O gestyll hanesyddol a mynyddoedd dramatig i draethau godidog a theithiau cerdded gwych, mae modd darganfod mwy o Gymru am lai gan ddefnyddio Pas De Cymru.

Mae ein Pas De Cymru yn ddilys i deithio o fewn ardal ddaearyddol ddynodedig. Gellir ei ddefnyddio ar ein trenau am hyd at bedwar diwrnod o fewn cyfnod o wyth diwrnod. Gellir ei ddefnyddio am wyth diwrnod cyfan ar fysiau.

Prynwch eich tocynnau yma

 

Prisiau

 OedolynPlentyn
Pas De Cymru£119£59.50

*Gallwch arbed mwy o arian gyda'r Cardiau Rheilffordd canlynol:

  • Cerdyn Rheilffordd 16-17 Saver
  • Cerdyn Rheilffordd 16-25
  • Cerdyn Rheilffordd 26-30
  • Cerdyn Rheilffordd Pobl Anabl
  • Cerdyn Rheilffordd Lluoedd EF
  • Cerdyn Rheilffordd Pobl Hŷn
  • Cerdyn Rheilffordd 18 Saver TrC
  • Cerdyn Rheilffordd Myfyrwyr TrC
  • Cerdyn Rheilffordd i Gyn-filwyr
  • Cerdyn Rheilffordd i Ddau Berson (Two Together) (ar hyn o bryd nid yw’r cerdyn hwn ar gael ar ein ap neu ar ein gwefan)

 

Ble i brynu Pas De Cymru

Gallwch brynu Pas De Cymru o'n ap, gwefan, unrhyw un o’r swyddfeydd tocynnau yn ein gorsafoedd neu ar y trên. Bydd angen i chi gael ein ap er mwyn i’ch tocyn weithio ar eich ffôn.

Gallwch hefyd brynu’r tocynnau o orsafoedd rheilffordd eraill yn y DU sydd â swyddfa docynnau, gan Asiantau Teithio wedi’u penodi gan National Rail.

 

Map

Crwydro De Cymru

 

Gweithgareddau

Os ydych yn mwynhau bwyd, crwydro, mwynhau rhuthr adrenalin, neu'n edrych am fan tawel i ymlacio.

Mae gan Groeso Cymru syniadau grêt ar gyfer eich taith.

 

Ein partneriaid bysiau

Bysiau Dyma restr o'r cwmnïau bysiau yng Nghymru a fydd yn derbyn ‘Pas De Cymru’:

Yn ddilys ar wasanaethau pob gweithredwr bysiau o fewn y rhanbarth.

 

Telerau ac amodau

  • Mwynhewch deithio diderfyn mewn ardal ddaearyddol ddynodedig ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru am bedwar diwrnod o fewn cyfnod o wyth diwrnod. Gellir defnyddio'r pas am wyth diwrnod cyfan ar fysiau.
  • Ar gyfer teithio rhwng Doc Penfro/Aberdaugleddau/Harbwr Abergwaun - Amwythig drwy Landrindod a Chasnewydd, ynghyd â Chasnewydd - Caerloyw a holl wasanaethau Caerdydd a’r Cymoedd gan gynnwys Maesteg, Llanilltud Fawr a Glynebwy.
  • Mwynhewch deithio diderfyn gydag thocyn Crwydro De Cymru mewn ardal ddaearyddol ddynodedig ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru am bedwar diwrnod o fewn cyfnod o wyth diwrnod. Gellir defnyddio'r pas am wyth diwrnod cyfan ar fysiau.
  • Yn ddilys ar gyfer teithio ar ôl 09:30 dydd Llun i ddydd Gwener, a drwy ddydd Sadwrn, dydd Sul a Gwyliau Banc.
  • Fodd bynnag, does dim cyfyngiad rhwng Amwythig ac Abertawe ar wasanaethau Calon Cymru neu i’r gorllewin o Gaerfyrddin.
  • Dim cyfyngiad ar fysiau.
  • Yn ddilys ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru, CrossCountry a Great Western Railway.
  • Prynwch docyn Crwydro De Cymru o swyddfa docynnau eich gorsaf leol.  
  • Os nad oes cyfleusterau prynu tocynnau yn yr orsaf lle rydych chi’n cychwyn eich taith, gallwch hefyd brynu tocyn Crwydro De Cymru gan Oruchwyliwr ar wasanaeth trên Trafnidiaeth Cymru.
  • Gellir cael ad-daliad am docynnau heb eu defnyddio, ond rhaid talu ffi weinyddu.