Ein hymrwymiad i gyfle cyfartal

Rydyn ni’n creu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono.
I neud hyn, rydyn ni’n datblygu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu. 

Os byddwch chi’n dilyn prentisiaeth gyda ni, byddwn ni’n gweithio gyda chi i helpu i ddiwallu eich anghenion, er mwyn i chi allu manteisio i’r eithaf ar eich prentisiaeth. Byddwn ni’n darparu unrhyw addasiadau rhesymol neu gymorth sydd ei angen arnoch wrth i chi fynd drwy ein proses recriwtio.

Gellir astudio ein prentisiaethau yn Gymraeg neu yn Saesneg, neu’n ddwyieithog. Beth sy’n bwysig yw beth sy'n gweithio orau i chi.