhanddeiliaid allweddol eraill i helpu i ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth integredig ledled Cymru, gan gynnwys darparu cymorth a chyngor i awdurdodau lleol wrth iddynt ddatblygu a darparu eu cynlluniau teithio llesol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn trc.cymru/gronfa-teithio-llesol.
Byddwn hefyd yn gwella'r ddarpariaeth ar gyfer teithio llesol gan wella cysylltiadau â'r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus drwy wneud y canlynol:
- buddsoddi £194 miliwn er mwyn gwella gorsafoedd, ac adeiladu o leiaf pum gorsaf newydd
- defnyddio cronfa o £15 miliwn i wneud gorsafoedd yn fwy hygyrch, ac i lansio ap newydd sy'n galluogi cwsmeriaid y mae angen cymorth arnynt i ‘gyrraedd a mynd’
- sicrhau bod arwyddion priodol ym mhob gorsaf i hybu ffyrdd o barhau â’r daith ar drafnidiaeth gyhoeddus.
Mae rhagor o wybodaeth am weledigaeth Llywodraeth Cymru am gerdded a beicio ar gael yma.
Cynlluniau Teithio Llesol
Rydyn ni’n gweithio gydag awdurdodau lleol a rhanddeiliaid allweddol eraill i helpu i ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth integredig ledled Cymru, gan gynnwys darparu cymorth a chyngor i awdurdodau lleol wrth iddynt ddatblygu a darparu eu cynlluniau teithio llesol.
Gyda’n gilydd, rydyn ni’n creu ac yn hyrwyddo rhwydweithiau sy’n gallu sicrhau mai teithio llesol yw’r dewis iawn, boed hynny ar gyfer teithiau byr neu i gysylltu â thrafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer teithiau hirach. Mae hyn yn cynnwys:
- nodi, datblygu a darparu llwybrau teithio llesol sy’n cysylltu pobl â’r lleoedd maen nhw’n teithio iddyn nhw bob dydd
- asesu Mapiau’r Rhwydwaith Teithio Llesol a ddatblygwyd gan awdurdodau lleol a datblygu Map Data Cymru, llwyfan mapio teithio llesol Llywodraeth Cymru, er mwyn helpu i annog pobl i gerdded, olwynio neu feicio wrth deithio’n lleol
- datblygu rhaglen hyfforddi amlddisgyblaethol ar gyfer ymarferwyr teithio llesol i annog arferion gorau o ran dyluniad ac arweiniad teithio llesol i sicrhau bod seilwaith o ansawdd uchel yn cael ei roi ar waith
- datblygu pecyn cymorth i’w ddefnyddio gan awdurdodau lleol i helpu i annog newid ymddygiad, ynghyd â lansio rhaglen beilot i newid ymddygiad fel rhan o waith Uned Gyflawni Burns
- rhoi cyngor ar gynigion sy’n ymwneud â theithio llesol fel cynigion i adfywio a datblygu canol trefi, gan gynnwys rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, er mwyn sicrhau bod y ddarpariaeth ar gyfer cerdded a beicio yn glir o’r cychwyn cyntaf
- gweithio gydag awdurdodau lleol a phartneriaid cyflawni allweddol eraill i wella ansawdd seilwaith a rhannu arferion da i flaenoriaethu teithio llesol. Bydd hyn yn helpu i greu llwybrau beicio gwell a mwy diogel, a mwy o le i gerdded a beicio
- cefnogi Llywodraeth Cymru a Sustrans i gyflwyno cynlluniau peilot i ddefnyddio beiciau trydan (e-feiciau) a beiciau e-cargo fel opsiwn fforddiadwy i fwy o unigolion a busnesau
- gweithio gydag awdurdodau lleol i wella’r cyfleusterau ar gyfer parcio beiciau yn ein gorsafoedd a storio beiciau ar y stryd, gan gynnwys siediau beiciau.