Preifatrwydd

Submitted by Content Publisher on

Preifatrwydd

Mae’r Ganolfan Genedlaethol Ymchwil Gymdeithasol (NatCen) yn cynnal Arolwg Teithio Cenedlaethol Cymru ar ran Trafnidiaeth Cymru. Bydd yr arolwg yn casglu data ar agweddau ac ymddygiad teithio pobl sy’n byw yng Nghymru. Bydd y canlyniadau’n helpu Trafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru i ddatblygu polisïau a phenderfynu sut mae gwasanaethau’n cael eu darparu.

Mae cynllun peilot yr arolwg yn golygu gwahodd tua 7,500 o gyfranogwyr i brofi fersiwn ar-lein yr arolwg i wneud yn siŵr ei fod yn gweithio’n dda.

Trafnidiaeth Cymru yw’r rheolydd data ar gyfer yr ymchwil ac mae’n cael yr wybodaeth a gesglir gan NatCen. Bydd yr wybodaeth o gynllun peilot yr arolwg yn cael ei defnyddio i weld a yw prosesau’r arolwg yn gweithio fel rydym yn ei ddymuno, ac i wella sut mae’r arolwg yn cael ei gynnal yn y dyfodol. Bydd yr arolwg yn casglu data personol yn ogystal â data nad yw’n cael ei ystyried yn ddata personol o dan GDPR y DU.

Mae’r dewis i gymryd rhan yng nghynllun peilot yr arolwg yn gwbl wirfoddol. Fodd bynnag, mae eich barn a’ch profiadau yn bwysig. Bydd Trafnidiaeth Cymru yn defnyddio canlyniadau’r cynllun peilot i sicrhau bod yr arolwg yn gweithio’n iawn er mwyn gallu cymryd camau yn y dyfodol i wella gwasanaethau trafnidiaeth yng Nghymru.

Dyma fanylion cyswllt tîm Arolwg Teithio Cenedlaethol Cymru yn Trafnidiaeth Cymru:

Cyfeiriad e-bost: arolwgteithio@trc.cymru

Rhif ffôn: 03333 211 202

Dyma’r manylion cyswllt ar gyfer y gwaith ymchwil hwn yn NatCen:

Cyfeiriad e-bost: WNTS@natcen.ac.uk

Rhif ffôn: 08006 529 296

 

 

Pa ddata personol rydym yn ei gadw a ble rydym yn cael yr wybodaeth hon?

Diffinnir data personol o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU) fel ‘unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud ag unigolyn y gellir ei adnabod yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol wrth gyfeirio at ddynodwr’.

Caiff cyfeiriadau cyfranogwyr eu dewis ar hap o restr y Post Brenhinol sydd ar gael i’r cyhoedd o’r holl gyfeiriadau yng Nghymru, a bydd llythyr yn cael ei anfon at aelwydydd yn eich gwahodd i gymryd rhan.

Does dim rhaid i chi gymryd rhan yng nghynllun peilot yr arolwg, mae’n gwbl wirfoddol. Os nad ydych chi’n dymuno cymryd rhan na chael negeseuon atgoffa, atebwch y llythyr gwahoddiad a bydd eich manylion yn cael eu dileu.

Os byddwch yn cymryd rhan yn yr arolwg, byddwn yn casglu’r wybodaeth bersonol ganlynol at ddibenion dadansoddi: 

  • Oed
  • Anabledd
  • Ailbennu rhywedd
  • Priodas a phartneriaeth sifil
  • Beichiogrwydd a mamolaeth
  • Grŵp ethnig
  • Crefydd neu gred
  • Rhyw
  • Cyfeiriadedd rhywiol
  • Gallu yn y Gymraeg

Bydd y rhai sy’n ymateb i’r arolwg yn cael cynnig taleb i ddiolch iddynt am gymryd rhan yn yr arolwg. Os byddwch yn dewis i ni anfon y daleb i chi dros e-bost, bydd angen i ni gael eich cyfeiriad e-bost.

Fel rhan o’r arolwg peilot hwn, gofynnir i’r ymatebwyr a fyddent yn fodlon cymryd rhan mewn rhagor o waith ymchwil gan Trafnidiaeth Cymru. Bwriad unrhyw arolygon ailgysylltu fyddai ceisio deall eich profiad o gymryd rhan yn yr arolwg peilot neu welliannau posibl. Os byddwch yn cytuno i gymryd rhan mewn unrhyw ymchwil ailgysylltu, yna bydd NatCen yn cadw’r manylion cyswllt a roddwch am flwyddyn ar ôl i’r arolwg peilot ddod i ben.

Os byddwch yn gwneud ymholiad neu gŵyn ac yn rhoi data personol ac yn gofyn am ymateb, bydd yr ymchwilydd yn anfon y cais ymlaen at y swyddog perthnasol yn unig ac yna’n ei ddileu. Ni fydd unrhyw ymholiadau neu gwynion yn rhan o ddata peilot yr arolwg ar unrhyw adeg.

 

Beth yw’r sail gyfreithlon ar gyfer defnyddio eich gwybodaeth?

Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, ymarfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Trafnidiaeth Cymru. Mae rhywfaint o'r wybodaeth rydym yn ei chasglu ar gyfer yr arolwg yn 'ddata categori arbennig' (gwybodaeth am ethnigrwydd, crefydd, cyfeiriadedd rhywiol ac iechyd) a'r sail gyfreithlon ar gyfer prosesu'r wybodaeth hon yw ei bod at ddibenion ystadegol neu ymchwil.

