Gwneud cais: Beth i’w ddisgwyl

Gwneud cais

Bydd angen i chi anfon eich ffurflen gais wedi’i llenwi atom ni ynghyd â chopi o’ch CV. Efallai y gofynnir i chi hefyd lenwi ffurflen datganiad personol yn gofyn cyfres o gwestiynau sy’n ymwneud â’r brentisiaeth. Cofiwch anfon hwn os gofynnir i chi wneud hynny.

Rhowch gymaint o fanylion ag y gallwch chi am bwy ydych chi, eich sgiliau a sut maen nhw’n berthnasol i’ch rôl. Cofiwch, dyma eich cyfle i sicrhau eich bod yn sefyll allan.

Diwrnodau asesu

Os bydd eich cais yn cyrraedd y rhestr fer, byddwn ni’n eich gwahodd i un o’n diwrnodau asesu. Bydd digon o gyfleoedd i ddangos eich personoliaeth a’ch sgiliau i ni, a dysgu mwy am TrC a’n prentisiaethau.

Yn ystod y dydd, efallai y gofynnir i chi gymryd rhan mewn gwahanol ymarferion grŵp ac unigol a fydd yn canolbwyntio ar feysydd fel eich gwaith tîm, datrys problemau a sgiliau rhyngbersonol. Byddwch chi hefyd yn gallu gweld rhai o’n cyfleusterau gwych ar y safle a chael blas ar y diwylliant a’r amgylchedd gwaith rydyn ni’n ei fwynhau.

Byddwch yn chi eich hun a gadewch i’ch personoliaeth ddisgleirio. Rydym yn gwerthfawrogi unigolrwydd, felly peidiwch â bod ofn ei ddangos. Dyma eich cyfle chi i gael cymaint o wybodaeth ag y gallwch chi i benderfynu a yw prentisiaeth yn addas i chi. Gwnewch eich gwaith ymchwil a byddwch yn barod i ofyn cwestiynau.

Cyfweliadau

Os byddwch chi’n llwyddiannus ar ôl y diwrnod asesu, byddwch chi’n cael eich gwahodd yn ôl am gyfweliad. Dyma fydd rhan olaf y broses recriwtio lle bydd cwestiynau’n cael eu gofyn i chi er mwyn archwilio eich sgiliau a’ch profiadau a sut maen nhw’n berthnasol i’r brentisiaeth rydych chi wedi’i dewis.

Meddyliwch am rai enghreifftiau o’ch profiad gwaith, astudiaethau academaidd neu brofiadau personol sy’n dangos y sgiliau allweddol sydd eu hangen ar gyfer eich prentisiaeth.

Gwneud penderfyniad

Byddwn ni’n cadw mewn cysylltiad â chi i wneud yn siŵr eich bod yn gwbl ymwybodol o bob cam o’r daith recriwtio. Os ydych chi wedi bod yn llwyddiannus, byddwn ni’n cysylltu â chi i gynnig lle i chi yn ein Academi Prentisiaeth.

Os bydd eich cais yn aflwyddiannus, byddwn ni’n siŵr o roi gwybod i chi cyn gynted â phosib a rhoi adborth ar eich cyfweliad. Efallai y byddwn ni hefyd yn manteisio ar y cyfle i drafod llwybrau a chyfleoedd eraill sydd ar gael a allai fod o ddiddordeb i chi.