Ewch i'r tabl cynnwys

Hysbysiad Preifatrwydd - Arolwg Teithio Cenedlaethol Cymru

Submitted by Content Publisher on

Preifatrwydd

Mae’r Ganolfan Genedlaethol Ymchwil Gymdeithasol (NatCen) yn cynnal Arolwg Teithio Cenedlaethol Cymru ar ran Trafnidiaeth Cymru. Bydd yr arolwg yn casglu data ar agweddau ac ymddygiad teithio pobl sy’n byw yng Nghymru. Bydd y canlyniadau’n helpu Trafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru i ddatblygu polisïau a phenderfynu sut mae gwasanaethau’n cael eu darparu.

Bob blwyddyn, bydd yr arolwg yn gwahodd tua 15,000 o aelwydydd ar hap ledled Cymru i gymryd rhan ar-lein, dros y ffôn neu drwy gyfweliad wyneb yn wyneb yn eu cartref. Rydyn ni’n rhagweld y bydd tua 5,000 o oedolion 16+ yn cymryd rhan yn yr arolwg bob blwyddyn.

Trafnidiaeth Cymru yw’r rheolydd data ar gyfer yr ymchwil ac mae’n cael yr wybodaeth a gesglir gan NatCen. Mae’r wybodaeth yn cael ei defnyddio at ddibenion ymchwil ac ystadegol yn unig, er mwyn cynhyrchu bwletinau ystadegol ac adroddiadau ymchwil. Mae’r bwletinau a’r adroddiadau am boblogaeth Cymru yn gyffredinol, nid am unigolion. Bydd yr arolwg yn casglu data personol yn ogystal â data nad yw’n cael ei ystyried yn ddata personol o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU).

Bydd cyhoeddiadau arolwg ac adroddiadau ystadegol yn cael eu cynhyrchu ar ffurf ddienw. Ni fydd yr adroddiadau’n cynnwys unrhyw wybodaeth sy’n golygu bod modd adnabod unigolion. Bydd yr adroddiadau’n cael eu cyhoeddi yn https://trc.cymru/prosiectau/arolwg-teithio-cenedlaethol-cymru.

Mae cymryd rhan yn yr arolwg yn gwbl wirfoddol. Fodd bynnag, mae eich barn a’ch profiadau yn bwysig. Bydd Trafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru yn defnyddio canlyniadau’r ymchwil hwn i wella gwasanaethau trafnidiaeth yng Nghymru.

Dyma fanylion cyswllt tîm Arolwg Teithio Cenedlaethol Cymru yn Trafnidiaeth Cymru:

Cyfeiriad e-bost: arolwgteithio@trc.cymru
Rhif ffôn: 03333 211 202

Dyma’r manylion cyswllt ar gyfer y gwaith ymchwil hwn yn NatCen:

Cyfeiriad e-bost: WNTS@natcen.ac.uk
Rhif ffôn: 0800 652 9296

 

Pa ddata personol rydym yn ei gadw a ble rydym yn cael yr wybodaeth hon?

Diffinnir data personol o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU) fel ‘unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud ag unigolyn y gellir ei adnabod yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol wrth gyfeirio at ddynodwr’.

Mae cyfeiriadau cyfranogwyr yn cael eu dewis ar hap o Ffeil Cyfeiriadau Cod Post y Post Brenhinol, rhestr sydd ar gael i’r cyhoedd o’r holl gyfeiriadau yng Nghymru. Bydd gwahoddiad yn cael ei anfon at bob aelwyd a fydd yn cael ei ddewis.

Os na fyddwch yn llenwi’r arolwg ar-lein, byddwch yn cael eich gwahodd i gymryd rhan dros y ffôn. Os byddwch chi eisiau cymryd rhan yn yr arolwg dros y ffôn, bydd angen i chi roi eich rhif ffôn a’ch enw cyntaf neu eich blaenlythrennau i NatCen. Mae’n bosibl i chi roi eich enw llawn a’ch cyfeiriad e-bost iddyn nhw ar y cam hwn os ydych chi eisiau.

Does dim rhaid i chi gymryd rhan yn yr arolwg, mae’n gwbl wirfoddol. Os nad ydych chi eisiau cymryd rhan na chael negeseuon atgoffa, atebwch drwy ddefnyddio’r manylion cyswllt ar y gwahoddiad a bydd eich manylion yn cael eu dileu.

