Ymunwch â Phanel Mewnwelediadau TrC

Rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd o wella ein gwasanaethau. O deithiau gwell i ffyrdd mwy craff a chynaliadwy o deithio. Ein Panel Mewnwelediadau yw eich tocyn i fod yn rhan o'r dyfodol hwnnw.

Fel aelod, cewch wahoddiadau unigryw i roi cynnig ar offer digidol newydd ac archwilio nodweddion sydd ar ddod cyn iddynt fynd yn fyw. Byddwch yn helpu i lunio'r profiad i filoedd o deithwyr eraill ledled Cymru.

Rydym hefyd yn aml angen cyfranogwyr ar gyfer sesiynau profi defnyddwyr 1-i-1 o bell. Rydym yn tueddu i gynnig talebau siopa stryd fawr fel gwobr am gymryd rhan.

Boed yn dreialu ap wedi'i ailgynllunio, rhoi adborth ar wasanaethau digidol newydd neu'n llunio'r ffordd y mae tocynnau'n gweithio yn y dyfodol - mae eich llais chi’n bwysig.

Rydym yn adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth sy'n rhoi pobl yn gyntaf, ac nid oes ffordd well o wneud hynny na thrwy weithio gyda'r bobl sy'n ei ddefnyddio bob dydd. Ymunwch â'r Panel Mewnwelediadau a byddwch yn rhan o'r daith.

Ymunwch â Phanel Mewnwelediadau TrC

 

Eich cwestiynau wedi'u hateb

A yw profion defnyddwyr yn brofion grŵp?

Na - dim ond sesiynau 1-i-1 o bell rydyn ni'n eu gwneud, neu ofyn am eich adborth drwy arolygon neu ffurflenni adborth yn yr ap.

Pa mor hir mae profion defnyddwyr neu ymchwil marchnad yn para?

Weithiau, gall fod mor hawdd â llenwi ffurflen neu arolwg byr. Bydd sesiynau 1-i-1 o bell yn cymryd tua 45 munud i 1 awr o'ch amser. Byddwn yn gofyn i chi wneud ychydig o dasgau ar gyfrifiadur, tabled neu ffôn symudol. Fel arfer, rydym yn cynnig cymhelliad ariannol am fynychu'r sesiynau hyn, fel taleb siopa ar gyfer siopau’r stryd fawr neu gerdyn rhodd Amazon.

A yw profion defnyddwyr neu ymchwil marchnad yn brawf o fy sgiliau neu wybodaeth?

Ddim o gwbl. Un ffordd y mae cwmni neu fusnes yn gwella eu gwefan neu apiau yw rhoi cynnig arni gyda phobl fel chi a gwneud nodiadau ar sut i'w gwella i chi. Gan eich bod yn un o lawer o'n cwsmeriaid y gallem fod yn siarad â nhw, mae hyn i gyd yn ymwneud â dod o hyd i batrymau yn y ffordd y mae pobl yn defnyddio ein gwasanaethau.

Pa fath o dasgau ydw i'n eu gwneud yn ystod sesiwn ymchwil marchnad 1-i-1?

Enghraifft o dasg fyddai 'Defnyddiwch Google i ddod o hyd i wefan Trafnidiaeth Cymru - nawr dywedwch wrthym beth yw eich barn am y dyluniad'. Tasg arall fyddai 'Gadewch i ni ddychmygu ein bod ni'n teithio o Fanceinion i Wrecsam. Allwch chi ddangos i mi sut y byddem ni'n dod o hyd i lwybrau teithio?'

Ydw i'n cael fy nhalu neu unrhyw beth am fy amser?

Nid yw pob un o'n gweithgareddau Panel Mewnwelediadau yn cynnig cymhellion, ond mae ein sesiynau 1-i-1 o bell sy’n para 45 munud - 1 awr yn eu cynnig. Fel arfer, cynigir taleb siopa ar gyfer siopau’r stryd fawr neu gerdyn rhodd Amazon. Os byddai'n well gennych daleb arall, gallwn fel arfer drefnu hyn i chi, os cewch eich dewis i dderbyn un.

Beth allech chi ofyn i mi ei wneud fel rhan o raglen y Panel Mewnwelediadau?

Efallai y byddwn yn gofyn i chi roi eich adborth gonest i ni am ap, dyluniad gwefan neu wasanaeth. Weithiau efallai y byddwn yn gofyn i chi gwblhau arolwg byr, neu roi cynnig ar wasanaeth newydd nad yw wedi'i ryddhau i'r cyhoedd eto. Efallai y byddwn yn gofyn i chi wneud galwad ymchwil marchnad o bell, 1-i-1, gyda chymhelliad ariannol, y byddech chi'n ei wneud gan ddefnyddio'ch ffôn, tabled neu gyfrifiadur, neu wneud cyfweliad gyda ni.