
Mae tref glan môr gaerog Dinbych-y-pysgod wedi bod yn boblogaidd gyda thwristiaid ers blynyddoedd lawer. Wedi'i gysgodi rhag cefnfor llym yr Iwerydd a Môr Iwerddon, roedd yn lle naturiol i'r Llychlynwyr ymgartrefu yn y 9fed ganrif. Yn y 1100au, goresgynnodd y Normaniaid, gan adeiladu muriau amddiffynnol y dref a'r castell ym 1158. Sicrhaodd harbwr Dinbych-y-pysgod bwysigrwydd economaidd y dref i Gymru gyda'i hallforion yn cynnwys glo, haearn, gwlân, a chrwyn, ac ym 1566, mwynhawyd orennau o Bortiwgal am y tro cyntaf yng Nghymru.
Gan ddenu ymwelwyr o bob rhan o’r byd, mae gan Ddinbych-y-pysgod waliau sydd wedi’u cynnal yn dda hyd heddiw, ac mae’n adnabyddus am ei thai o Oes Fictoria sydd wedi’u paentio’n ogoneddus, ei diwydiant crefftau a’i thraethau cyfeillgar i deuluoedd. Mae gan yr orsaf reilffordd, yng nghanol y dref, wasanaeth trên rheolaidd, ac mae llawer o leoedd i aros, o wely a brecwast clyd i westai cyfforddus.
1. Adeiladu Cestyll Tywod ar Draeth y Gogledd Dinbych-y-pysgod
Gyda thri thraeth tywodlyd hardd i ddewis ohonynt, Traeth y Gogledd sy'n cynnig y mwyaf. Mae’n gildraeth hyfryd gwarchodol gyda’r llanw i mewn, ond pan fydd y môr yn cilio, mae’r tywod meddal yn ymestyn am ddwy filltir gan ymuno â Thraeth y De. Mae Traeth y Gogledd yn agos at y dref gyda'i holl fwynderau ac mae ganddo fynediad da ar gyfer pawb.
Nid yn unig enillodd Draeth y Flwyddyn y Sunday Times, ond mae Traeth y Gogledd hefyd wedi cael statws baner las, sy'n golygu ei fod yn cael ei gydnabod am ei ansawdd dŵr, diogelwch a rhaglen amgylcheddol. Mae yna hefyd wasanaeth achubwyr bywyd rheolaidd, sy'n ychwanegu at ei boblogrwydd gyda rhieni plant ifanc.
Ychydig oddi ar y traeth, mae Craig y Santes Catrin yn codi o’r môr. Yn ynys ar lanw, mae’r graig yn gartref i gaer Napoleonaidd a adeiladwyd yn 1867 ac sy’n enwog am ei bywyd gwyllt morol a’i phlanhigion. Dysgwch am hanes hynod ddiddorol yr ynys ar daith y gellir ei harchebu yn Ninbych-y-pysgod.
- Perffaith ar gyfer hwyl i'r teulu
- Traeth Baner Las
- Gwefan Traeth y Gogledd Dinbych-y-pysgod
2. Archwiliwch y Parc Deinosoriaid
I gael profiad cwbl unigryw, mentrwch i'r coed o amgylch Dinbych-y-pysgod. Yno fe welwch ddeinosoriaid gwyllt, ffyrnig yn cuddio o amgylch pob cornel, neu'n chwalu trwy'r coed wrth hela eu cinio. Mae’r Parc Deinosoriaid yn darparu diwrnod allan delfrydol i edmygwyr deinosoriaid.
Trwy’r goedwig clychau’r gog, ac ar draws nentydd clir fel grisial, bydd tywyswyr yn eich cyflwyno i’r deinosoriaid mwy cyfeillgar, fel y Brachiosaurus sy’n bwyta planhigion a’r Triceratops hoffus.
Mae gan y parc ddigonedd o atyniadau eraill hefyd, gan gynnwys ceir corwynt, cychod disgo, tractorau a thrampolinau nerthol. Mae'r Ribcage Cafe ar y safle yn cynnig prydau a byrbrydau ffres blasus, ac mae'r siop yn llawn anrhegion, llyfrau a mwy.
P'un ai ydych chi'n edmygwyr deinosoriaid neu os oes gennych chi blant na allant gael digon o'r madfallod cennog, mae'n rhaid ymweld â’r Parc Deinosoriaid.