Mae’r dewis i gymryd rhan yn gwbl wirfoddol. Fodd bynnag, mae profion fel hyn yn bwysig iawn gan eu bod yn ein galluogi i wneud yn siŵr bod yr arolwg yn gweithio'n dda ac i gynnal arbrofion a fydd yn gwella'r arolwg. Felly, os byddwch yn cymryd rhan, byddwch yn helpu i siapio sut mae’r arolwg yn cael ei gynnal am flynyddoedd i ddod ac yn gwneud yn siŵr bod y data a gesglir yn y dyfodol yn helpu i sicrhau bod penderfyniadau’n seiliedig ar dystiolaeth gadarn.

Efallai y bydd yr wybodaeth a gesglir yn cael ei defnyddio i ddeall:

  • sut gallwn ni helpu pobl i wneud dewisiadau teithio cynaliadwy, i gyfrannu at ein huchelgeisiau Sero Net;
  • pa gamau y gallwn eu cymryd i chwalu’r rhwystrau sy’n atal pobl rhag defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus neu deithio llesol i symud o gwmpas; a
  • sut brofiadau mae gwahanol bobl yng Nghymru yn eu cael o ran teithio a thrafnidiaeth.

 

 

Pa mor ddiogel yw eich data personol?

Mae gwybodaeth bersonol a roddir i NatCen bob amser yn cael ei storio ar weinydd diogel. Dim ond nifer cyfyngedig o ymchwilwyr sy'n gweithio ar y prosiect hwn all gael mynediad at y data. Dim ond at ddibenion ymchwil y bydd NatCen yn defnyddio'r data hwn.  Mae NatCen wedi’i hachredu fel canolfan sy’n bodloni safonau ISO27001 a Cyber Essentials Plus.

Mae NatCen yn defnyddio rhaglen meddalwedd arolwg o'r enw Blaise 5 i gasglu data, gan gynnwys ymatebion i arolygon a gwybodaeth gyswllt. Rydym wedi sicrhau bod Blaise 5 yn cydymffurfio â GDPR y DU ac yn bodloni ein disgwyliadau o ran diogelwch unrhyw ddata a gesglir drwy’r feddalwedd.

Mae gan NatCen weithdrefnau ar waith i ddelio ag unrhyw amheuaeth o dorri diogelwch data. Os bydd amheuaeth o dorri diogelwch sy’n effeithio ar eich gwybodaeth, bydd NatCen yn rhoi gwybod i Trafnidiaeth Cymru am hyn, a fydd yn rhoi gwybod i chi ac unrhyw reoleiddiwr perthnasol lle mae’n ofynnol yn gyfreithiol i ni wneud hynny.

Mae unrhyw ddata personol a roddir i Trafnidiaeth Cymru yn cael ei gadw ar weinyddion diogel. Mae cronfa ddata wedi cael ei chreu ar gyfer y prosiect hwn, a dim ond tîm ymchwil Arolwg Teithio Cenedlaethol Cymru sy’n gallu cael mynediad ati. Dim ond i wirio sut mae’r arolwg yn gweithio y bydd yr wybodaeth a gesglir yn cael ei defnyddio, nid i ddod i gasgliadau am bobl unigol.

Os bydd adroddiad ar ganlyniadau prawf yr arolwg, byddai hyn ar ffurf ddienw. Ni fyddai adroddiadau’n cynnwys unrhyw wybodaeth sy’n golygu bod modd adnabod unigolion. Byddai adroddiadau’n cael eu cyhoeddi yn https://trc.cymru/prosiectau/arolwg-teithio-cenedlaethol-cymru.

 

Am ba mor hir ydym ni’n cadw eich data personol?

Bydd NatCen yn cadw data personol yn ystod cyfnod y contract, a bydd yn dileu unrhyw ddata personol, gan gynnwys eich manylion cyswllt, cyn pen chwe mis i gwblhau’r set ddata. Bydd y gwaith cwblhau yn digwydd tua thri mis ar ôl diwedd cyfnod y gwaith maes. Mae cyfnod gwaith maes peilot yr arolwg yn para o fis Ebrill 2024 tan fis Mai 2024.

Bydd NatCen yn rhoi’r set ddata lawn i Trafnidiaeth Cymru heb gynnwys enwau, cyfeiriad post na chyfeiriad e-bost.

 

 

Hawliau unigolion

O dan GDPR y DU, mae gennych chi’r hawliau canlynol mewn perthynas â’r wybodaeth bersonol rydych chi’n ei rhoi fel rhan o’r arolwg hwn:

  • Cael gafael ar gopi o’ch data eich hun; 
  • I ni gywiro unrhyw beth sy’n anghywir yn y data hwnnw;
  • Gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu (mewn rhai amgylchiadau);
  • I’ch data gael ei ‘ddileu’ (mewn rhai amgylchiadau);
  • Cyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar ddiogelu data.

Manylion Cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yw:

Wycliffe House,
Water Lane,
Wilmslow,
Cheshire,
SK9 5AF

Ffôn: 03031 231 113

Gwefan: www.ico.org.uk

 

Rhagor o wybodaeth

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau pellach am sut bydd Trafnidiaeth Cymru yn defnyddio’r data a roddir fel rhan o’r astudiaeth hon, neu os ydych chi’n dymuno arfer eich hawliau gan ddefnyddio Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data, cysylltwch â’r canlynol:

Tîm yr Arolwg Teithio Cenedlaethol yn Trafnidiaeth Cymru:

Cyfeiriad e-bost: arolwgteithio@trc.cymru

Rhif ffôn: 03333 211 202

Gellir cysylltu â Swyddog Diogelu Data Trafnidiaeth Cymru yn:

Transport for Wales, 
3 Llys Cadwyn, 
Pontypridd, 
Rhondda Cynon Taf, 
CF37 4TH

E-bost: dataprotection@tfw.wales.