Mae ein Ranger Cylch Calon Cymru yn caniatáu i chi deithio ar hyd Rheilffordd Calon Cymru ar lwybr cylchol dros 1 ddiwrnod.
Darganfyddwch dirweddau syfrdanol Cymru ar Lein Calon Cymru, taith ar y trên o Abertawe i Amwythig. Teithiwch drwy gefn gwlad hardd, pentrefi tawel a threfi marchnad swynol.
Yn ddelfrydol ar gyfer diwrnod hamddenol neu daith antur dros sawl diwrnod, mae tocynnau Rover a Ranger hyblyg yn gadael i chi neidio ar drenau ac oddi arnynt yn rhwydd wrth i chi archwilio trysorau cudd fel Bannau Brycheiniog a Mynyddoedd Cambria. Cynlluniwch eich antur a phrofwch swyn Cymru ar eich cyflymder eich hun.
Prisiau
| Oedolyn | Plentyn | Cerdyn Rheilffordd | |
| Day Ranger Cylch Calon Cymru | £53.00 | £26.50 | £35.25 |
Ble mae prynu tocyn Calon Cymru
Prynwch docyn Ranger Cylchol 1 Ddiwrnod ar gyfer Lein Calon Cymru o swyddfa docynnau eich gorsaf leol. Os nad oes cyfleusterau prynu tocynnau yn yr orsaf lle rydych yn cychwyn ar eich taith, gallwch brynu tocyn gan oruchwyliwr y trên ar wasanaethau TrC.
Map Lein Calon Cymru
Archwiliwch lwybr trawiadol lein Calon Cymru gyda'n map manwl, sy'n eich tywys trwy gymoedd ffrwythlon, trefi a bryniau tonnog. O Abertawe i'r Amwythig, mae'r llinell yn eich cysylltu â safleoedd eiconig fel Llanymddyfri, Llandrindod a Thref-y-clawdd. P'un a ydych chi'n cychwyn ar antur gerdded neu'n ymweld â thirnodau hanesyddol, gall y map eich helpu i gynllunio'ch taith berffaith - gan dynnu sylw at gyrchfannau allweddol ar hyd y ffordd.
Map Rheilfford Calon Cymru - Tocyn Ranger
Telerau ac amodau
- Mae tocyn Day Ranger Cylch Calon Cymru yn cynnig taith gylchol i’r naill gyfeiriad o amgylch y gylched rhwng Caerdydd Canolog - Craven Arms - Amwythig - Llandrindod - Llanelli - Abertawe - Caerdydd Canolog ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru.
- Gall y daith gychwyn mewn unrhyw orsaf ar y gylched benodedig. Yn ddilys dros 1 ddiwrnod.
- Yn ddilys ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru.
- Mae'r gostyngiad yn berthnasol i’r Cardiau Trên canlynol: Dau Berson (fesul Oedolyn), 16-25, 26-30, Pobl Hŷn, Pobl Anabl a Gyn-filwyr.
- Prynwch docyn Ranger cylchol 1 ddiwrnod ar gyfer Lein Calon Cymru o’r swyddfa docynnau yn eich gorsaf reilffordd leol.
- Os nad oes cyfleusterau prynu tocynnau yn yr orsaf lle rydych yn cychwyn ar eich taith, gallwch brynu tocyn gan oruchwyliwr y trên ar wasanaethau TrC.
- Gellir cael ad-daliad am docynnau heb eu defnyddio, ond rhaid talu ffi weinyddu.
- Pris yn ddilys hyd at 28 Chwefror 2027.
-
Oeddech chi’n gwybod?Mae gan Gymru lawer i’w gynnigDarganfod hyd a lled rhwydwaith Trafnidiaeth CymruArchwiliwch ein Rhwydwaith