Os byddwch yn cymryd rhan yn yr arolwg, byddwn yn casglu’r wybodaeth bersonol ganlynol at ddibenion dadansoddi: 

  • Cyfeiriad cartref
  • Oed
  • Anabledd
  • Ailbennu rhywedd
  • Priodas a phartneriaeth sifil
  • Beichiogrwydd a mamolaeth
  • Grŵp ethnig
  • Crefydd neu gred
  • Rhyw
  • Cyfeiriadedd rhywiol
  • Gallu yn y Gymraeg

Mae’r arolwg hefyd yn cynnwys dyddiadur teithio lle byddwn yn gofyn i chi gofnodi teithiau penodol rydych chi wedi’u gwneud yn ystod y cyfnod blaenorol o 48 awr.

Mae’r wybodaeth hon yn cael ei chasglu drwy ddefnyddio map Arolwg Ordnans ac mae’n cynnwys lleoliad cychwyn a gorffen pob taith. Bydd TrC yn cael manylion lleoliad pob taith, gan gynnwys codau post a/neu gyfesurynnau daearyddol.

Dim ond at ddibenion ymchwil a dadansoddi byddwn yn defnyddio’r wybodaeth hon ac ni fyddwn yn cyhoeddi gwybodaeth am deithiau unigol nac yn cysylltu unrhyw deithiau ag unigolion.

Bydd y rhai sy’n ymateb i’r arolwg yn cael cynnig taleb £10 Love2Shop i ddiolch iddynt am gymryd rhan yn yr arolwg. Os byddwch yn dewis i ni anfon y daleb i chi dros e-bost, bydd angen i ni gael eich cyfeiriad e-bost.

Fel rhan o’r arolwg hwn, gofynnir i’r ymatebwyr a fyddent yn fodlon cymryd rhan mewn rhagor o waith ymchwil a gynhelir gan Trafnidiaeth Cymru neu Llywodraeth Cymru. Os byddwch yn cytuno i gymryd rhan mewn unrhyw ymchwil yn y dyfodol, yna bydd NatCen yn cadw eich manylion cyswllt am flwyddyn ar ôl i’r arolwg ddod i ben.

Os byddwch yn codi ymholiad neu gŵyn drwy NatCen ac yn rhoi data personol wrth ofyn am ymateb, bydd yr ymchwilydd yn anfon y cais ymlaen at swyddog cwynion NatCen a bydd y data a brosesir yn cael ei ddileu o fewn blwyddyn i ddatrys eich cwyn. Ni fydd unrhyw ymholiadau neu gwynion yn rhan o ddata’r arolwg ar unrhyw adeg.

Os byddwch yn cwyno’n uniongyrchol wrth Trafnidiaeth Cymru, bydd unrhyw wybodaeth bersonol byddwch chi’n ei rhoi yng nghyswllt y gŵyn yn cael ei thrin fel y disgrifir ym mholisi preifatrwydd Trafnidiaeth Cymru.

Bydd eich atebion i’r arolwg yn cael eu cysylltu’n ddienw â ffynonellau data eraill fel rhan o’r gronfa ddata Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL) at ddibenion ymchwil anfasnachol (oni bai eich bod yn gofyn i'r cysylltiad beidio â chael ei wneud).

Mae Cronfa Ddata SAIL yn gasgliad o ddata dienw am boblogaeth Cymru, sy’n cael ei chydnabod yn rhyngwladol am storio a defnyddio data dienw am unigolion yn ddiogel ar gyfer ymchwil i wella iechyd, llesiant a gwasanaethau.

Er mwyn cysylltu eich data â Chronfa Ddata SAIL, bydd yr wybodaeth bersonol ganlynol yn cael ei chasglu a’i defnyddio i gysylltu eich ymatebion Arolwg Teithio Cenedlaethol â data arall yng Nghronfa Ddata SAIL.

  • Enw llawn
  • Eich Dyddiad Geni
  • Rhyw
  • Cod post

Ni fydd Trafnidiaeth Cymru yn cael eich enw na’ch dyddiad geni.

Mae ymatebwyr yn gallu dewis peidio â chael eu hatebion wedi’u cysylltu wrth lenwi’r arolwg. I gael rhagor o wybodaeth am y broses o gysylltu data, ewch i Rhagor o wybodaeth am yr Arolwg Teithio Cenedlaethol Cymru.

Gall data arolwg dienw hefyd fod ar gael drwy Wasanaeth Data'r DU ar gyfer prosiectau ymchwil a wneir gan ymchwilwyr achrededig fel academyddion ac ymchwilwyr y GIG. Mae data dienw’r arolwg yn cael ei gadw’n ddiogel a dim ond at ddibenion ymchwil anfasnachol y caiff ei ddefnyddio. Ni fyddwn yn rhannu nac yn defnyddio eich gwybodaeth at ddibenion masnachol na marchnata.

