
Yn haws byth ar y trên o Lerpwl bellach
Mae gogledd Cymru yn llawn llefydd i'w harchwilio, o drefi glan môr clasur i ddinasoedd hanesyddol a llwybrau cerdded arfordirol. O 17 Mai 2026, mae cyrraedd yma yn symlach ac yn fwy hyblyg nag erioed diolch i newidiadau mawr i'r amserlenni.
Gyda mwy o drenau rheolaidd rhwng Arfordir Gogledd Cymru a Lerpwl, mae tripiau diwrnod, penwythnosau i ffwrdd a chynlluniau munud olaf llawer yn haws i'w gwneud. P’un a ydych yn mynd i'r gorllewin am wyliau bach ar lan y môr neu’n mynd i'r dwyrain am ychydig o siopa, diwylliant neu bêl droed, mae’r cysylltiad rheilffyrdd bellach yn ffitio’n well i'ch anghenion chi.
Newid mawr i Linell Arfordir y Gogledd
Rydyn ni’n cyflwyno un o’r newidiadau amserlen mwyaf sylweddol mewn cenhedlaeth ar Linell Arfordir y Gogledd.
- Oddeutu 50% mwy o wasanaethau trên
- Amserlenni symlach, mwy rheolaidd
- Cysylltiadau gwell rhwng gogledd Cymru, Caer a Lerpwl
Mae’r newidiadau hyn yn rhan o Rwydwaith Gogledd Cymru, sy’n rhaglen hirdymor i greu rhwydwaith trafnidiaeth mwy cysylltiedig a rheolaidd ar draws y rhanbarth. Ffocws allweddol y rhaglen yw hwyluso’r gallu i deithio ar draws y gororau, fel bod cymunedau, arfordiroedd a dinasoedd wedi’u cysylltu’n well nag erioed.
I gwsmeriaid, mae hynny’n golygu llai o aros, cynllunio haws, a mwy o ddewis ynghylch pryd i deithio.
Un daith arfordirol barhaol
Mae uwchraddio’r amserlen yn cryfhau cysylltiadau rhwng Arfordir y Gogledd a Lerpwl drwy Gaer, sy’n hwyluso’r teithiau hyn:
- Gwyliau ar lan y môr
- Tripiau siopa yn y ddinas
- Gwyliau gwledig
- Digwyddiadau, diwylliant a chwaraeon byw
- Gwaith, astudio a theithio beunyddiol
Gallwch bellach gynllunio gwyliau hamddenol ar lan y môr neu ddiwrnod allan yn y ddinas gan wybod bod yna fwy o drenau’n rhedeg yn gyson drwy gydol y dydd.
Mannau gwych i ymweld â nhw ar hyd y llinell
Mae Llinell Arfordir y Gogledd yn cysylltu ystod eang o gyrchfannau, sy’n hawdd eu cyrraedd ar y trên.
Llandudno
Yn un o’r trefi glan môr mwyaf poblogaidd, mae Llandudno yn berffaith ar gyfer taith gerdded hwylus ger y môr neu i Ben y Gogarth, lle ceir siopau a siopau coffi annibynnol hefyd. Gyda chysylltiadau trên uniongyrchol a gwasanaethau mwy rheolaidd, mae’n berffaith ar gyfer tripiau diwrnod neu wyliau hirach.
trc.cymru/lleoedd/cyrchfannau/llandudno
Prestatyn
Ym Mhrestatyn, ceir traethau hir a thywodlyd, llwybrau arfordirol yn ogystal â mynediad at fan cychwyn taith Clawdd Offa. Mae’n ddewis gwych am dripiau tu allan hamddenol a theithiau cerdded arfordirol, gyda mynediad hawdd at y trên ar draws y llinell.
trc.cymru/lleoedd/pethau-iw-gwneud-yn/mhrestatyn
Caer
Yn ddinas hanesyddol gyda muriau Rhufeinig, siopau bwtîc a diwylliant bwyd gwych, mae Caer yn gyfnewidfa allweddol ar y llwybr. Mae’r gwelliant yn yr amserlen yn gwneud teithio ymlaen rhwng gogledd Cymru a gogledd-orllewin Lloegr yn fwy hwylus nag erioed.
trc.cymru/lleoedd/cyrchfannau/caer
Lerpwl
O amgueddfeydd ac orielau i gerddoriaeth, pêl droed a bywyd nos, mae Lerpwl yn cynnig rhywbeth i bawb. Gyda mwy o drenau’n cysylltu’r ddinas ag Arfordir gogledd Cymru, mae llawer yn haws i gynllunio gwyliau bach i'r ddinas a diwrnodau allan ar y trên.
trc.cymru/lleoedd/cyrchfannau/lerpwl
Cynlluniwch eich taith
Gyda mwy o wasanaethau rheolaidd, nawr yw’r amser i ailddarganfod gogledd Cymru ar y trên.
-
Ymweld â Chaerdydd Dewch i ddarganfod Visit Cardiff
-
Ymweld â Chaer Dewch i ddarganfod Visit Chester
-
Ymweld â Manceinion Dewch i ddarganfod Visiting Manchester
-