Meinciau treftadaeth wedi'u llunio gan Gymuned Rhondda Fach
Cefndir
Creodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf lwybr cyhoeddus newydd 2.5km o hyd rhwng Maerdy a Tylorstown yn ystod y flwyddyn ariannol 2023/4. Cyn y trawsnewidiad hwnnw, roedd y llwybr yn un go garw. Mae'r llwybr newydd wedi'i darmacio felly gellir ei ddefnyddio gan gerddwyr, defnyddwyr cadair olwyn a beicwyr. Er mwyn annog mwy o ddefnydd o'r llwybr, gosododd y cyngor feinciau a oedd yn dathlu hanes a diwylliant yr ardal.
Meinciau wedi'u llunio i arddangos arddulliau traddodiadol a hanesyddol, ac wedi'u haddasu gyda nodweddion megis placiau neu hysbysfyrddau at ddibenion coffa yw meinciau treftadaeth, gan eu gwneud nid yn unig yn swyddogaethol ond hefyd yn addysgol ac yn adnoddau cymunedol.
Y nodau oedd:
- Gosod meinciau treftadaeth ar hyd Llwybr Cymunedol Rhondda Fach, pob un â hysbysfwrdd sy'n rhannu hanes lleol.
- Cynnwys y gymuned wrth lunio themâu coffa.
- Darparu seddi i gerddwyr ar hyd y llwybr teithio llesol newydd rhwng y Maerdy a Tylorstown.
Ymgysylltu â'r gymuned
Arweiniodd y cyngor broses ymgysylltu ar y cyd, gan ymgynghori â haneswyr lleol, grwpiau amgylcheddol, yr ysgol gynradd leol, ac archifau. Hefyd, defnyddiwyd cyfryngau cymdeithasol i gasglu mewnbwn cymunedol ehangach. Mae'r themâu a ddewiswyd ar gyfer pob mainc yn adlewyrchu'r ymgysylltiad hwn yn uniongyrchol, gan sicrhau bod straeon a lleisiau lleol wrth galon y dyluniad.
Hyd yn hyn, mae pedair mainc wedi'u gosod ar hyd y llwybr. Mae'r meinciau yn coffáu:
Mwyngloddio yn dod i ben yng nghymoedd y Rhondda - mainc wedi'i lleoli ger hen Bwll Glo’r Maerdy.
Frank Owen, gwirfoddolwr Rhyfel Cartref Sbaen. Mae ei fainc ef wedi'i lleoli ger ei gofeb, â'r slogan Gweriniaethol Sbaenaidd "No Pasarán" wedi’i gerfio ynddi.
Menywod arloesol y Maerdy - i goffáu'r Grŵp Cymorth i Fenywod cyntaf yn ne Cymru a'u rôl yn Streic y Glowyr yn 1984-5.
Ager-beiriant neu injan stem ‘Mary No.1’ - a adeiladwyd ym 1954 i’w ddefnyddio ym Mhwll Glo’r Maerdy. Mae'r fainc hefyd yn cyfeirio at rywogaeth newydd o filtroed a geir yn y Maerdy yn unig, Miltroed Y Maerdy neu “Anghenfil Maerdy”, fel y gwelir ar y fainc ei hun.
Yr hyn a ddysgwyd
Cyfrannodd y gymuned at syniadau a chynnig adborth cadarnhaol. Datryswyd yr unig fater a godwyd - safle a chyfeiriadedd mainc un - yn gyflym, gan ddangos bod y cyngor yn frwd i gydweithio. Meithrinodd yr ymgysylltiad ymdeimlad o berchnogaeth a balchder yn y prosiect.
Canlyniad
Bydd cynlluniau ar gyfer meinciau ychwanegol yn parhau i adeiladu ar y dull hwn a arweinir gan y gymuned.
Mynegodd Jean Jones, aelod o Grŵp Cymorth i Fenywod y Maerdy, ei gwerthfawrogiad am y gydnabyddiaeth o gyfraniadau menywod lleol:
"Rydyn ni mor falch eich bod chi'n mynd i gydnabod y cryfder y cwm."
Nodyn: Mae mannau parhaol ar gyfer cyfrif teithiau llesol wedi'u sefydlu i fonitro newidiadau i deithiau cerddwyr a beicwyr ar hyd y llwybr hwn. Bydd yr astudiaeth achos yn cael ei diweddaru unwaith i'r data gyrraedd.