Gellir rhannu data arolwg dienw ag Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd ar gyfer prosiectau ymchwil anfasnachol. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cadw’r data’n ddiogel ac nid yw’n rhannu nac yn defnyddio eich gwybodaeth at ddibenion eraill.

Ni fydd manylion codau post a/neu gyfesurynnau daearyddol lleoliadau cychwyn a gorffen unrhyw deithiau a gofnodir yn adran dyddiadur teithio’r arolwg yn cael eu rhannu ag unrhyw drydydd partïon.

 

Beth yw’r sail gyfreithlon ar gyfer defnyddio eich gwybodaeth?

Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, ymarfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Trafnidiaeth Cymru. Mae rhywfaint o'r wybodaeth rydym yn ei chasglu ar gyfer yr arolwg yn 'ddata categori arbennig' (gwybodaeth am ethnigrwydd, crefydd, cyfeiriadedd rhywiol ac iechyd) a'r sail gyfreithlon ar gyfer prosesu'r wybodaeth hon yw ei bod at ddibenion ystadegol neu ymchwil.

Er ein bod yn casglu eich gwybodaeth fel rhan o dasg gyhoeddus, nid oes rhaid i chi gymryd rhan a darparu’r wybodaeth hon.

Bydd yr wybodaeth a gesglir yn cael ei defnyddio i’n helpu ni i ddeall:

  • Sut gallwn ni helpu pobl i wneud dewisiadau teithio cynaliadwy, i gyfrannu at ein huchelgeisiau a’n targedau Sero Net; 
  • Pa gamau y gallwn eu cymryd i chwalu’r rhwystrau sy’n atal gwahanol grwpiau o bobl rhag defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus neu deithio llesol i symud o gwmpas;
  • Sut brofiadau mae gwahanol bobl yng Nghymru yn eu cael o ran teithio a thrafnidiaeth; a
  • Y pellter cyfartalog a deithir drwy ddefnyddio dulliau trafnidiaeth gwahanol

 

Pa mor ddiogel yw eich data personol?

Mae gwybodaeth bersonol a roddir i NatCen bob amser yn cael ei storio ar weinydd diogel. Dim ond nifer cyfyngedig o ymchwilwyr sy'n gweithio ar y prosiect hwn all gael mynediad at y data. Dim ond at ddibenion ymchwil y bydd NatCen yn defnyddio'r data hwn. Mae NatCen wedi’i hachredu fel canolfan sy’n bodloni safonau ISO27001 a Cyber Essentials Plus.

Mae NatCen yn defnyddio rhaglen meddalwedd arolwg o'r enw Blaise 5 i gasglu data, gan gynnwys ymatebion i arolygon a gwybodaeth gyswllt. Rydym wedi sicrhau bod Blaise 5 yn cydymffurfio â GDPR y DU ac yn bodloni ein disgwyliadau o ran diogelwch unrhyw ddata a gesglir drwy’r feddalwedd.

Mae gan NatCen weithdrefnau ar waith i ddelio ag unrhyw amheuaeth o dorri diogelwch data. Os bydd amheuaeth o dorri diogelwch sy’n effeithio ar eich gwybodaeth, bydd NatCen yn rhoi gwybod i Trafnidiaeth Cymru am hyn, a fydd yn rhoi gwybod i chi ac unrhyw reoleiddiwr perthnasol lle mae’n ofynnol yn gyfreithiol i ni wneud hynny.

Mae unrhyw ddata personol a roddir i Trafnidiaeth Cymru yn cael ei gadw ar weinyddion diogel. Mae cronfa ddata wedi cael ei chreu ar gyfer y prosiect hwn, a dim ond tîm ymchwil Arolwg Teithio Cenedlaethol Cymru sy’n gallu cael mynediad ati. Dim ond i wirio sut mae’r arolwg yn gweithio y bydd yr wybodaeth a gesglir yn cael ei defnyddio, nid i ddod i gasgliadau am bobl unigol.

Mae data arolwg dienw ar gael i ymchwilwyr drwy Wasanaeth Data'r DU. Gall ymchwilwyr sy’n cael eu cydnabod yn swyddogol, fel academyddion ac ymchwilwyr y GIG, a chyrff eraill yn y sector cyhoeddus yng Nghymru hefyd ofyn am fynediad at ddata nad yw ar gael drwy Wasanaeth Data’r DU. Mae’r Prif Swyddog Cynllunio a Datblygu Trafnidiaeth yn Trafnidiaeth Cymru yn craffu ar y ceisiadau hyn ac - os cânt eu cymeradwyo - maent yn cael eu llywodraethu gan Gytundebau Mynediad Data a gyhoeddir gan Trafnidiaeth Cymru. Mae’r cytundebau ffurfiol hyn yn nodi gofynion llym ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel.

