Pam ymuno â ni?

Rydym yn adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth aml ddull, integredig a fydd yn cael effaith hirdymor gadarnhaol ar ffyniant Cymru. Fel myfyriwr graddedig TrC, byddwch yn ymuno â thîm deinamig ac yn dechrau ar yrfa hynod gyffrous.

Byddwch yn dysgu sgiliau newydd, yn datblhgu eich arbenigedd ac yn ennill profiad gwerthfawr. Byddwch yn gweld effaith yr hyn rydych chi'n ei wneud bob dydd.

Byddwch yn cael yr offer sydd eu hangen arnoch i lwyddo, o fentora i gylchdroi rhwng gwahanol dimau, dysgu academaidd a chefnogaeth i ennill statws proffesiynol yn eich maes dewisol.

Byddwch yn ennill cyflog cychwynnol o £27,000, ac yn cael 28 diwrnod o wyliau y flwyddyn. Byddwch hefyd yn cael mynediad at becyn buddion gwych gan gynnwys aelodaeth igcampfa a gostyngiad mewn amrywiaeth o siopau.

Mae cael tîm amrywiol o bobl o bob rhan o gymdeithas yn ein helpu i wneud gwaith gwell. Mae angen pobl dalentog arnom, beth bynnag fo'u cefndir.

Ymunwch â ni yn ein cenhadaeth i newid y ffordd y mae'r genedl yn teithio.

Cliciwch yma i weld y pecyn buddiannau llawn.

 

Cwrdd â'n graddedigion

Callum

Rheoli Gweithrediadau

Un o'r prif bethau sy'n gwneud fy rôl mor bleserus yw diwylliant y busnes.

Mae pawb mor gyfeillgar ac yn barod i fynd y tu hwnt i roi cymorth ac arweiniad pan fydd ei angen arnaf. Nid wyf erioed wedi teimlo ar fy mhen fy hun wrth wneud tasg anodd. Mae fy nghydweithwyr yn fwy na pharod i rannu eu harbenigedd i'm helpu.

Mae'r cynllun i raddedigion wedi bod yn hynod werthfawr. Rwyf wedi dysgu cymaint am y diwydiant trafnidiaeth ac wedi cwrdd â chymaint o bobl ddiddorol. Rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfle.

Wrth edrych ymlaen, rwyf am symud ymlaen yn fy ngyrfa gyda TrC wrth i mi barhau i ehangu fy ngwybodaeth a'm sgiliau. Rwy'n edrych ymlaen at ycgam nesaf ar fy nhaith ac yn awyddus i weld beth fydd gan y dyfodol i'w gynnig i mi.

Ross

Busnes Cyffredinol

Rwyf wedi cyflawni cymaint - rwyf wedi dysgu sut i fod yn fwy hyblyg.

Rwyf wedi mwynhau fy amser yn fawr iawn ar y cynllun i raddedigion. Rwyf wedi ennill profiad rhagorol yn gweithio ar lu o brosiectau gwahanol wrth gwblhau sawl cymhwyster, gan gynnwys fy nhystysgrif ôl-raddedig mewn rheoli busnes a sawl cymhwyster rheoli prosiect.

Diolch i bawb sydd wedi fy nghefnogi ac wedi gwneud y brofiad yn un gwych. Mae hyn yn cynnwys fy nghyd-raddedigion, rheolwr llinell, mentor, rheolwyr profiad gwaith a'r cydweithwyr rwyf wedi gweithio'n agos âfhwy ar brosiectau allweddol.

Rwy'n edrych ymlaen at ddechrau fy swydd newydd oherwydd rwy'n teimlo fy mod wedi ennill dealltwriaeth fwy cyflawn o genhadaeth TrC nag y byddwn i wedi ei wneud petawn wedi gweithio i un tîm yn unig. Dyma un o'r rhesymau pam mae'r cynllun graddedigion wedi bod mor werthfawr.

Ifan

Rheoli Gweithrediadau

Rwyf wedi cael cefnogaeth gwych gan y tîm Talent Cynnar a'm rheolwyr.

