Teithio ar y trên am ddim os ydych chi'n dianc rhag cam-drin domestig

Rydym yn gwybod y gall prisiau trenau weithiau fod yn rhwystr i fenywod, plant a dynion sy'n dianc rhag cam-drin domestig.

Dyna pam rydym ni'n cefnogi Rail to Refuge, menter ar y cyd rhwng cwmnïau trenau a Women's Aid i dalu am deithiau pobl i loches ddiogel.

 

Sut mae'n gweithio?

Unwaith y byddwch wedi cysylltu am wasanaeth i ymdrin â cham-drin domestig a gofyn am gymorth gan Women's Aid, byddan nhw’n eich rhoi mewn cysylltiad â lloches ddiogel, os bydd angen am hynny. Cewch eich hysbysu unwaith y bydd y lloches yn barod ar eich cyfer.

Os oes angen, bydd y lloches yn trefnu tocyn trên am ddim i chi i'r lloches. Peidiwch â phoeni, nid oes angen i chi ddarparu unrhyw fanylion heblaw eich tarddiad a gorsaf drên pen eich taith.

 

Sut alla i gasglu fy nhocyn trên?

Mae'n dibynnu ar eich amgylchiadau. Gall:

  • Gael ei anfon at eich ffôn symudol
  • defnyddio cerdyn debyd neu gredyd a chasglu'r tocyn mewn gorsaf drenau (gan ddefnyddio cod casglu gan Women's Aid)
  • trefnu cael y tocyn gan y lloches 

Ar ôl cael eich tocyn trên, gallwch deithio fel arfer. Nid oes angen i chi ddatgan ei fod yn rhad ac am ddim na’r ffaith eich bod yn ffoi rhag cam-drin domestig.

 

A all dynion ddefnyddio gwasanaeth Rail to Refuge?

Wrth gwrs - gall unrhyw un fod yn ddioddefwr cam-drin domestig.

Mae gan elusen Respect Lein Gynghori i Ddynion a gallan nhw drefnu tocyn trên am ddim.

 

Ble alla i ddod o hyd i ragor o wybodaeth?

Gellir dod o hyd i fanylion am y cynllun, a'r sefydliadau sy'n cymryd rhan, yma: Teithio i Loches (womensaid.org.uk)