Gallwch chi deithio faint fynnwch chi yng Ngorllewin Cymru rhwng Caerfyrddin, Doc Penfro, Aberdaugleddau ac Abergwaun gyda’n tocyn Diwrnod Crwydro Gorllewin Cymru.
Prisiau
Oedolyn | Plentyn | Cerdyn Rheilffordd* | |
Crwydro Gorllewin Cymru | £14.60 | £7.30 | £9.60 |
*Arbedwch ragor gyda'r Cardiau Rheilffordd canlynol: 16-25, Dau Berson , Pobl Anabl neu Pobl Hŷn.
Ble mae prynu Tocyn Crwydro Gorllewin Cymru
Prynwch docyn Crwydro Gorllewin Cymru o swyddfa docynnau eich gorsaf leol.
Map
Gweithgareddau
Os ydych yn mwynhau bwyd, crwydro, mwynhau rhuthr adrenalin, neu'n edrych am fan tawel i ymlacio. Mae gan Groeso Cymru syniadau grêt ar gyfer eich taith.
Telerau ac amodau
- Gyda thocyn Crwydro Gorllewin Cymru gallwch chi deithio faint fynnwch chi ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru rhwng ac yn cynnwys Caerfyrddin, Doc Penfro, Harbwr Abergwaun ac Aberdaugleddau am ddiwrnod.
- Yn ddilys ar gyfer teithio ar ôl 09:30 dydd Llun i ddydd Gwener, a drwy ddydd Sadwrn, dydd Sul a Gwyliau Banc.
- Yn ddilys ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru.
- Prynwch docyn Crwydro Gorllewin Cymru o swyddfa docynnau eich gorsaf leol.
- Os nad oes cyfleusterau prynu tocynnau yn yr orsaf lle rydych chi’n cychwyn eich taith, gallwch hefyd brynu tocyn Crwydro Gorllewin Cymru gan Oruchwyliwr ar wasanaeth trên Trafnidiaeth Cymru.
- Gellir cael ad-daliad am docynnau heb eu defnyddio, ond rhaid talu ffi weinyddu.
- Pris yn ddilys hyd at 31 Rhagfyr 2024.
-
Oeddech chi’n gwybod?Mae gan Gymru lawer i’w gynnigDarganfod hyd a lled rhwydwaith Trafnidiaeth CymruArchwiliwch ein Rhwydwaith