SÊL: Hyd at 50% oddi ar bris tocyn Advance
Rhwng 17 Mawrth a 31 Mawrth 2026, gallwch gael hyd at 50% oddi ar bris tocyn trên Advance ar gyfer rhai teithiau yn unig ar wasanaethau trên Trafnidiaeth Cymru rhwng 20 Mawrth a'r 27 Ebrill (ac eithrio 28 Mawrth, 2 Ebrill a 3 Ebrill), pan fyddwch chi'n prynu tocyn yn uniongyrchol gennym ni ar ein gwefan, ein ap neu mewn swyddfa docynnau (yn amodol ar delerau ac amodau*).
Mynd ar wyliau neu mynd i ymweld â ffrindiau a theulu? Nawr yw'r amser i brynu tocyn. Ond brysiwch - mae tocynnau'n gyfyngedig, y cyntaf i'r felin yw hi.
Rydym wedi ychwanegu'r gallu i chi ledaenu taliadau dros 3 taliad gan ddefnyddio Paypal Pay in 3. Cewch fwy o wybodaeth am yr opsiwn hwn ar y sgrin dalu.
Telerau ac amodau
Mae telerau ac amodau'r Rheilffyrdd Cenedlaethol yn berthnasol.
Mae tocynnau Advance yn gyfyngedig, yn amodol ar argaeledd a rhaid eu prynu o leiaf 3 diwrnod cyn teithio.
Mae'r prisiau gwerthu a nodir yn ddilys i'w prynu rhwng 17 - 31 Mawrth 2026, ar gyfer rhai teithiau yn unig a wneir ar wasanaethau trên Trafnidiaeth Cymru rhwng 20 Mawrth a 27 Ebrill 2026).
Eithriadau: Nid yw prisiau tocyn ar gael ar gyfer y dyddiadau hyn sydd wedi'u heithrio: 28 Mawrth, 2 Ebrill a 3 Ebrill.