Beth i’w ddisgwyl fel prentis

Byddwch chi’n ymuno â chymuned o brentisiaid sydd wedi hen ennill eu plwyf sy’n gweithio ar draws teulu TrC. Os byddwch chi’n dilyn prentisiaeth gyda ni, byddwch chi’n:

  • Cael tâl wrth ddysgu.
  • Ennill sgiliau gwerthfawr yn y gwaith a phrofiad gwaith, gan ddysgu gan ein harbenigwyr yn y diwydiant.
  • Astudio tuag at gymhwyster sy’n cael ei gydnabod yn genedlaethol mewn coleg, prifysgol neu drwy un o’n partneriaid cyflenwi prentisiaethau dibynadwy.
  • Bod yn rhan o raglen gydag amrywiaeth eang o adnoddau dysgu a datblygu i’ch helpu i dyfu, yn bersonol ac yn broffesiynol.
  • Cael cyfle i gymryd rhan mewn gweithgorau a fforymau ar draws TrC.
  • Cymryd rhan mewn gwaith allgymorth ac ymgysylltu â'r gymuned.