O gestyll hanesyddol a mynyddoedd dramatig i draethau godidog a theithiau cerdded gwych, mae modd darganfod mwy o Gymru am lai gan ddefnyddio Pas Archwilio Cymru.
Mae'n ddelfrydol ar gyfer eich gwyliau yng Nghymru.
Mae ein Tocyn Crwydro Cymru yn ddilys ar gyfer teithio am bedwar diwrnod o fewn cyfnod o 8 diwrnod i unrhyw le yng Nghymru ar y trên ac ar fysiau rhai cwmnïau.
Prisiau
Oedolyn | Plentyn | |
Pas Archwilio Cymru | £149 | £74.50 |
*Gallwch arbed mwy o arian gyda'r Cardiau Rheilffordd canlynol:
- Cerdyn Rheilffordd 16-17 Saver
- Cerdyn Rheilffordd 16-25
- Cerdyn Rheilffordd 26-30
- Cerdyn Rheilffordd Pobl Anabl
- Cerdyn Rheilffordd Lluoedd EF
- Cerdyn Rheilffordd Pobl Hŷn
- Cerdyn Rheilffordd 18 Saver TrC
- Cerdyn Rheilffordd Myfyrwyr TrC
- Cerdyn Rheilffordd i Gyn-filwyr
- Cerdyn Rheilffordd i Ddau Berson (Two Together) (ar hyn o bryd nid yw’r cerdyn hwn ar gael ar ein ap neu ar ein gwefan)
Ble mae prynu Pas Archwilio Cymru
Gallwch brynu Pas Archwilio Cymru o'n ap, gwefan, unrhyw un o’r swyddfeydd tocynnau yn ein gorsafoedd neu ar y trên. Bydd angen i chi gael ein ap er mwyn i’ch tocyn weithio ar eich ffôn.
Gallwch hefyd brynu’r tocynnau o orsafoedd rheilffordd eraill yn y DU sydd â swyddfa docynnau, gan Asiantau Teithio wedi’u penodi gan National Rail.
Map
Alla i uwchraddio o docyn Safonol i docyn Dosbarth Cyntaf?
Gallwch uwchraddio o docyn Dosbarth Safonol i Ddosbarth Cyntaf ar ein gwasanaethau, lle mae’n bosib gwneud hynny. Mae hyn yn berthnasol i'n holl docynnau Safonol gan gynnwys Tocyn Sengl Unrhyw Amser ac Ymlaen Llaw, Tocyn Dychwelyd, Tocynnau Tymor a thocynnau Rover a Ranger. Rhowch wybod i'r tocynnwr os hoffech uwchraddio gan y bydd angen iddynt gadarnhau bod lle yn y cerbyd(au) Dosbarth Cyntaf. Cofiwch y bydd cost ychwanegol hefyd am unrhyw brydau a archebwch ar y trên os ydych yn uwchraddio i docyn Dosbarth Cyntaf.
Gweithgareddau
Os ydych yn mwynhau bwyd, crwydro, mwynhau rhuthr adrenalin, neu'n edrych am fan tawel i ymlacio.
Mae gan Groeso Cymru syniadau grêt ar gyfer eich taith.
Ein partneriaid bysiau
Bysiau Dyma restr o'r cwmnïau bysiau yng Nghymru a fydd yn derbyn ‘Tocyn Crwydro Cymru’:
Telerau ac amodau
- Gallwch chi deithio faint fynnwch chi yn yr ardal ddaearyddol ddynodedig ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru am 4 diwrnod o fewn cyfnod o 8 diwrnod.
- Pob gorsaf yng Nghymru ynghyd ag estyniadau i Loegr drwy Shotton - Crewe - Y Fenni a Chas-gwent - Cheltenham.
- Gallwch chi deithio faint fynnwch chi gyda thocyn Crwydro Cymru ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru yn yr ardal ddaearyddol ddynodedig am 4 diwrnod o fewn cyfnod o 8 diwrnod.
- Yn ddilys ar gyfer teithio ar ôl 09:30 dydd Llun i ddydd Gwener, a drwy ddydd Sadwrn, dydd Sul a Gwyliau Banc.
- Fodd bynnag, does dim cyfyngiad rhwng Llandudno a Blaenau Ffestiniog, Amwythig ac Abertawe ar wasanaethau Calon Cymru, gorllewin o Gaerfyrddin, Aberystwyth-Machynlleth-Pwllheli neu Wrecsam Canolog-Bidston.
- Dim cyfyngiad ar fysiau.
- Yn ddilys ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru, CrossCountry, Great Western Railway a Avanti West Coast.
- Prynwch docyn Crwydro Cymru o swyddfa docynnau eich gorsaf leol.
- Gellir cael ad-daliad am docynnau heb eu defnyddio, ond rhaid talu ffi weinyddu.
-
Oeddech chi’n gwybod?Mae gan Gymru lawer i’w gynnigDarganfod hyd a lled rhwydwaith Trafnidiaeth CymruArchwiliwch ein Rhwydwaith