Cydweithio â myfyrwyr arlwyo talentog i greu prydau arbennig
Rydyn ni wedi bod yn ailfeddwl y ffordd rydyn ni’n darparu’r gwasanaeth bwyd a diod ar ein trenau. Rydyn ni wedi trawsnewid ein bwydlenni i ddarparu bwyd blasus o safon uchel i chi a llawer o ddewis o fwydydd lleol. Rydyn ni eisiau eich hudo â blasau gwirioneddol gofiadwy y byddwch chi am eu profi dro ar ôl tro.
Yn ein cystadleuaeth ‘bwydlen benigamp’, bu’r myfyrwyr yn cydweithio â’n cogyddion i greu cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin newydd arloesol.
Yn ôl ym mis Mai, fe wnaethom wahodd myfyrwyr arlwyo o Goleg Caerdydd a’r Fro i’n helpu ni i ailfeddwl y prydau rydyn ni’n eu cynnig.
Ar gyfer y gystadleuaeth ymunodd pob un o’n cogyddion â myfyriwr. Roedden nhw’n gwisgo eu hetiau gwyn ac yn rhoi eu sgiliau ar waith i feddwl am brydau a fyddai’n dod i’r brig. Hon oedd ein ‘Great Welsh Menu’ ni.
Roedd digon o syniadau a oedd yn tynnu dŵr o’r dannedd, ac roedd yn benderfyniad anodd i’r beirniaid.
Rydyn ni’n falch o ddweud y cewch gyfle i fwynhau’r prydau a ddaeth i’r brig yn ein bwydlen Dosbarth Cyntaf.
I ddechrau, dywedwch helo wrth gregyn gleision Cymreig gyda bacwn, cennin a chocos wedi’u coginio mewn saws garlleg a hufen gwin gwyn. Ar gyfer y prif gwrs, cewch flasu cig oen Cymreig wedi’i serio a’i rostio mewn menyn garlleg rhosmari. Gorffennwch gyda sbwnj lemon a hadau pabi ysgafn gyda hufen ceuled lemon Chantilly.
P’un ai a ydych chi’n mynd i ffwrdd am y pythefnos, yn dathlu achlysur arbennig neu’n teithio’n bell i weithio, mae ein prydau arbennig yn barod i’w mwynhau. Byddwch yn profi blasau gwirioneddol gyffrous ac unigryw o Gymru, wedi’u creu gan ein cogyddion arbenigol a rhai o brif ddoniau’r byd arlwyo.