- Mwynhewch antur deinosoraidd
- Tocynnau o £12.95
- Gwefan Parc Deinosoriaid
3. Ewch yn Wyllt ym Mharc Bywyd Gwyllt y Faenor
Mae Parc Bywyd Gwyllt y Faenor, sy’n ymestyn dros fwy na 52 erw, yn un o atyniadau mwyaf poblogaidd Dinbych-y-pysgod, ac mae’n cael ei gydnabod yn eang fel un sydd â rhai o’r prosiectau bridio caeth gorau yn y wlad. Mae’r pâr o deigrod Swmatraidd sydd mewn perygl enbyd yn rhan o’r Rhaglen Rhywogaethau Mewn Perygl Ewropeaidd, ac ynghyd â phrosiect bridio caeth y rheinoseros gwyn, yn arddangos ethos cadwraeth cryf y sw.
Nodwedd o'r sw yw ei arddangosion y medrir ymlwybro drwyddynt. Mae hyn yn galluogi ymwelwyr i fod yn agos ac yn bersonol gyda'r anifeiliaid. Mae rhannu cinio lemwr, eistedd yng nghanol y walabïod, mwytho pandas coch a dal dwylo gyda giboniaid oll yn gwneud Parc Bywyd Gwyllt y Faenor yn unigryw ym myd y sŵau. Gyda phedair rhywogaeth o lemwriaid, mwncïod, sebras a meerkatiaid, mae rhywbeth yn digwydd bob eiliad.
Mae cyfleoedd i fabwysiadu eich hoff anifail gyda diweddariadau rheolaidd, lluniau a theganau meddal. Mae hyn yn helpu i ariannu cadwraeth hanfodol yr anifeiliaid hyn yn y gwyllt. Mae gan y sw atyniadau eraill, gan gynnwys castell neidio enfawr, mannau chwarae a chaffi ar y safle sy’n gweini prydau blasus wedi’u paratoi’n ffres.
- Profwch fywyd gwyllt y byd yma yng Nghymru
- Tocynnau o £15.95
- Parc Bywyd Gwyllt y Faenor
4. Dewch i gwrdd â meerkatiaid a llewod grymus yn Folly Farm
Yn ddwfn yng nghanol Sir Benfro, yng Nghilgeti, mae Cymru’n trawsnewid i’r Safana Affricanaidd, lle mae llewod yn crwydro, rhinos yn ymdrochi a jiraffod yn crwydro. Heb fod yn rhy bell o diroedd gwyllt Affrica, gallwch brofi'r gorau sydd gan Asia i'w gynnig, gan gynnwys pandas coch del a blewog, cathod llewpart, a phelicaniaid gyda’i pigau hirion.
Ond gyda 120 erw o hwyl, mae Folly Farm yn cynnig cymaint mwy. Ochr yn ochr â’r 250 o anifeiliaid egsotig, gallwch gwrdd ag anifeiliaid fferm, gan gynnwys perchyll â’u gwichian, geifr, merlod, a chwningod. Gydag ieir, alpacas, a hyd yn oed tylluanod gwyn hardd, mae yna anifeiliaid di-rif yma, ac ar ôl i chi gael eich digoni gan y rhai fflwfflyd, beth am fynd i un o'r wyth man chwarae antur neu'r ffair?
Mae eich hoff reidiau i gyd yma - mae 17 o reidiau gwahanol yn y ffair hen-ffasiwn gan gynnwys olwyn fawr enfawr, meri-go-rowndiau, ceir taro a llawer mwy.
Gan ei bod yn aelod o Gymdeithas Sŵau ac Acwaria Prydain ac Iwerddon (BIAZA) a Chymdeithas Sŵau ac Acwaria Ewrop (EAZA), mae Folly Farm yn chwarae rhan bwysig mewn cadwraeth, ac os dymunwch, trwy fabwysiadu eich hoff anifail, gallwch chithau hefyd helpu i warchod anifeiliaid yn eu hamgylchedd naturiol. Dim ond 1.3 milltir o orsaf reilffordd Cilgeti, mae'n ddiwrnod allan gwych i'r teulu cyfan.
- 120 erw o wylio bywyd gwyllt gyda 250 o anifeiliaid egsotig
- Sw fwytho gydag anifeiliaid fferm
- Mabwysiadwch eich hoff anifail
-
Ymweld â Chaerdydd Dewch i ddarganfod Visit Cardiff
-
Ymweld â Chaer Dewch i ddarganfod Visit Chester
-
Ymweld â Manceinion Dewch i ddarganfod Visiting Manchester
-