Mae ein bwydlenni tymhorol yn defnyddio'r cynhwysion lleol gorau.
Tarwch olwg ar beth allwch chi ei ddisgwyl pan fyddwch chi’n teithio gyda ni.

 

Brecwast

Ar gael tan 12.00

 

Y brecwast Cymreig llawn - £12.95
Wy, bacwn, pwdin gwaed, ffa pob, madarch, hash browns, tomato wedi’i grilio a bara bloomer wedi’i dostio. Cewch hefyd ddewis selsigen porc Cymreig neu selsigen Forgannwg. Rhowch wybod sut fyddech chi’n hoffi eich wy.
Yn cynnwys: glwten, llaeth, mwstard, SO2, wy. Gall gynnwys: soia.

 

Y brecwast fegan Cymreig llawn - £12.95
Selsig fegan wedi'u grilio, tameidiau o hash brown, ffa pob, madarch, bara bloomer wedi'i dostio a sbigoglys wedi gwywo a thomatos bach.
Yn cynnwys: glwten. Gall gynnwys: soia.

 

Rhôl frecwast - £6.45
Rhôl surdoes wedi'i llenwi â bacwn, selsig porc o Gymru, neu selsig fegan.
Yn cynnwys: glwten, SO2. Gall gynnwys: llaeth, mwstard, sesame, soia, wy.
Ychwanegwch eich ffefrynnau i’w wneud yn berffaith i chi.

 

Pot iogwrt aeron - £5.45
Iogwrt naturiol arddull Groegaidd Llaeth Y Llan, granola Crwst a’n compot aeron.
Yn cynnwys: chnau, glwten, llaeth.

 

Ar yr amod bod y cynnyrch ar gael. Roedd y prisiau'n gywir ar 1 Medi 2026 ac mae’n bosibl iddyn nhw newid. Taliadau electronig neu gerdyn yn unig.

Allwn ni ddim gwarantu bod ein bwyd heb unrhyw alergenau yn llwyr. Siaradwch ag aelod o staff i gael rhagor o wybodaeth.

 

Mynnwch olwg ar ein bwydlen frecwast fel PDF


 

Prydau drwy’r dydd

 

Brechdan gaws wedi'i grilio - £6.45
Caws Cheddar Aeddfed Dragon wedi’i doddi rhwng eich dewis o fara bloomer meddal gwyn neu wenith cyflawn.
Yn cynnwys: glwten, llaeth. Gall gynnwys: soia.

 

Brechdan Clwb - £9.99
Cyw iâr suddlon wedi’i ffrio mewn llaeth enwyn, cig moch brith Dewi Roberts o Landeilo, letys gem, tomatos ffres a mayonnaise, i gyd wedi'u gosod rhwng tair tafell o'ch dewis o fara bloomer gwyn neu frown wedi'i dostio. 
Yn cynnwys: glwten, llaeth, wy. Gall gynnwys: soia.

 

Rhôl fara boeth - £8.99
Cig eidion Cymreig wedi'i goginio mewn saws barbeciw Corea gyda cholslo wedi'i ysbrydoli gan flasau Asiaidd.
Yn cynnwys: glwten, soia. Gall gynnwys: llaeth, wy.

 

Brechdan gaws rarebit y Cymoedd - £10.45
Coesgyn cig moch wedi'i ferwi'n ffres, ein saws rarebit gyda mwstard Halen Môn a chennin menynaidd ar eich dewis o fara bloomer gwyn neu frown wedi'i dostio.
Yn cynnwys: glwten, llaeth, mwstard, wy. Gall gynnwys: seleri, soia.

 

Salad Cyw Iâr Caesar - £11.95
Letys cos gyda brest cyw iâr, cig moch brith, croutons a dresin Caesar.
Yn cynnwys: glwten, llaeth, wy. Gall gynnwys: soia.

 

Rhôl frecwast - £6.45
Rhôl surdoes wedi'i llenwi â bacwn, selsig porc o Gymru, neu selsig fegan.
Yn cynnwys: glwten, SO2. Gall gynnwys: llaeth, mwstard, sesame, soia, wy.
Awydd rhywbeth ychwanegol?
Dewiswch wy, selsig, bacwn, pwdin gwaed, caws neu sbigoglys wedi gwywo a thomatos bach am £1.25 ychwanegol

 

Ar yr amod bod y cynnyrch ar gael. Roedd y prisiau'n gywir ar 1 Medi 2026 ac mae’n bosibl iddyn nhw newid. Taliadau electronig neu gerdyn yn unig.

Allwn ni ddim gwarantu bod ein bwyd heb unrhyw alergenau yn llwyr. Siaradwch ag aelod o staff i gael rhagor o wybodaeth.

 

Bwriwch olwg ar ein bwydlen byrbrydau trwy'r dydd fel PDF