TfW train passing in front of Conwy Castle

Peidiwch â gadael i'r car lywio eich diwrnod

Anaml y mae tref mor fach yn cynnig cymaint o bethau i'w gwneud. Mae llawer mwy na chastell hynafol yma, ceir golygfeydd trawiadol, y tŷ lleiaf ym Mhrydain, Gerddi Bodnant a Mynydd Conwy i enwi ond rhai.

 

Pethau i’w gweld

Castell Conwy - Mae caer ganoloesol odidog yn dal i edrych i lawr dros y dref ar ôl 700 mlynedd. Diolch i’r gwaith a wnaed i adfer y grisiau troellog yn ei dyrau mawr gallwch gerdded yr holl ffordd o amgylch bylchfuriau Castell Conwy. Dyma un o'r caerau canoloesol mwyaf arbennig yn Ewrop.

Plas Mawr - Plas Mawr, neu'r Neuadd Fawr, yw'r tŷ tref Elisabethaidd gorau sydd wedi goroesi yn unrhyw le ym Mhrydain.

Gardd Bodnant - Mae Gardd Bodnant yn un o'r gerddi harddaf yn y DU ac mae’n ymestyn dros tua 80 erw. Mae wedi'i lleoli uwchben Afon Conwy ar dir sy’n disgyn yn raddol tua'r gorllewin ac mae’n edrych ar draws y dyffryn tuag at Eryri.

Am fwy o ysbrydoliaeth ewch i ganllaw Croeso Cymru > Pethau i’w Gwneud yng Nghonwy.

 

Wyddoch chi?

Gallwch gael tocyn mynediad 2 am bris 1 i safleoedd Cadw gyda'ch tocyn trên, darganfod mwy.

 

Penwythnos yng Nghonwy

Y Tŷ Lleiaf ym Mhrydain - Mae’r tŷ bach coch hwn, sy’n cael ei adnabod fel Tŷ’r Cei, yn cynnwys un ystafell fyw ac un llofft. Mae’n 3.05m x 1.83m (10 x 6 troedfedd) a Robert Jones oedd yr olaf i fyw ynddo, a oedd yn 1.905m (6 troedfedd 3 modfedd) o daldra. Gwasgwch i mewn i weld sut brofiad fyddai byw yn nhŷ lleiaf Prydain.

Gwarchodfa Natur yr RSPB Conwy - Mae gwarchodfa natur yr RSPB Conwy yn wlyptir ar lan ddwyreiniol aber afon Conwy, sy'n gartref i amrywiaeth o fywyd gwyllt, ac yn lle gwych i gyflwyno teuluoedd i fyd natur.