
Arbed amser ac arian i fyfyrwyr gyda'n tocynnau Tymor Addysg
Gwyddom fod llawer o blant a phobl ifanc yn dibynnu ar ein gwasanaethau rheilffordd i’w cael i’r ysgol neu’r coleg, yn ddiogel ac ar amser. Mae teithio ar y trên nid yn unig yn wyrddach ac yn well i'n hamgylchedd, gall ein tocyn tymor Addysg ei gwneud yn haws ac yn fwy fforddiadwy hefyd.
Yn ogystal ag arbed arian wrth deithio, un o fanteision mawr cael tocyn tymor yw na fydd angen i fyfyrwyr giwio i brynu eu tocyn bob bore, gan arbed amser iddynt a’u helpu i gyrraedd yr ysgol neu’r coleg yn brydlon.
Mae'r cynllun yn agored i ysgolion, colegau ac awdurdodau lleol ledled Cymru, gan ganiatáu iddynt brynu tocynnau tymor ar ran eu myfyrwyr.
Sut mae tocynnau tymor addysg yn gweithio?
- Arbedion o 75% ar gyfer pobl ifanc 11-17 oed (25% i rai 18 oed) ar docyn tymor blynyddol yn erbyn cost tocyn tymor i oedolion*
- Arbedion o 55% ar gyfer pobl ifanc 11-17 oed (5% i rai 18 oed) ar docyn tymor yn erbyn cost tocyn tymor i oedolion*
- Teithio anghyfyngedig i fyfyrwyr rhwng eu dwy orsaf ddewisol, unrhyw ddiwrnod o'r wythnos - gan gynnwys gweithgareddau ar ôl ysgol a phenwythnosau
- Cynigir tocynnau yn ystod y tymor, gan osgoi'r gost o dalu am deithio yn ystod y prif wyliau ysgol/coleg. Gellir eu darparu hefyd yn flynyddol os dymunir.
- Mae tocyn tymor yn cynnig teithio diderfyn rhwng y ddwy orsaf o'ch dewis.
- Maent yn ddilys ar gyfer teithio ar benwythnosau, gyda'r nos ac yn ystod gwyliau ysgol sydd o fewn cyfnod dilysrwydd y tocyn tymor.
- Os oes gennych docyn tymor, bydd angen i chi gario eich cerdyn adnabod â llun bob amser wrth deithio. Bydd yn cael ei ddosbarthu ynghyd â'ch tocyn tymor cyntaf. Cadwch ef yn ddiogel gan y bydd ei angen arnoch er mwyn i’ch tocyn tymor fod yn ddilys.
- Gellir cyfnewid tocynnau tymor a gollwyd am ffi safonol y diwydiant o £10, er mai dim ond un copi y flwyddyn a ganiateir. Os na fydd eich tocyn yn gweithio wrth y rhwystrau, gellir ei newid am ddim.
*Pan brynwyd gan y sefydliad Addysg trwy ein tîm Teithio Busnes
Sut alla i sefydlu cyfrif corfforaethol?
Er mwyn i’ch myfyrwyr elwa o’r cynnig gwych hwn, cysylltwch â business.travel@tfwrail.wales neu ffoniwch 02920 720 515. Byddwn yn hapus i helpu.