Dod â’r antur yn fyw

O’r cogyddion arbenigol sy’n creu ein bwydlenni, i’n gwesteiwyr cyfeillgar sy’n darparu gwasanaeth i’w gofio. Dyma rhoi o’r cogyddion fydd yn gwneud eich antur yn un gyffrous.

 

Bev Jones​

Mae seigiau arbennig Bev yn cynnwys prydau cwrs cyntaf ysgafnach a danteithfwyd i godi archwaeth. Mae hi wrth ei bodd yn creu prydau bwyd môr ac mae ei phasta bwyd môr mewn saws tomato a garlleg blasus, gyda crevettes ar ei ben, yn ffefryn mawr.

Roedd yn brif gogydd yng nghwmni arlwyo ysgolion Chartwells a Caterlink, yn ogystal â’r cogydd de partie yn Sea Shanty Café enwog ym Mae Trearddur. Mae Bev wedi paratoi arbenigeddau lleol a thymhorol arloesol ac wedi datblygu dewisiadau newydd blasus yn seiliedig ar adborth gan gwsmeriaid. Arweiniodd y gwaith o sicrhau ansawdd a chyflwyniad y bwyd a baratowyd gan ei thîm.

Tony Eveleigh

Mae Tony yn arbenigo mewn prydau pysgod ffres a chig sy’n tynnu dŵr o’ch dannedd, gyda sawsiau blasus. Ei bryd mwyaf poblogaidd yw ei rac o gig oen Cymreig â chrwst o berlysiau gyda thatws ffondant wedi’u rhostio, asbaragws mewn menyn a jus garlleg, rhosmari a chyrens coch.

Mae ei yrfa wedi golygu ei fod wedi coginio i lawer o wynebau enwog. Tra oedd yn gweithio yn The Beach House ym Marbella, bu Tony’n coginio ar gyfer y cogydd enwog Anthony Worall Thompson.  Roedd hefyd yn brif gogydd yn Le Monde yng Nghaerdydd, ac roedd timau rygbi Cymru, y Kiwis, Awstralia, yr Ariannin a De Affrica yn gwsmeriaid iddo.

Scott Manley​

Mae prydau arbennig Scott yn cynnwys bwyd môr clasurol. Mae ei leden chwithig a la meuniáre yn tynnu dŵr o’ch dannedd a’i bouillabaise hynod flasus yn boblogaidd iawn ymysg cwsmeriaid.

Roedd yn brif gogydd y gril yn La Fosse ym Mhenarth, gan weini cigoedd wedi’u serio’n berffaith i hyd at 200 o westeion ar y tro.  Mae hefyd wedi coginio ar y gril pysgod a chig prysur yn Le Monde. Mae Scott wedi coginio ar deithiau trenau pellter hir am 11 mlynedd ac mae bob amser wedi cymryd rhan flaenllaw yn y gwaith o gyflwyno dewisiadau newydd blasus i gwsmeriaid eu mwynhau, gan wneud eu teithiau ychydig yn fwy arbennig.

Rhys Griffiths

Bwyd poeth maethlon wrth fynd, gan gynnwys pasteiod a chawl blasus yw arbenigedd Rhys. Mae’n frwd dros fwyd Eidalaidd ac mae’n mwynhau rhoi ei stamp ei hun ar y pryd pasta clasurol hwnnw, Spaghetti Carbonara.

Gweithiodd Rhys ym mwyty gwesty Tŷ Mawr yn Llys-faen, gan greu bwydlenni arloesol yn defnyddio cynhwysion tymhorol ffres y gellid eu casglu o randir y gwesty. Roedd Rhys yn rheoli tîm o dros 50 o staff yn y gadwyn fwyd Asiaidd Wagamama ac mae hefyd wedi gweithio yn The Ivy, ffefryn bwyta moethus yng nghanol Caerdydd.

Paul King

Mae prydau arbennig Paul yn cynnwys cigoedd wedi’u grilio a’u coginio’n berffaith at ddant ei gwsmeriaid. Mae’n bobydd brwd, ac mae ei fara soda ffres ar ei orau yn syth o’r popty.

Treuliodd 22 mlynedd yn gweithio fel cogydd ar longau mordeithio, gan greu cyrsiau cyntaf danteithiol, prif gyrsiau amheuthun a phwdinau blasus i deithwyr a oedd yn mwynhau profiad trip unwaith mewn oes. Fe wnaeth hefyd fireinio ei sgiliau yng ngheginau prysur nifer o westai a thai bwyta, gan weithio mewn amrywiaeth o wahanol rolau.