Y Gronfa Teithio Llesol

Rydyn ni’n darparu cyngor a chymorth i Lywodraeth Cymru, gan gynnwys helpu i adolygu canllawiau sy’n gysylltiedig â Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013. Byddwn hefyd yn gyfrifol am weinyddu rhaglen y Gronfa Teithio Llesol ar ran Llywodraeth Cymru.

Mae awdurdodau lleol yn gallu gwneud cais am gyllid drwy raglen y Gronfa Teithio Llesol (ATF), drwy gyfuniad o gyllid craidd a phroses ymgeisio gystadleuol, i gefnogi’r gwaith o ddarparu cynlluniau teithio llesol ledled Cymru. Mae rhagor o wybodaeth am raglen y Gronfa Teithio Llesol ar gael yma.