Teithio ar drên i Wrecsam
Neidiwch ar y trên i Wrecsam a darganfod beth sydd gan ein dinas i'w gynnig.
Mae yno siopau traddodiadol, marchnadoedd dan do hanesyddol, tirnodau nodedig a diwylliant cyfoethog. Mae’n gartref i glwb pêl-droed hynaf Cymru ac eglwys ogoneddus San Silyn, gyda’i chysylltiadau â Phrifysgol Iâl. Yn fwy na dim, fe gewch groeso cynnes Cymreig.
Mae gan Wrecsam ddaearyddiaeth amrywiol. Os gallwch chi aros am rai dyddiau, fe welwch fod y canolbwynt trefol yn eistedd yn gyffyrddus ger golygfeydd godidog a chefn gwlad hudolus. Mae rhan o Wrecsam yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ddynodedig – dewch draw i ymweld – cewch fodd i fyw.
Pethau i’w gweld:
Canolfan gelf Wrecsam, oriel, marchnad dan do, cwrt bwyd - mae'n fwrlwm o weithgareddau ac yn lle y mae'n rhaid i chi ymweld ag ef.
Yn fuan bydd yn gartref i Amgueddfa Bêl-droed Cymru, mae Amgueddfa Wrecsam yn adrodd hanes treftadaeth ddiwydiannol Wrecsam a’i chymunedau – o’r cyn-hanes hyd heddiw.
Clwb Pêl-droed Wrecsam, y Cae Ras
Mae yna dipyn o wefr Hollywood yn bodoli yma ar hyn o bryd – os ydych chi'n teithio i weld y pêl-droed, mae’r orsaf drenau nepell o’r Cae Ras.
Gorffwysfa Elihu Yale, un o sylfaenwyr Prifysgol Iâl. Ymlwybrwch trwy'r ddinas o'r orsaf drenau ac fe welwch yr adeilad anhygoel hwn. Mae croeso cynnes yn aros amdanoch.
Canolfan ddarganfod gwyddoniaeth Wrecsam, yn wir canolfan Gogledd Cymru. Yn frith o arddangosfeydd rhyngweithiol, arddangosiadau hwyliog a phrofiadau anhygoel - mae'n berffaith ar gyfer diwrnod o hamddena i'r teulu.
Siopau, sinema, bowlio a bwyd – canolbwynt adloniant, dim ond 10 munud ar droed o’r orsaf drenau.
Traphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte Safle Treftadaeth y Byd
Fe welwch fod yr orsaf fysiau dim ond taith gerdded fer o'r orsaf drenau, lle gallwch ddal bws i deithio ychydig filltiroedd y tu allan i ganol y ddinas i ddod o hyd i'n Safle Treftadaeth y Byd anhygoel. Wedi’i chwblhau ym 1805, mae Traphont Ddŵr Pontcysyllte, a ddyluniwyd gan Thomas Telford a William Jessop, yn olygfa gwerth ei gweld. Ynghyd â Thraphont Ddŵr y Waun, mae’n rhan o 11 milltir o olygfeydd syfrdanol o’r gamlas. Cerddwch drosti neu ewch ar gwch - fe welwch pam y'i gelwir yn 'nant yn yr awyr'.
2 safle Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Mae'r ddau safle - Neuadd Erddig a Chastell y Waun yn deithiau bws byr o ganol dinas Wrecsam. Yno, mae golygfeydd godidog, hanes, teithiau cerdded a hwyl i'r teulu cyfan. Mae Erddig yn daith bws fer i ffwrdd. Os ydych chi'n ymweld a'r castell, mae trenau rheolaidd i'r Waun.
-
Teithiau diwrnod anhygoel o Gaerdydd na fyddwch chi eisiau eu colli Dewch i ddarganfod Incredible day trips from Cardiff you won't want to miss
-
Y deg atyniad gorau yn Abertawe Dewch i ddarganfod Top ten attractions in Swansea
-
Pethau hwyliog i'w gwneud yng Nghasnewydd y penwythnos yma Dewch i ddarganfod Fun things to do in Newport this weekend
-