Mwynhewch y golygfeydd ar hyd Arfordir godidog y Cambrian gyda thocyn diwrnod Crwydro’r Cambrian.
Gallwch ei ddefnyddio am y diwrnod cyfan o 09:30 ymlaen o ddydd Llun i ddydd Gwener neu drwy'r dydd ar benwythnosau (dim gwyliau’r banc) o Bwllheli i Aberystwyth a Machynlleth.
Prisiau
Oedolyn | Plentyn | |
Crwydro Arfordir y Cambrian | £18 | £9 |
*Gallwch arbed mwy o arian gyda'r Cardiau Rheilffordd canlynol:
- Cerdyn Rheilffordd 16-17 Saver
- Cerdyn Rheilffordd 16-25
- Cerdyn Rheilffordd 26-30
- Cerdyn Rheilffordd Pobl Anabl
- Cerdyn Rheilffordd Lluoedd EF
- Cerdyn Rheilffordd Pobl Hŷn
- Cerdyn Rheilffordd 18 Saver TrC
- Cerdyn Rheilffordd Myfyrwyr TrC
- Cerdyn Rheilffordd i Gyn-filwyr
- Cerdyn Rheilffordd i Ddau Berson (Two Together) (ar hyn o bryd nid yw’r cerdyn hwn ar gael ar ein ap neu ar ein gwefan)
Ble mae prynu tocyn Arfordir y Cambrian
Prynwch docyn Crwydro’r Cambrian o'n ap, gwefan, unrhyw un o’r swyddfeydd tocynnau yn ein gorsafoedd neu ar y trên. Bydd angen i chi gael ein ap er mwyn i’ch tocyn weithio ar eich ffôn.
Gallwch hefyd brynu’r tocynnau o orsafoedd rheilffordd eraill yn y DU sydd â swyddfa docynnau, gan Asiantau Teithio wedi’u penodi gan National Rail.
Map
Telerau ac amodau
- Gallwch chi deithio faint fynnwch chi yn yr ardal ddaearyddol ddynodedig am ddiwrnod ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru.
- Gallwch chi deithio faint fynnwch chi ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru rhwng ac yn cynnwys Machynlleth, Aberystwyth a Phwllheli am ddiwrnod.
- Yn ddilys ar gyfer teithio ar ôl 09:30 dydd Llun i ddydd Gwener, a drwy ddydd Sadwrn, dydd Sul a Gwyliau Banc.
- Yn ddilys ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru.
- Prynwch docyn Crwydro’r Cambrian o swyddfa docynnau eich gorsaf leol.
- Os nad oes cyfleusterau prynu tocynnau yn yr orsaf lle rydych chi’n cychwyn eich taith, gallwch hefyd brynu tocyn Crwydro’r Cambrian gan Oruchwyliwr ar wasanaeth trên Trafnidiaeth Cymru.
- Gellir cael ad-daliad am docynnau heb eu defnyddio, ond rhaid talu ffi weinyddu.
- Pris yn ddilys hyd at 31 Rhagfyr 2024.
-
Oeddech chi’n gwybod?Mae gan Gymru lawer i’w gynnigDarganfod hyd a lled rhwydwaith Trafnidiaeth CymruArchwiliwch ein Rhwydwaith