Beth yw’r meini prawf cymhwysedd?
Er mwyn eich helpu i benderfynu a yw prentisiaeth yn addas i chi, rydyn ni wedi amlinellu’r prif feini prawf cymhwysedd isod.
- Mae ein prentisiaethau ar agor i unrhyw un dros 16 oed ac nid oes terfyn oedran uchaf. Nodwch, os gwelwch yn dda, y bydd yr isafswm oedran yn uwch ar gyfer rolau sy’n hanfodol i ddiogelwch.
- Does dim modd i chi fod mewn addysg amser llawn yn barod ar ddyddiad dechrau’r brentisiaeth.
- Ni ddylech chi fod wedi ennill cymhwyster tebyg neu lefel uwch yn barod yn y rôl brentisiaeth rydych chi wedi gwneud cais amdani. Er enghraifft, os oes gennych chi radd mewn Peirianneg, fyddwch chi ddim yn gymwys i wneud cais am brentisiaeth Peirianneg. Fodd bynnag, gallech wneud cais am brentisiaeth arall mewn proffesiwn gwahanol, fel Cyllid.