Helpu i drawsnewid Cymru
Mae ein llythyr cylch gwaith pum mlynedd gan Lywodraeth Cymru yn nodi’r blaenoriaethau y mae’n rhaid i ni eu cyflawni dros dymor Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn cyd-fynd â’r canlynol:
- Y Rhaglen Lywodraethu sy’n nodi amcanion Llywodraeth Cymru ar gyfer senedd Cymru 2021-26.
- Llwybr Newydd: strategaeth drafnidiaeth Cymru 2021 sy’n nodi gweledigaeth ar gyfer sut gall ein rhwydwaith trafnidiaeth ein helpu i gyflawni blaenoriaethau Llywodraeth Cymru i greu cymdeithas fwy ffyniannus, gwyrdd a chyfartal dros yr 20 mlynedd nesaf.
- Y saith nod llesiant a'r pum ffordd o weithio a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Rydyn ni’n helpu i drawsnewid Cymru i fod yn wlad sy’n dewis trafnidiaeth gyhoeddus yn gyntaf drwy ddarparu:
- mwy o gyfle i wneud dewisiadau teithio cynaliadwy
- cymhelliant i symud oddi wrth ddefnyddio ceir preifat
- y gallu i gymell newid mewn ymddygiad drwy gefnogi a chael gwared ar rwystrau er mwyn ysgogi’r defnydd o ddulliau teithio cynaliadwy.
Rydyn ni’n gwneud teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus yn haws ac yn fwy hygyrch i bawb ledled Cymru a’r gororau. Drwy gynnwys mwy o allu a dibynadwyedd yn ein rhwydwaith a’n gweithrediadau, rydyn ni eisiau gwneud trafnidiaeth gyhoeddus yn opsiwn teithio deniadol. Dyna fydd yn creu Cymru fwy cynaliadwy.