Croeso i Glwb 60

60 oed a throsodd? Ymuwch â’r Clwb.

Sefydlodd y Cyrnol Harland Sanders Kentucky Fried Chicken yn 65 oed. Etholwyd Nelson Mandela yn arlywydd De Affrica yn 76 oed a dringodd Syr Ranulph Fiennes Mynydd Everest yn ei 60au. Felly, beth sy'n eich atal rhag mynd ar antur ar draws Cymru?

Os ydych chi'n 60 oed neu’n hŷn, darganfyddwch Gymru ar y trên gyda Chlwb 60 gan Trafnidiaeth Cymru.

Am gyfnod cyfyngedig yn unig, gall pobl 60 oed a throsodd gael 50% oddi ar docynnau trên Advance ar gyfer teithiau rhwng yr 20fed o Fehefin a'r 15fed o Orffennaf.

Ond brysiwch, daw’r sêl i ben ar y 23ain o Fehefin.

 

Telerau ac amodau

Mae tocynnau'n amodol ar faint sydd ar gael. Llwybrau penodol yn unig.

Cynnig i bobl 60 oed neu’n hŷn. Efallai y bydd angen dangos prawf oedran.

Rhaid prynu tocynnau o leiaf 3 diwrnod cyn teithio.

Mae prisiau’r sêl a’r  gostyngiadau Clwb 60 a nodwyd ond yn ddilys ar gyfer prynu tocynnau Safonol Advance rhwng cyfnod y sêl, sef 17-23 Mehefin 2025, ar gyfer teithiau ar wasanaethau trên penodol Trafnidiaeth Cymru a wnaed rhwng 20 Mehefin a 15 Gorffennaf 2025.

Mae gostyngiadau ar gerdyn rheilffordd yn berthnasol.

Mae telerau ac amodau teithio National Rail yn berthnasol.