 

Am ba mor hir ydym ni’n cadw eich data personol?

Bydd NatCen yn cadw data personol yn ystod cyfnod y contract, a bydd yn dileu unrhyw ddata personol, gan gynnwys eich manylion cyswllt, yn unol â’r amserlen ganlynol:

  • Bydd data personol sy’n cael ei storio yn system Blaise 5 yn cael ei ddileu o fewn mis i drosglwyddo’r data i Trafnidiaeth Cymru. 
  • Bydd gwybodaeth bersonol sy’n ymwneud â chŵyn i NatCen yn cael ei dileu o fewn blwyddyn i ddatrys y gŵyn.
  • Bydd unrhyw ddata sy’n weddill yn cael ei gadw gan NatCen am hyd at dair blynedd ar ôl i flwyddyn yr arolwg ddod i ben.
  • Bydd Trafnidiaeth Cymru yn cadw data personol am hyd at bum mlynedd ar ôl i flwyddyn yr arolwg ddod i ben.

Mae prif gyfnod gwaith maes yr arolwg yn rhedeg o fis Ebrill bob blwyddyn i’r mis Mawrth canlynol. Mae’r set ddata yn cael ei chymeradwyo o fewn chwe mis i ddiwedd cyfnod y gwaith maes, gyda data’n cael ei ddarparu i Trafnidiaeth Cymru.

Bydd NatCen yn darparu’r set ddata lawn i Trafnidiaeth Cymru, gan gynnwys y data a restrir uchod, yn ogystal â gwybodaeth gyswllt ar gyfer yr ymatebwyr hynny sydd wedi cytuno i rywun gysylltu â nhw eto.

  • Os ydych chi wedi cytuno i ni gysylltu â chi eto, bydd Trafnidiaeth Cymru yn dileu eich enw, eich rhif ffôn, eich cyfeiriad post, eich cyfeiriad e-bost a’ch dyddiad geni o’r rhestr ail-gysylltu ar wahân o fewn tair blynedd i gymeradwyo’r set ddata.

Bydd gwybodaeth bersonol sy’n ymwneud â chŵyn i Trafnidiaeth Cymru yn cael ei thrin fel y disgrifir ym mholisi preifatrwydd Trafnidiaeth Cymru.

Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru, sy’n darparu gwasanaeth cyswllt diogel wedi’i achredu o dan ISO27001, hefyd yn gallu cael gafael ar rywfaint o’r data personol, gan gynnwys enw, dyddiad geni, rhyw a chod post am gyfnod o dri mis, dim ond er mwyn gallu cysylltu data â’r gronfa ddata Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL) ym Mhrifysgol Abertawe.

 

Hawliau unigolion

O dan GDPR y DU, mae gennych chi’r hawliau canlynol mewn perthynas â’r wybodaeth bersonol rydych chi’n ei rhoi fel rhan o’r arolwg hwn:

  • Cael gafael ar gopi o’ch data eich hun; 
  • I ni gywiro unrhyw beth sy’n anghywir yn y data hwnnw;
  • Gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu (mewn rhai amgylchiadau);
  • I’ch data gael ei ‘ddileu’ (mewn rhai amgylchiadau); a
  • Cyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sef y rheoleiddiwr annibynnol ar ddiogelu data.

Manylion Cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yw:

Wycliffe House,
Water Lane,
Wilmslow,
Swydd Gaer,
SK9 5AF

Ffôn: 03031 231 113
Gwefan: ico.org.uk

 

Rhagor o wybodaeth

Os oes gennych chi rhagor o gwestiynau am sut bydd Trafnidiaeth Cymru yn defnyddio’r data a roddir fel rhan o’r astudiaeth hon, neu os ydych chi’n dymuno arfer eich hawliau gan ddefnyddio Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data, cysylltwch â’r canlynol:

Tîm yr Arolwg Teithio Cenedlaethol yn Trafnidiaeth Cymru:

Cyfeiriad e-bost: arolwgteithio@trc.cymru
Rhif ffôn: 03333 211 202

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am gael gafael ar eich gwybodaeth bersonol neu ddefnyddio eich “hawl i gael eich anghofio”, gallwch gysylltu â Swyddog Diogelu Data Trafnidiaeth Cymru yn:

Trafnidiaeth Cymru, 
3 Llys Cadwyn, 
Pontypridd, 
Rhondda Cynon Taf, 
CF37 4TH

E-bost: dataprotection@tfw.wales.