Ni yw'r dyfal doncwyr | We'll do what it takes

Rydyn ni wedi bod yn gweithio’n galed i adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth rydych chi’n ei haeddu. Ni yw hoff ffordd o deithio pobl Cymru - dyma'r nod.

Dyfal donc a dyr y garreg yw hi.

Fe wnawn ni gyrraedd y nod oherwydd ymrwymiad a dyfalbarhad ein tîm. Mae gyda ni griw dygn o ddyfal doncwyr fydd yn gweithio’n ddiflino er mwyn cynnig ffordd fwy dibynadwy, cynaliadwy a fforddiadwy o deithio i chi.

Rydyn ni'n gwybod pa mor bwysig yw hi i glywed gennych chi, a dyna pam rydyn ni wedi rhannu arolwg ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol yn ddiweddar, i ddeall beth rydych chi'n ei feddwl a sut y gallwn ni wella ... roedd eich adborth yn onest, ond ddim yn ddrwg i gyd.

TDiolch byth, mae llawer ohonoch yn sylwi ar y gwelliannau rydym wedi'u gwneud ar draws y rhwydwaith, a gobeithiwn y byddan nhw’n rhoi blas i chi o'r dyfodol.

Weithiau dydy hi ddim yn amlwg iawn pa waith rydyn ni’n ei wneud, felly dyma enghreifftiau o’r ffyrdd rydyn ni’n dangos mai ni yw’r dyfal doncwyr.

Felly, beth sydd wedi bod yn digwydd?

 

Rhai o’r ffyrdd rydyn ni eisioes yn dyfal doncio

Ni yw'r dyfal doncwyr | We'll do what it takes

Trenau

  • Mae eich depo Metro newydd a’ch Canolfan Reoli Integredig yn Ffynnon Taf bellach yn gwbl weithredol, ac yn cynnal 36 o drenau tram a chyfleoedd cyflogaeth lleol cynyddol.

  • Mae eich amserlen newydd sbon ar gyfer Cymoedd De Cymru bellach yn cynnwys gwasanaethau amlach rhwng Pontypridd, Caerffili, Cwm Rhymni a Chaerdydd.

  • Mae trenau newydd sbon (231s) bellach yn rhedeg ar reilffyrdd Cwm Rhymni.

  • Mae lein Treherbert bellach wedi ailagor. Gwyddom fod 9 mis yn hir i wneud y gwaith trawsnewid, ond fe gymerodd beth amser i uwchraddio seilwaith oedd yn dyddio’n ôl i’r 1930au.

  • Mae llinellau Methyr Tudful, Aberdâr, Treherbert a Phontypridd i Gaerdydd bellach wedi'u trydaneiddio, sy'n golygu teithiau trên mwy cynaliadwy a chyflymach. Gyda llinell Coryton a llinell isaf Cwm Rhymni i ddod yn fuan.

Ers 2022 rydym wedi amnewid bron i 50% o’n fflyd gyda threnau newydd

 


 

Ni yw'r dyfal doncwyr | We'll do what it takes

Bysiau

  • Mae Cyfnewidfa Fysiau newydd Caerdydd bellach ar agor gan wneud cysylltiadau’n haws ar draws y ddinas.

  • Gallwch nawr brynu tocynnau trên a bws integredig ar lwybr T1 Traws Cymru, a byddwn yn cynnig tocynnau integredig ar fwy o lwybrau yn fuan.

  • Mae eich gwasanaeth Fflecsi bellach ar gael mewn 16 parth ar draws Cymru.

  • Gall cwsmeriaid yng Ngogledd Cymru deithio ar y rhan fwyaf o fysiau gyda thocyn 1bws am y diwrnod cyfan am £7.00.

  • Mae staff Hywel Dda bellach yn cael prisiau gostyngol ar lwybrau T1, T1A, T1X a T2 a T28 TrawsCymru.

  • Mae Gwasanaeth Data Bysiau Cymru bellach yn cyfuno holl ddata bysiau Cymru gan ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf am deithiau ar ein harddangosfeydd electronig a'r wefan i gwsmeriaid.

Gallwch gael diweddariadau teithio amser real ar ap a gwefan TrC

 


 

Ni yw'r dyfal doncwyr | We'll do what it takes

Teithio llesol

  • Mae Trafnidiaeth Cymru yn chwarae rhan allweddol yn rheolaeth y Gronfa Teithio Llesol ar ran Llywodraeth Cymru. Y llynedd, fe wnaethom gefnogi pob un o’r 22 Awdurdod Lleol yng Nghymru i ddatblygu ac adeiladu seilwaith teithio llesol gwerth £46m yn benodol. Nod y gwelliannau hyn yw gwneud teithiau bob dydd yn haws i bobl Cymru ac i wneud dewisiadau teithio cynaliadwy.

  • Rydym yn ailgynllunio a datblygu llwybrau teithio llesol er mwyn helpu i bobl deithio'n haws bob dydd ar droed, ar olwynion neu ar feic.

  • Rydym yn cefnogi awdurdodau lleol yn rhagweithiol trwy ddarparu gweithdai a hyfforddiant i amlygu arfer gorau, darparu asedau defnyddiol ac annog pobl i gydweithio.

  • Rydym yn cefnogi’r gwaith o fapio ein rhwydwaith teithio llesol i’w gwneud yn haws i chi deithio ar droed, ar olwynion neu ar feic yn eich cymuned. 

  • Rydym yn gweithio gyda phartneriaid i greu mannau cyhoeddus diogel, dymunol a hygyrch ar gyfer ein cymunedau.

  • Gan weithio gydag awdurdodau lleol a chymdeithasau tai, rydym yn gwella cyfleusterau parcio beiciau ar strydoedd gan gynnwys llochesi beiciau.