Roedd cynllun graddedigion Rheoli Gweithrediadau Rheilffordd yn caniatáu i mi gylchdroi rhwng gwahanol dimau, o yrru a chynnal trenau i reoli fflyd a rheoli masnachol. Gweithiais hefyd gyda'n partneriaid cyflenwi yn Network Rail ac Amey.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, rwyf wedi bod yn rhan o brosiectau cyffrous, gan gynnwys cynllunio a helpu yn yr Eisteddfod ym Mhontypridd, rhoi trenau newydd sbon ar waith a dysgu sut rydym yn cadw rhwydwaith rheilffyrdd Cymru i redeg yn ddiogel o'r ganolfan reoli.

Wrth edrych i'r dyfodol, rwy'n awyddus i ddechrau fy rôl newydd fel rheolwr prosiect cynorthwyol yn y tîm gweithrediadau cwsmeriaid. Mae'r wybodaeth a'r profiad rydw i wedi'u hennill o'r cynllun graddedigion wedi rhoi sylfaen gadarn i mi i wneud hyn.

Jessica

Adnoddau Dynol

Fe wnaeth y cynllun i raddedigion fy helpu i feithrin perthnasoedd proffesiynol ar draws TrC.

Fe wnaeth y cyfle i gylchdroi rhwng gwahanol dimau fy ngalluogi i ddysgu ac ennill profiad yn y gwaith o wahanol agweddau ar Adnoddau Dynol a recriwtio. Gwnaeth y maint o gyfleoedd a gefais i gyfrannu at brosiectau allweddol greu cryn argraff arnaf - mae hyn yn gwneud y diwylliant yma mor gadarnhaol a chynhwysol.

Rwyf wedi mwynhau fy amser ar y cynllun graddedigion mas draw. Hyd yn oed yn ystod cyfnod heriol, rwyf wedi cael help ac anogaeth gan fy rheolwr, mentoriaid a chyfoedion. Rhoddodd hyn yr hyder i mi fod yn fwy dewr.

Rwy'n teimlo'n gadarnhaol am y dyfodol. Mae'r perthnasoedd proffesiynol rydw i wedi'u meithrin a'r sgiliau a'r wybodaeth rydw i wedi'u hennill wedi fy ngalluogi i sicrhau rôl barhaol. Mae hwn yn lwybr gyrfa y byddwn yn ei argymell i eraill.

Aaron

Peirianneg

Rhoddodd y cynllun graddedigion gyfle i mi fod yn rhan o'r diwydiant.

Rwyf wedi datblygu fy ngwybodaeth a'm sgiliau technegol, gan ddysgu yn y gwaith. Ar yr un pryd, rwyf wedi elwa o weithdai arweinyddiaeth rhagorol gyda fy nghyd-raddedigion.

Mae cwblhau fy nghymhwyster proffesiynol dewisol wedi rhoi llwyfan da i mi ar gyfer dyfodol gyda TrC a gweithio tuag at statws proffesiynol. Rwy'n edrych ymlaen at y bennod nesaf yn fy ngyrfa.

Jamal

Cyllid

Rwy'n berson gwahanol i'r un roeddwn i cyn i mi ymuno â'r cynllun graddedigion.

Mae fy amser ar y rhaglen wedi dod i ben. Mae'n ddiwedd taith wych a allai fod yn heriol ar brydiau ond a oedd yn werth chweil ac yn gadarnhaol ar yr un pryd.

Rhai o'r pethau buddiol i mi oedd y cyfleoedd i gwrdd ag ystod o bobl o wahanol dimau, gan ddysgu o'u harbenigedd a'u safbwyntiau. Ehangodd y cylchdroi rhwng timau fy ngwybodaeth am genhadaeth TrC ac fe wnaeth y gweithdai arweinyddiaeth fy natblygu i fel unigolyn, sydd yr un mor bwysig.

Mae'r cwrs hwn wedi fy helpu i ddatblygu fy llwybr gyrfa. Dyma'r prif beth roeddwn yn gobeithio y byddai y rhaglen raddedig yn ei roi i mi.

Amdanom ni

Cawsom ein sefydlu gan Lywodraeth Cymru i newid y ffordd y mae Cymru'n teithio.

Rydym yn adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth integredig amlddull sydd wedi'i gynllunio i'w gwneud yn haws i bobl deithio ar drên, bws, cerdded, olwyntio neu feicio.

Cliciwch ymai gael gwybod mwy am ein gwaith cyffrous.